Monitro a gweithredu darpariaeth maethynnau i gnydau neu blanhigion
URN: LANH15
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn gweithredu darpariaeth maethynnau i gnydau neu blanhigion, yn yr awyr agored neu mewn amodau wedi eu diogelu, yn cynnwys unrhyw leoliad, p’un ai’n amwynder, garddwriaeth (toeon gwyrdd, parciau a gerddi, tyweirch chwaraeon, ac ati) neu gynhyrchu cnydau (ffrwythau, llysiau, coed, ac ati).
Mae’r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun ac mewn rhai enghreifftiau gallai gynnwys cydlynu gwaith timau.
Bydd angen gwybodaeth sylweddol arnoch am egwyddorion twf a datblygiad planhigion yn ogystal ag iechyd planhigion.
Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau, cyfarpar neu gemegau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a darpariaeth maethynnau i gnydau neu blanhigion
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- cadarnhau bod y dulliau ar gyfer darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion wedi cael eu sefydlu ac yn cael eu cyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig
- nodi argaeledd cyfarpar ac adnoddau sydd eu hangen ar gyfer darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
- sicrhau bod yr offer a’r cyfarpar ar gyfer darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben yn cael ei wneud yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- monitro twf a datblygiad y cnydau neu’r planhigion, yn unol â manylebau
- cael cyngor technegol lle bo angen
- asesu cyflwr y cnydau neu’r planhigion a nodi’r maethynnau sydd eu hangen, yn unol â’r manylebau
- cadarnhau bod storio, cludo a pharatoi maethynnau yn unol â’r ddeddfwri-aeth berthnasol ac arferion busnes
- cadarnhau bod y cynnyrch dethol yn addas ar gyfer y gwaith i gael ei wneud ac yn unol â’r manylebau
- sicrhau bod y tywydd yn addas ar gyfer taenu maethynnau ar gnydau a phlanhigion yn yr awyr agored
- cyfrifo isafswm y gyfradd daenu i gyflawni’r canlyniad dymunol
- taenu maethynnau ar gnydau neu blanhigion, yn unol â’r manylebau, gan ddefnyddio technoleg lle mae ar gael
- nodi problemau yn darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion a gweithredu lle bo angen
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth maethynnau
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n lleihau niwed amgylcheddol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch wrth ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- y ffyrdd o asesu cyflwr a gofynion maeth ar gyfer cnydau neu blanhigion
- ffynonellau cyngor technegol ar ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhi-gion
- y cyfarpar a’r adnoddau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwaith a sut i gadarnhau eu bod yn cael eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- y defnydd diogel a chywir o adnoddau wrth ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
- y ddeddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau ar gyfer cnydau a phlanhigion
- pwysigrwydd cadarnhau bod darparu maethynnau wedi ei gwblhau yn unol â’r manylebau
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben
- y dulliau o ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
- y ffyrdd o sicrhau bod y maint cywir o faethynnau ar gael ar gyfer y cnydau neu’r planhigion
- cyfnodau datblygiad cnydau neu blanhigion
- egwyddorion cynhyrchu cynaliadwy
- pam mae gwrteithiau yn bwysig a rôl y prif elfennau, yr elfennau sylweddol a hybrin yn cynnwys
- y mathau gwahanol o wrteithiau sydd ar gael, yn cynnwys mathau organig ac anorganig, a gofynion taenu bob un
- y gofynion gwrtaith ar gyfer grwpiau gwahanol o gnydau neu blanhigion, e.e. llysiau deiliog neu blanhigion sy’n creu ffrwythau
- sut i gyfrifo faint o faeth sydd ei angen a sut dylid ei baratoi
- sut i gludo a storio gwrtaith a chynwysyddion, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a’r manylebau
- sut i weithredu cyfarpar i ddarparu maethynnau i gnydau a phlanhigion, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg lle mae ar gael
- y problemau a allai godi wrth ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion a pha gamau i’w cymryd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â darparu cnydau neu blanhigion, neu wedi eu heffeithio gan hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd, yn cynnwys ystyriaethau NVZ (Parth Perygl Nitradau), llygredd dŵr ac effaith gorddos ar iechyd planhigion
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. Wrth ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion, cynnal a chadw’r cyfarpar yn y ffyrdd canlynol:
1. paratoi
2. glanhau
3. storio
B. Cymryd y camau canlynol pan fydd problemau’n digwydd gyda darparu maethynnau i gnydau neu blanhigion:
1. datrys y broblem
2. hysbysu’r person angenrheidiol
C. Gwaredu’r mathau canlynol o wastraff:
1. organig
2. anorganig
3. maeth dros ben
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae elfennau sylweddol a hybrin yn cynnwys: nitrogen, sylffwr, magnesiwm, potasiwm, ffosfforws
Maethynnau:
• ffynonellau organig (e.e. tail, biswail a biosolidau)
• ffynonellau anorganig
Manylebau:
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• polisïau sefydliadol
Cynhyrchu cynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH15
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Technegydd Garddwriaethol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; planhigion; maethynnau; gwrtaith