Paratoi cyfryngau tyfu

URN: LANH2
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi cyfryngau tyfu ar gyfer plannu yn unol â manylebau. Gallai'r cyfryngau tyfu fod yn bridd, compost neu gyfryngau synthetig (e.e. gwlân craig).

Mae'r safon yn berthnasol i baratoi cyfryngau tyfu â llaw neu â pheiriant.

Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Byddwch yn gweithio yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer sy'n ofynnol yn ddiogel ac yn gywir

  4. cael a pharatoi'r meintiau gofynnol o ddeunyddiau ar gyfer eu hychwanegu at y cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
  5. ychwanegu deunyddiau wedi eu paratoi at y cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
  6. paratoi'r cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
  7. cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi'r cyfryngau tyfu yn unol â'r cyfarwyddiadau
  8. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  9. storio a labelu'r cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
  10. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y sefydliad
  11. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg sydd yn gysylltiedig â pharatoi cyfryngau tyfu

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. pwysigrwydd cwblhau'r gwaith o baratoi'r cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau

  4. yr offer sy'n ofynnol i baratoi'r cyfryngau tyfu a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir

  5. sut mae gofynion cnydau, a phlanhigion gwahanol ac amodau tyfu amrywiol yn effeithio ar wneuthuriad y cyfrwng tyfu

  6. sut mae amodau amgylcheddol yn dylanwadu ar baratoi'r cyfryngau tyfu
  7. y mathau o gyfryngau tyfu cynaliadwy
  8. ffactorau allanol sy'n effeithio ar amseriad paratoi'r cyfryngau tyfu
  9. nodweddion y cynhwysion gwahanol a ddefnyddir wrth baratoi'r cyfryngau tyfu
  10. y gweithdrefnau ar gyfer cael deunyddiau a mesur y cynhwysion ar gyfer y cyfryngau tyfu
  11. dulliau gwahanol o ymgorffori cynhwysion i'r cyfryngau tyfu
  12. dulliau gwahanol o baratoi'r cyfryngau tyfu
  13. pwysigrwydd labelu'r cyfryngau tyfu'n gywir
  14. amodau storio addas ar gyfer cyfryngau tyfu a ffactorau sy'n effeithio ar oes storio
  15. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi cyfryngau tyfu a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  16. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  17. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  18. y cofnodion y mae angen eu cwblhau mewn perthynas â pharatoi cyfryngau tyfu
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

A.       adnabod a chael y deunyddiau canlynol:
1.    gwrtaith
2.    cynhwysion cyfryngau tyfu
3.    cyflyrydd pridd

B.       defnyddio’r dulliau canlynol ar gyfer paratoi’r cyfryngau tyfu:
1.    cymysgu
2.    amaethu

C.       defnyddio’r deunyddiau canlynol:
1.    gwrtaith
2.    cyflyrydd pridd
3.    cynhwysion cyfryngau tyfu

D.       paratoi cyfryngau tyfu yn unol â’r gofynion plannu canlynol:
1.    ansawdd
2.    lefel gwlybaniaeth
3.    trwch
4.    dyfnder amaethu

E.       gwaredu’r mathau canlynol o wastraff:
1.    organig
2.    anorganig


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GSS), canllawiau'r cynhyrchydd, polisïau sefydliadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH2

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Lluosogwr Planhigion

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

pridd; compost; gwlân craig