Creu arddangosiadau planhigion
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn creu arddangosiadau planhigion a allai gynnwys planhigion mewnol neu allanol. Gallai’r arddangosiadau amrywio o ymylon mewn gardd ffurfiol neu anffurfiol, basgedi crog, cynwysyddion plannu ac ati. O fewn y safon hon bydd angen i chi wybod sut i ddehongli cynlluniau a darluniau (manylebau).
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad, lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd naturiol a gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu gofynion cyflogwyr ar gyfer yr arddangosiadau planhigion
- dewis planhigion a deunyddiau i fodloni'r manylebau
- sicrhau bod planhigion a deunyddiau mewn cyflwr sydd yn addas i'w defnyddio
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a pheiriannau sydd yn briodol, yn ddiogel ac yn gywir ar gyfer y gwaith
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi'r planhigion a'r deunyddiau yn unol â'r manylebau
- trin a chludo planhigion a deunyddiau yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod grwpio a gosod yn briodol i'r planhigion a'r amodau amgylcheddol ac yn gwella effaith yr arddangosiad yr ydych yn eu creu
- cadw'r planhigion a'r deunyddiau mewn cyflwr sy'n briodol i'w defnyddio
- defnyddio dulliau cymorth sydd yn cynnal twf ac ymddangosiad y planhigion ac yn bodloni'r fanyleb ar gyfer yr arddangosiad planhigion yr ydych yn ei greu
- labelu planhigion os oes angen
- gwneud gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r effaith leiaf ar yr ardal gyfagos, defnyddwyr eraill y safle ac unrhyw un arall sydd wedi eu heffeithio
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- prosesu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel yn unol â'r cyfarwyddiadau
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl creu arddangosiadau planhigion
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd sefydlu gofynion y cyflogwr ar gyfer creu arddangosiadau planhigion
- egwyddorion sylfaenol arddangosiadau planhigion mewnol neu allanol effeithiol
- effaith cyfnodau datblygiad planhigion ar yr arddangosiadau planhigion
- sut i ddewis planhigion a deunyddiau sy'n briodol i'r arddangosiadau a'r safleoedd gwahanol
- y cynwysyddion gwahanol a'r cyfryngau tyfu ar gyfer arddangosiadau planhigion a sut i sicrhau eu bod yn addas at y diben
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol i sefydlu arddangosiadau planhigion yn ddiogel ac yn gywir
- sut i baratoi deunyddiau ar gyfer creu arddangosiadau planhigion
- sut i drin a chludo'r planhigion a'r deunyddiau yn ofalus ac yn gywir
- sut i osod nodweddion a grwpiau planhigion mewn ffordd sy'n briodol iddyn nhw, yr amgylchedd a'r effaith weledol a fwriadwyd ar gyfer yr arddangosiadau planhigion
- sut i sicrhau bod dulliau cymorth yn cyd-fynd a'r arddangosiad planhigion ac iechyd a bywiogrwydd y planhigion
- sut i benderfynu pryd mae labelu planhigion yn angenrheidiol a sut i labelu'n gywir
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A dewis a defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau wrth greu arddangosiadau planhigion:
1. maethynnau
2. cynwysyddion
3. systemau dyfrhau
4. cefnogaeth
5. deunydd planhigion
6. cyfrwng tyfu
B. dewis, paratoi a phlannu’r mathau canlynol o blanhigion o fewn arddangosiad planhigion:
1. trofannol
2. tymherus
3. planhigion sy’n hoffi cysgod
4. planhigion sy’n hoffi’r haul
C. sefydlu’r mathau canlynol o arddangosiadau planhigion:
1. dros dro
2. parhaol
D. trefnu’r mathau canlynol o arddangosiadau planhigion:
1. gwelyau blodau ffurfiol
2. basgedi crog
3. cynwysyddion eraill
4. llwyni muriau
5. dringwyr
6. ymylon cymysg
E. grwpio a gosod planhigion yn briodol, gan ystyried yr amodau amgylcheddol canlynol:
1. nodweddion cyfagos
2. golau
3. lleithder
4. symudiad aer
5. tymheredd
F. gosod y mathau canlynol o nodweddion mewn arddangosiad planhigion:
1. dŵr
6. ddim yn cynnwys dŵr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Arddangosiadau planhigion: mewnol neu allanol.