Rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
URN: LANH16
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu. Mae’n berthnasol i unigolion sy’n gweithio gyda chnydau sy’n cael eu tyfu mewn amodau sy’n cael eu diogelu. Bydd gennych gyfrifoldeb sylweddol dros reoli hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys sefydlu amodau amgylcheddol ac yna’u haddasu fel y bo angen.
Mae amodau amgylcheddol yn cynnwys: tymheredd, lleithder, lefelau carbon deuocsid, golau a chysgod. Bydd angen bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng amodau amgylcheddol a thwf cnydau.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu, yn cynnwys risgiau o lefelau carbon deuocsid
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal, yn unol ag arferion sefydliadol
- sicrhau bod y dulliau gweithio ar gyfer rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu’n glir
- cadarnhau bod yr amodau amgylcheddol ar gyfer y cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu paratoi yn unol â’r manylebau
- cadarnhau bod y cyfarpar ar gyfer rheoli a chynnal amodau amgylcheddol yn gweithio, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
- sicrhau bod yr amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu yn cael eu monitro, yn unol â’r manylebau
- cadarnhau bod yr addasiadau i amodau amgylcheddol yn cael eu gwneud yn unol â’r manylebau
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, a’r angen i rhoi rhybudd digonol os yw lefelau carbon deuocsid yn uchel
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch tra’n darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- yr amodau amgylcheddol cywir sydd yn angenrheidiol i gyflawni twf gorau cnydau
- effeithiau tymheredd, lleithder, lefelau carbon deuocsid, awyru, golau a chysgod ar dwf a datblygiad y planhigion
- y defnydd diogel a chywir o gyfarpar ar gyfer rheoli amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
- y dulliau cywir ar gyfer paratoi amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
- y gweithdrefnau a’r dulliau ar gyfer monitro ac addasu amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
- yr arwyddion bod angen addasu amodau amgylcheddol
- y defnydd o dechnoleg i fonitro a chynnal amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu
- pwysigrwydd cadarnhau bod y gweithgareddau sydd yn gysylltiedig â rheoli’r amodau amgylcheddol ar gyfer cnydau sy’n cael eu diogelu wedi eu cwblhau yn unol â’r manylebau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- y confensiynau a’r ffyrdd y mae’n rhaid cofnodi gwybodaeth yn ymwneud ag amodau amgylcheddol
Cwmpas/ystod
A. Nodi’r amodau amgylcheddol canlynol sydd eu hangen ar gnydau sy’n cael eu diogelu:
1. tymheredd
2. lleithder
3. golau a chysgod (yn cynnwys golau lliw pan fydd yn cael ei ddefnyddio)
4. lefelau carbon deuocsid
B. Sefydlu a defnyddio’r mathau canlynol o gyfarpar i reoli amodau amgylcheddol:
1. cyfrifiadur
2. gwres
3. awyru
4. golau/cysgod
5. systemau dyfrhau
6. cynhyrchwyr/chwistrellwyr carbon deuocsid
7. cyfarpar cofnodi data
C. Gwneud addasiadau i’r amodau amgylcheddol canlynol:
1. tymheredd
2. lleithder
3. golau a chysgod (yn cynnwys golau lliw pan fydd yn cael ei ddefnyddio)
4. lefelau carbon deuocsid
5. awyru
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau amgylcheddol:
• tymheredd
• lleithder
• golau a chysgod
• lefelau carbon deuocsid
Manylebau:
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• polisïau sefydliadol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau wedi eu diogelu; tŷ gwydr; polydwnnel; clochwydr