Datgladdu coffinau a gweddillion
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes datgladdu coffinau a gweddillion.
Mae'r gofyniad i weithio o fewn darpariaethau cyfreithiol clir a safonau hylendid uchel yn eithriadol o bwysig. Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gennych y trwyddedau gofynnol a'r awdurdodiad i ddatgladdu coffinau neu weddillion
- gwneud y datgladdu yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- lleoli'r bedd a nodwyd i'w ddatgladdu
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgaredd gofynnol
- gosod sgrin o amgylch y bedd a nodwyd
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis offer a chyfarpar sy'n briodol ar gyfer y math o ddatgladdu a chyflwr y pridd
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a pheiriannau ar gyfer datgladdu yn unol â manylebau, yn ddiogel ac yn gywir
- chwilio yn ofalus i leoli'r coffin yn safle'r bedd
- cloddio o fewn y pellter penodedig o'r coffin
- diheintio'r pridd a'r ardaloedd halogedig trwy gydol y broses
- clirio pridd o amgylch y coffin gan adael digon o le i gael mynediad yn ddiogel ac yn gywir
- gosod cymhorthion codi yn gywir a chodi mewn ffordd sydd yn lleihau'r niwed i'r coffin a'r gweddillion
- trin y coffin ar ôl y codi cychwynnol mewn ffordd sy'n briodol i gyflwr y pridd a'r coffin
- gosod y coffin a'r gweddillion mewn cynhwysydd addas yn unol â'r gofynion cyfreithiol a'r manylebau perthnasol
- adfer safle'r bedd yn daclus ac yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol a manylebau perthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dangos gofal a pharch i'r ymadawedig trwy gydol y gweithrediad
- prosesu offer a deunyddiau a ddefnyddiwyd yn ddiogel ac yn lân wrth gwblhau'r gweithrediad
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y trwyddedau a'r awdurdod gofynnol y mae'n rhaid i chi eu cael cyn datgladdu
- y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol yn cynnwys datgladdu coffinau a gweddillion
- pam fod paratoi'n drwyadl ar gyfer datgladdu yn bwysig
- pam y mae'n bwysig lleoli'r bedd cywir a sut i wneud hynny
- sut i nodi peryglon ac asesu risg cyn datgladdu coffinau a gweddillion
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a pheiriannau mewn cyflwr diogel a chywir
- pam y mae'n bwysig sgrinio a gorchuddio'r safle o olwg y cyhoedd a sut i wneud hynny
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i leoli'r coffinau a'r gweddillion
- pam y mae'n bwysig chwilio mewn ffordd sy'n lleihau niwed i'r coffin a'r gweddillion a sut i wneud hynny
- pam y dylai cloddio cychwynnol ond mynd i bellter penodol o'r coffin a beth yw'r pellter hwnnw
- pam mae diheintio ardaloedd halogedig trwy gydol y broses ac ar ddiwedd y gweithrediad yn bwysig
- deunyddiau a ddefnyddir ar gyfer diheintio pridd ac ardaloedd halogedig o amgylch safle'r bedd
- faint o le sydd ei angen o amgylch y coffin i gael mynediad diogel a chywir
- sut i osod cymhorthion codi a chodi'r coffin mewn ffordd sy'n lleihau niwed i'r coffin a'r gweddillion
- sut i drin y coffin ar ôl y codi cychwynnol yn unol â chyflwr y pridd a'r coffin
- pam dylid gosod y coffin a'r gweddillion mewn cynhwysydd addas a beth ddylai'r cynhwysydd hwn fod
- sut i adfer safle'r bedd yn daclus ac yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol a manylebau perthnasol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dangos parch tuag at yr ymadawedig tra'n datgladdu coffinau a gweddillion
- sut i brosesu offer a deunyddiau yn ddiogel ac yn lân ar ôl datgladdu
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
2. mesur
3. cloddio
4. diogelwch
5. dillad amddiffynnol
6. cragen, coffin neu gynhwysydd addas
7. ategu
8. offer anadlu
2. calch
3. siarcol llysiau
2. sych
3. clai
4. tywod/cerigos
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mathau o offer:
• chwilio
• mesur
• cloddio
• diogelwch
• dillad amddiffynnol
• cragen, coffin neu gynhwysydd addas
• ategu
Mathau o ddeunydd:
• diheintydd
• calch
• siarcol llysiau
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol, dogfennau cyfreithiol perthnasol.