Paratoi ar gyfer claddu ac adfer lleiniau claddu
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi ar gyfer claddu ac adfer lleiniau claddu.
Trwy gydol y gweithrediadau, byddwch yn dangos parch tuag at yr ymadawedig a'r galarwyr.
Mae'n rhaid i'r holl weithrediadau gael eu gwneud gan roi sylw dyledus i ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer y diwydiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
sicrhau bod yr awdurdodiad gofynnol cyn claddu wedi cael ei roi
lleoli’r llain gywir ar gyfer y claddu penodedig
asesu parodrwydd y safle a diogelwch cyn claddu a chymryd camau perthnasol lle bo angen
gwisgo gwaelod y bedd lle bo angen
gwirio cyflwr a safle offer fel rhaffau, pytlogau a matiau glaswellt i baratoi ar gyfer claddu
cyfyngu mynediad i lain claddu gan aelodau’r cyhoedd
cadw cyflwr y llain gladdu mewn cyflwr diogel a phriodol cyn i’r ymdaith gyrraedd
cyfeirio’r ymdaith i ochr y bedd yn gywir
ymdrin â phroblemau o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
dangos parch tuag at yr ymadawedig, y galarwyr a’r rheiny sydd yn gweinyddu trwy gydol y seremoni
gwneud yr holl weithrediadau ar ôl i’r galarwyr adael yn unol â’r manylebau
llenwi’r llain gladdu yn unol â’r manylebau a chyflwr y pridd
trefnu teyrngedau blodau yn drefnus, gan ddangos parch tuag at yr ymadawedig a’r galarwyr
adfer a gadael y llain gladdu mewn cyflwr taclus a diogel
symud yr offer a’r adnoddau mewn ffordd ddiogel a chywir
glanhau a storio offer yn ddiogel ac yn gywir
cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y peryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi ac adfer lleiniau claddu
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y gweithdrefnau awdurdodi ar gyfer claddu
- sut i leoli’r llain gladdu gywir
- sut i asesu’r safle cyn claddu
- yr amser sy’n ofynnol i baratoi’r safle i fodloni’r manylebau
- yr offer a’r adnoddau sy’n ofynnol i baratoi ar gyfer claddu ac adfer lleiniau claddu a sut i sicrhau eu bod mewn cyflwr gweithredol da
- manylion ategu, deunydd gwisgo ac adeiladu blwch pridd
- pam y mae’n bwysig cyfyngu mynediad cyhoeddis i’r llain gladdu
- sut i gadarnhau bod y safle claddu yn y cyflwr cywir cyn i’r ymdaith gyrraedd
- sut i osod rhaffau gostwng yn ddiogel ac mewn ffordd briodol ar gyfer y coffin a’r amodau
- sut i ymateb i broblemau a allai godi o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
- yr ymddygiad sydd yn addas ar gyfer mathau gwahanol o seremonïau, diwylliannau ac arferion a pham y mae hyn yn bwysig
- pam y mae’n bwysig dangos parch tuag at bawb cysylltiedig trwy gydol y seremoni
- pam y dylid cynnal yr holl weithrediadau ar ôl i’r galarwyr adael
- y ffordd briodol o wneud gwaith ôl-lenwi sylfaenol ar y llain gladdu
- sut i sicrhau bod yr ôl-lenwi sydd yn weddill yn ddiogel ac yn briodol i amodau’r pridd
- sut i drefnu’r teyrngedau blodau mewn ffordd drefnus sydd yn dangos parch tuag at yr ymadawedig a’r galarwyr a pham y mae’n bwysig gwneud hynny
- sut i symud offer ac adnoddau mewn ffordd ddiogel a chywir
- sut i adfer y llain gladdu i sicrhau ei bod wedi cael ei gadael mewn cyflwr glân a thaclus
- sut i lanhau a storio’r offer a’r adnoddau mewn ffordd ddiogel
- y cofnodion sydd angen eu cwblhau
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
2. matiau glaswellt
3. rhaffau gostwng
4. pytlogau
5. pympiau a pheiriant turio (os oes angen hynny)
6. mecanyddol
7. blwch pridd
2. cyflwyno ffurflen derfynu
2. sych
3. clai
4. tywod / cerigos
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Offer:
• offer llaw
• matiau glaswellt
• rhaffau gostwng
• pytlogau
• pympiau
• peiriannau turio
• blychau pridd
Manylebau:
• darluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS)
• canllawiau cynhyrchwyr
polisïau sefydliadol
Mathau o awdurdodiad:
• cyfarwyddyd llafar
• cyflwyno ffurflen derfynu
Mathau o amodau pridd:
• gwlyb
• sych
• clai
• tywod/cerigos
• tir wedi ei greu
Problemau annisgwyl:
• dŵr
• dymchwel
• lleihau
• canfyddiad annisgwyl
• tywydd gwael