Rheoli ardaloedd wedi eu plannu
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli ardaloedd wedi eu plannu er mwyn eu cadw mewn cyflwr priodol, yn unol â defnydd a diben yr ardal.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â rheoli'r ardal sydd wedi ei phlannu
- cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r ardal sydd wedi ei phlannu cyn dechrau'r gwaith
- gwirio'r cynllun a'r manylebau am fanylion y gweithgareddau sy'n ofynnol i reoli'r ardaloedd sydd wedi eu plannu
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer sy'n ofynnol ar gyfer rheoli'r ardaloedd sydd wedi eu plannu yn ddiogel ac yn gywir
- gwneud gweithgareddau rheoli i'r ardal sydd wedi ei phlannu yn unol â'r manylebau
- asesu canlyniadau gweithgareddau rheoli, gan gadarnhau bod yr amcanion a'r safonau wedi cael eu cyflawni
- gadael yr ardal sydd wedi ei phlannu mewn cyflwr taclus a heb ei niweidio yn dilyn gweithgareddau rheoli
- cadw'r niwed i'r ardal gyfagos a llygredd amgylcheddol mor isel â phosibl
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o reoli ardaloedd wedi eu plannu, neu'n gysylltiedig ag ef
- gwaredu neu ailgylchu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac i leihau risg amgylcheddol
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o’r ardaloedd wedi eu plannu cyn gwneud y gweithgareddau rheoli a’r canfyddiadau y mae’n rhaid adrodd arnynt
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer sy’n ofynnol ar gyfer rheoli ardaloedd wedi eu plannu yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cwblhau gweithgareddau rheoli ar gyfer ardaloedd wedi eu plannu yn unol â’r manylebau
- yr amrywiaeth o ddibenion a defnyddiau ar gyfer ardaloedd wedi eu plannu a’r ffordd y mae’r rhain yn effeithio ar eu rheolaeth
- cyfnodau datblygiad planhigion
- sut i gynnal gweithgareddau rheoli ar gyfer ardaloedd wedi eu plannu
- arwyddion o niwed neu fygythiadau i iechyd planhigion yn yr ardaloedd wedi eu plannu a’r camau gofynnol i’w cymryd
- pwysigrwydd adnabod planhigion, porfeydd, caeau a choed wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu
- pwysigrwydd adnabod chwyn, plâu, clefydau a diffygion a pha gamau i’w cymryd wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu
- effaith bosibl eich gwaith ar yr amgylchedd a sut i leihau hyn
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- y problemau arferol a allai godi wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu a sut i ymdrin â’r rhain
- at bwy i gyfeirio problemau pan maent y tu hwnt i’ch maes cyfrifoldeb
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau wrth reoli ardaloedd wedi eu plannu
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. rheoli’r mathau canlynol o ardaloedd wedi eu plannu:
1. ardaloedd llwyni
2. prysgwydd
3. gwelyau blodau
4. blodau
5. gwrychoedd
6. caeau amwynder
B. gwneud y gweithgareddau rheoli canlynol:
1. tocio
2. brigdorri
3. hyfforddiant
4. teneuo allan
5. clymu i mewn
6. adfywio
7. tynnu ac adnewyddu
8. chwistrellu
9. rheoli chwyn
10. rheoli plâu
11. rheoli clefydau
12. bwydo/dyfrio
13. taenu
14. gwella pridd
15. strimio
16. torri gwair
C. adnabod y bygythiadau canlynol i hybu iechyd planhigion:
1. plâu
2. clefydau
3. diffygion
4. amodau anffafriol
5. twf cystadleuol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Mae gweithgaredd rheoli yn cynnwys tocio/brigdorri/hyfforddi. Teneuo allan, clymu i mewn, adfer, tynnu, adnewyddu, chwistrellu, rheoli chwyn, rheoli plâu, rheoli clefydau, bwydo, taenu, gwella pridd, strimio, torri gwair.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau'r cynhyrchwyr, gofynion cwsmeriaid, polisïau sefydliadol
Gallai'r ardal fod wedi cael ei chreu trwy blannu neu adfywio naturiol a gallai gynnwys coetiroedd, perllannau, parciau, tiroedd, gerddi neu gynefinoedd bywyd gwyllt.