Paratoi a chynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon

URN: LANH26
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi ac yn cynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon. 

Bydd hyn yn cynnwys clirio malurion oddi ar y cae chwaraeon, ei farcio a'i nodi ar gyfer digwyddiadau chwaraeon gwahanol, creu arwynebedd i'r cyflymder dymunol, ymateb yr arwynebedd i'r bêl, anifail, gwlybaniaeth, gorchudd glaswellt, calediad a chywirdeb yn unol â gofynion y gamp a'r safon ar gyfer y digwyddiad.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n ofynnol ar gyfer paratoi a chynnal arwynebeddau caeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir
  4. clirio arwynebeddau caeau chwaraeon o falurion annymunol
  5. paratoi arwynebedd chwarae'r cae chwaraeon fel ei fod yn bodloni gofynion y gamp a'r safon ar gyfer y digwyddiad yn unol â'r manylebau
  6. cynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon i wella ansawdd ac ymddangosiad
  7. nodi'n glir yr arwynebedd cae chwarae sy'n briodol i'r digwyddiad chwaraeon
  8. nodi'r offer chwaraeon sy'n ofynnol yn ôl rheolau'r gamp a safon y digwyddiad
  9. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol perthnasol
  10. glanhau offer, cyfarpar a pheiriannau a'u storio'n ddiogel
  11. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
  12. gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
  13. adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl paratoi a chynnal arwynebedd y cae chwaraeon

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi a chynnal arwynebeddau caeau chwaraeon

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. y mathau o offer, cyfarpar a pheiriannau sydd yn ofynnol ar gyfer paratoi a chynnal arwynebeddau caeau chwaraeon a sut i baratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. sut mae cyflwr y ddaear yn effeithio ar baratoi a chynnal arwynebeddau caeau chwaraeon
  5. pam y mae'n bwysig clirio malurion annymunol oddi ar arwynebeddau caeau chwaraeon 
  6. y dulliau a ddefnyddir ar gyfer paratoi a chynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon
  7. effeithiau'r tymor, yr hinsawdd a chyflwr y pridd ar ddwyster, math ac amlder gweithrediadau cynnal
  8. sut i farcio'r arwynebedd cae chwaraeon sy'n briodol i chwaraeon a digwyddiadau
  9. safon ofynnol arwynebeddau caeau chwaraeon ar gyfer digwyddiadau gwahanol
  10. y rheolau sydd yn llywodraethu'r campau perthnasol a'r ffordd y maent yn effeithio ar baratoi a chynnal arwynebeddau caeau chwaraeon
  11. pam y mae'n bwysig nodi offer chwaraeon i reolau'r gamp a safon y digwyddiad a'r hyn allai ddigwydd pe na fyddech yn gwneud hyn
  12. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  13. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  14. sut i lanhau a storio offer, cyfarpar a pheiriannau yn ddiogel ac yn gywir
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
  16. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus

Cwmpas/ystod

A.         defnyddio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth baratoi a chynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon:

  1. offer llaw 
  2. offer wedi eu pweru 

B.         defnyddio'r dulliau canlynol i baratoi a chynnal cyflwr arwynebeddau caeau chwaraeon:

  1. torri glaswellt 
  2. dyfrhau
  3. crafu a thorri fertigol
  4. rholio
  5. gwrteithio o'r brig
  6. brwsio neu gyfnewid
  7. awyru
  8. ymylu (lle y bo'n briodol)
  9. bwydo
  10. twtio
  11. marcio arwynebedd chwaraeon
  12. gosod offer
  13. cribino

C.         cynnal agweddau canlynol y safon ar gyfer yr arwynebedd:

  1. cyflymder
  2. ymateb arwynebedd i bêl, anifail neu chwaraewr
  3. gwlybaniaeth
  4. gorchudd glaswellt
  5. graddau cyfnerthiad
  6. gwirionedd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH26

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

chwaraeon; cae; maes; tir; cwrs golff; cae rasio; pyllau tywod