Paratoi lleiniau claddu a chloddio beddau
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi lleiniau claddu a chloddio beddau.
Bydd hyn yn cynnwys dewis a pharatoi’r offer sydd ei angen arnoch i gloddio beddau a gwneud gwaith cloddio i baratoi ar gyfer claddu.
Mae’n rhaid i’r holl weithdrefnau gael eu gwneud gan roi sylw dyledus i ddeddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer y diwydiant.
Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
lleoli lleiniau claddu gan ddefnyddio’r wybodaeth a ddarperir
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r safle claddu a chloddio beddau
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis offer a chyfarpar perthnasol ar gyfer y math o leiniau claddu ac amodau pridd
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
- nodi a gosod y llain gladdu yn unol â’r manylebau
- cloddio’r ddaear a symud pridd dros ben yn unol â’r manylebau
- cadw at arferion gwaith diogel wrth gloddio beddau
- gwneud y gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i’r ardal gyfagos
- cadw safle’r bedd yn daclus ac yn ddiogel a’ch offer yn ddiogel pan na fyddwch yno
- cwblhau’r gwaith mewn da bryd ar gyfer y claddu
- gneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i leoli lleiniau claddu
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth gloddio beddau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i ddewis offer a chyfarpar sy'n berthnasol i'r mathau o leiniau claddu ac amodau'r pridd
- sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir i gloddio tir a symud pridd dros ben yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd paratoi lleiniau claddu a chloddio beddau yn unol â'r manylebau
- rheoliadau a chodau ymarfer yn ymwneud â pharatoi lleiniau claddu a chloddio beddau
- sut i nodi a gosod y llain gladdu yn unol â'r manylebau
- diben a'r defnydd o fathau gwahanol o ategu wrth gloddio beddau
- sut i osod a sicrhau ysgolion dianc wrth gloddio beddau
- rôl a dyletswyddau person y glannau wrth gloddio beddau
- pam y mae'n bwysig gadael safle'r bedd mewn cyflwr taclus a diogel a diogelu offer pan na fyddwch yno
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
2. rhifau beddau
3. mesur
2. gyda rhwystrau
2. defnyddio offer mecanyddol
2. cloddio
3. diogelwch
4. dillad amddiffynnol
2. wedi eu hailagor
2. sych
3. clai
4. tywod/graean
5. tir wedi ei greu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau pridd:
• gwlyb
• sych
• clai
• tywod/graean
• tir wedi ei greu
Manylebau:
• darluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS)
• canllawiau’r cynhyrchwyr
polisïau sefydliadol