Cynnal a datblygu arddangosiadau planhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal ac yn datblygu arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu, a allai gynnwys arddangosiadau mewnol neu allanol. Gallai hyn gynnwys gwelyau blodau ffurfiol, basgedi crog a chynwysyddion eraill, llwyni/gwrychoedd, dringwyr, ymylon cymysg neu erddi cerrig.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar dystysgrif yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
archwilio arddangosiadau planhigion a chadarnhau eu bod yn cyd-fynd â’r manylebau
nodi dulliau addas i hybu iechyd planhigion o fewn arddangosiad planhigion wedi eu sefydlu
- dewis, defnyddio a chynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu mewn ffordd sydd yn briodol i’r planhigion, eu hamodau amgylcheddol a’r effaith weledol gyffredinol
- rhoi cefnogaeth i blanhigion lle bo angen i gynnal a datblygu twf ac ymddangosiad
- tynnu chwyn a deunydd planhigion annymunol i hybu twf iach
- defnyddio dulliau addas i drin plâu, clefydau a diffygion yn gywir wrth gynnal a datblygu arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
- defnyddio dulliau addas i hybu a chynnal twf iach planhigion
- gwaredu neu ailgylchu gwastraff a deunydd dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol ac i leihau perygl amgylcheddol
- adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl cynnal arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
- cynnal a datblygu arddangosiadau planhigion mewn ffordd sydd yn atal niwed i’r ardal gyfagos
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pam y mae’n bwysig cynnal a datblygu ymddangosiad arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
pam y mae’n bwysig gwirio cyflwr planhigion wedi eu sefydlu yn unol ag amserlenni y cytunwyd arnynt
y ffordd y gallai’r tymhorau effeithio ar y ffordd yr ydych yn cynnal arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
arwyddion o niwed a bygythiadau i iechyd planhigion o fewn arddangosiadau wedi eu sefydlu
sut i ymateb i arwyddion o niwed a bygythiadau i iechyd planhigion o fewn arddangosiadau wedi eu sefydlu
efaith cyfnodau datblygiad planhigion ar gynnal a chadw arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
effaith amodau’r pridd ar dwf planhigion o fewn arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
sut i ddyfrio a bwydo planhigion i ddatblygu eu cyflwr yn eu hamgylchedd
effeithiau mathau gwahanol o wrtaith a’u defnydd diogel yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
defnydd diogel o’r cemegau y gallwch eu defnyddio ar gyfer rheoli plâu, clefydau a chwyn yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
dulliau triniaethol o wella iechyd a bywiogrwydd planhigion o fewn arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
effeithiau gwrtaith ar y gwaelod, gwrtaith ar y brig a bwydo â hylif ar gynnal a datblygiad arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
sut i ddewis a defnyddio’r offer a’r cyfarpar yn ddiogel ac yn gywir i gynnal a datblygu arddangosiadau planhigion wedi eu sefydlu
sut i ddewis a thynnu unrhyw ddeunydd planhigion annymunol mewn ffordd sydd yn cynnal ac yn datblygu effaith weledol yr arddangosiad sydd wedi ei sefydlu
y ffordd y mae safle planhigion a labeli yn cynnal ac yn datblygu effaith weledol yr arddangosiad sydd wedi ei sefydlu
y ffordd y mae dulliau cymorth yn parhau i gefnogi twf ac ymddangosiad y planhigion o fewn yr arddangosiad sydd wedi ei sefydlu
pam y mae’n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus wrth gynnal a chadw a datblygu arddangosiadau planhigion sydd wedi eu sefydlu
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
- pwysigrwydd adfer safle’r arddangosiad planhigion i gyflwr glân a thaclus
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. cynnal y mathau canlynol o arddangosiadau planhigion sydd wedi eu sefydlu:
1. dros dro
2. parhaol
B. cynnal a datblygu’r arddangosiadau planhigion canlynol sydd wedi eu sefydlu:
1. gwelyau blodau ffurfiol
2. basgedi crog
3. cynwysyddion eraill
4. llwyni muriau
5. dringwyr
6. ymylon cymysg
7. planhigion ar gyfer gerddi creigiau
8. planhigion ar gyfer pyllau
C. gwneud y gweithrediadau cynnal a chadw canlynol ar gyfer arddangosiadau planhigion sydd wedi eu sefydlu:
1. glanhau
2. rhoi cefnogaeth
3. adnewyddu planhigion, nodweddion neu gynwysyddion
4. tocio
D. cynnal a datblygu ymddangosiad ac iechyd y mathau canlynol o blanhigion:
1. trofannol
2. tymheraidd
3. planhigion sydd yn hoffi cysgod
4. planhigion sydd yn hoffi’r haul
E. nodi a thrin y bygythiadau canlynol i iechyd planhigion sydd wedi eu sefydlu:
1. plâu
2. clefydau
3. diffygion
4. amodau anffafriol
5. twf cystadleuol
F. defnyddio’r dulliau canlynol i hybu iechyd planhigion sydd wedi eu sefydlu:
1. bwydo
2. dyfrio
3. trin ar yr wyneb
4. taenu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau o drin bygythiadau i iechyd planhigion: ffisegol, cemegol, triniaethol, dyfrhau.
Cynnal a datblygu arddangosiadau er mwyn iechyd, bywiogrwydd ac effaith addurniadol cyffredinol trwy ddyfrio â llaw a defnyddio ysgeintwyr rotari a siglog, rhoi maethynnau ar ffurf sych a hylifol â llaw a thrwy ddosbarthwyr.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau’r cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Bygythiadau i iechyd planhigion: plâu, clefydau, diffygion, amodau anffafriol, twf cystadleuol.