Sefydlu a chynnal arddangosiadau planhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn sefydlu ac yn cynnal arddangosiadau planhigion artiffisial. Mae ar gyfer unigolion sydd yn gwneud y gwaith a ddisgrifir, o dan oruchwyliaeth gyfyngedig yn unig.
Bydd hyn yn cynnwys dewis, trin, cludo a pharatoi planhigion artiffisial, cynwysyddion a chefnogwyr. Bydd hefyd yn cynnwys gosod y planhigion, cefnogi a chlymu i mewn yn unol â manylebau'r arddangosiadau planhigion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
sefydlu gofynion cwsmeriaid ar gyfer yr arddangosiadau planhigion artiffisial
dewis y planhigion artiffisial a deunyddiau eraill ar gyfer yr arddangosiad i fodloni’r manylebau
- trin a chludo deunyddiau ar gyfer arddangosiadau planhigion artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir i sefydlu a chynnal arddangosiadau planhigion artiffisial
- paratoi’r planhigion artiffisial a deunyddiau eraill yn unol â’r manylebau
sicrhau bod y planhigion artiffisial a’r deunyddiau wedi cael eu grwpio a’u gosod er mwyn cael yr effaith weledol ofynnol
defnyddio dulliau cefnogaeth sydd yn cyd-fynd â’r diben a fwriadwyd ar gyfer yr arddangosiad planhigion artiffisial
- gwaredu neu ailgylchu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac i leihau perygl amgylcheddol
- lleihau’r niwed i blanhigion artiffisial, nodweddion a’r ardaloedd cyfagos
- cynnal a chadw arddangosiadau planhigion artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
- parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- adfer y safle i fodlonrwydd y cleient
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd sefydlu gofynion y cwsmeriaid ar gyfer yr arddangosiadau planhigion artiffisial
sut i ddewis deunyddiau sy’n briodol i fathau gwahanol o arddangosiadau artiffisial a safleoedd
sut i drin a chludo’r deunyddiau yn ddiogel ac yn gywir
sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir i sefydlu a chynnal arddangosiadau planhigion artiffisial
sut i grwpio a gosod planhigion artiffisial mewn ffordd sy’n cyflawni’r effaith weledol a fwriadwyd
sut i gadarnhau bod dulliau cefnogaeth yn cyd-fynd a’r arddangosiadau planhigion artiffisial
pam y mae’n bwysig lleihau gwastraff diangen a’r dulliau cywir ar gyfer ailgylchu neu waredu
pwysigrwydd cynnal ymddangosiad arddangosiadau planhigion artiffisial
sut i gynnal a chadw arddangosiadau planhigion artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
pam y mae’n bwysig bod y safle’n cael ei adfer i fodlonrwydd y cleient a sut i farnu a yw hyn wedi cael ei wneud
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. dewis y mathau o ddeunyddiau i sefydlu arddangosiadau planhigion artiffisial:
1. planhigion artiffisial
2. cynwysyddion
3. cefnogwyr
B. gwneud y mathau canlynol o waith cynnal a chadw ar arddangosiadau planhigion artiffisial:
1. glanhau
2. cefnogi
3. adnewyddu planhigion, nodweddion neu gynwysyddion
4. symud malurion
5. ailwisgo
6. arafwyr tân
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunyddiau:
• cynwysyddion
• cefnogwyr
• nodweddion
Gweithrediadau cynnal a chadw:
• glanhau
• cefnogi
• adnewyddu planhigion, nodweddion neu gynwysyddion
• symud malurion
• ailwisgo
• arafu tân