Cynnal iechyd caeau chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal iechyd caeau chwaraeon er mwyn iddynt fod yn addas ar gyfer chwarae.
Mae'n cynnwys ymdrin â chwyn, mwsogl, plâu, clefydau a diffygion eraill.
Mae ond yn addas ar gyfer y rheiny all wneud y gwaith a ddisgrifir o dan oruchwyliaeth gyfyngedig yn unig.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
adnabod amodau sydd yn bygwth iechyd y cae chwaraeon a hysbysu ynghylch y rhain yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad
dewis, defnyddio, cynnal a storio offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer cynnal iechyd caeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir
rhoi triniaethau ar gaeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
adfer safle'r cae chwaraeon i gyflwr glân a thaclus
cynnal iechyd cae chwaraeon mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos, ac yn cadw llygredd amgylcheddol mor isel â phosibl
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal iechyd cae chwaraeon
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y rhesymau dros reoli chwyn, plâu, clefydau, mwsogl a diffygion ar arwynebeddau chwaraeon
- yr amodau sydd yn gallu effeithio ar iechyd cae chwaraeon
- pryd a phwy i'w hysbysu ynghylch amodau sy'n effeithio ar iechyd cae chwaraeon
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer cynnal iechyd cae chwaraeon a sut i baratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn ddiogel ac yn gywir
- effeithiau triniaethau caeau chwaraeon a sut i ddefnyddio triniaethau yn gywir
- pwysigrwydd dilyn y gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer triniaethau caeau chwaraeon
- pam dylid cymhwyso'r triniaethau mewn ffordd amserol
- defnyddio a chymhwyso plaladdwyr gwahanol wrth gynnal iechyd caeau chwaraeon
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- sut i lanhau a storio offer a chyfarpar sydd eu hangen i reoli amodau sy'n effeithio ar iechyd caeau chwaraeon a pham mae mesurau diogelwch yn bwysig
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a ffyrdd o'i leihau
- pwysigrwydd adfer safle'r cae chwaraeon i gyflwr glân a thaclus
- y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sydd yn llywodraethu'r defnydd o driniaethau ar gyfer caeau chwaraeon
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
chwyn
plâu
clefydau
diffygion
mwsogl
ffisegol
cemegol
triniaethol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rheoli plâu, clefydau a diffygion, chwyn a mwsogl mewn caeau chwaraeon trwy ddulliau ffisegol, triniaethol a chemegol gan ddefnyddio offer llaw ac wedi ei bweru.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol