Cynnal arwynebeddau glaswellt

URN: LANH24
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal arwynebeddau glaswellt.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. archwilio'r arwynebeddau glaswellt i nodi ac asesu'r angen i adnewyddu ac atgyweirio
  4. paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar gofynnol ar gyfer cynnal arwynebeddau glaswellt yn ddiogel ac yn gywir
  5. clirio unrhyw falurion cyn dechrau'r gweithrediadau
  6. sicrhau bod arwyneb y glaswellt mewn cyflwr priodol ar gyfer ei gynnal
  7. defnyddio dulliau o ymdrin â bygythiadau i iechyd sy'n briodol i'r glaswellt a'i gyflwr
  8. cynnal golwg yr arwynebedd glaswellt yn unol â'r manylebau
  9. atal niwed i'r ardal gyfagos, a chadw llygredd amgylcheddol mor isel â phosibl
  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. gwaredu toriadau glaswellt a gwastraff arall yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  12. glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar er mwyn cynnal arwynebeddau glaswellt yn ddiogel ac yn gywir
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal arwynebeddau glaswellt
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd gwirio arwynebeddau glaswellt yn rheolaidd a'r ffordd y mae hyn yn amrywio yn ôl y math o laswellt a'r diben a fwriadwyd
  4. sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n ofynnol ar gyfer cynnal arwynebeddau glaswellt yn ddiogel ac yn gywir
  5. yr amodau sy'n briodol ar gyfer torri glaswellt
  6. cyfnodau datblygiad glaswellt
  7. yr effaith y mae'r tymhorau a chyflwr y pridd yn ei gael ar dwf a chynnal arwynebeddau glaswellt
  8. dulliau o gynnal iechyd y planhigyn glaswellt
  9. sut i adnabod plâu, clefydau a niwed i arwynebeddau glaswellt a chymryd camau priodol
  10. effeithiau rhannu a gadael toriadau glaswellt yn y fan a'r lle
  11. pwysigrwydd atal niwed i'r ardal gyfagos
  12. peryglon gwneud gwaith ar hyd y briffordd gyhoeddus ac arwynebeddau sydd ar ogwydd
  13. goblygiadau defnyddio offer a pheiriannau dros gyfnod estynedig
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  15. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  16. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

A.      adnabod ac ymdrin â'r bygythiadau canlynol i iechyd cae wrth gynnal arwynebeddau glaswellt: 
  • plâu 

  • clefydau  

  • diffygion  
  • amodau anffafriol
  • twf cystadleuol


B.      defnyddio'r dulliau canlynol i ymdrin â bygythiadau i iechyd wrth gynnal arwynebeddau glaswellt:

  • ffisegol 

  • cemegol

  • tyfiannol
  • dyfrhau


C.      paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth gynnal arwynebeddau glaswellt:

  • offer llaw 

  • strimwyr

  • peiriannau torri glaswellt wedi eu rheoli gan gerddwyr  
  • peiriannau torri glaswellt sy'n cael eu gyrru


D.      defnyddio'r dulliau canlynol i gynnal y cae:

  • torri'r glaswellt

  • torri'r ymylon

  • bwydo
  • dyfrhau
  • gwrteithio o'r brig
  • atgyweirio

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Cynnal iechyd: plâu, clefydau, diffygion, amodau anffafriol, twf cystadleuol.

Dulliau o ymdrin â’r bygythiadau i iechyd: ffisegol, cemegol, tyfiannol, dyfrhau. 

Cynnal y glaswellt: torri’r glaswellt, strimio, torri’r ymylon, bwydo, dyfrhau, gwrteithio o’r brig, atgyweirio.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.

Offer a chyfarpar: offer llaw, strimwyr, peiriannau torri glaswellt wedi eu rheoli gan gerddwyr, peiriannau torri glaswellt sy’n cael eu gyrru.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL3

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn, Garddwyr, Tirlunwyr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cae; arwynebedd; strimiwr; torri glaswellt; bwydo; glaswellt; llethrau