Monitro a gweithredu darpariaeth dŵr i gnydau neu blanhigion
URN: LANH14
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Cnydau Amaethyddol,Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn gweithredu darpariaeth dŵr i gnydau neu blanhigion, naill ai yn yr awyr agored neu mewn amodau wedi eu diogelu.
Bydd angen gwybodaeth arnoch o egwyddorion twf a datblygiad planhigion yn ogystal ag iechyd planhigion. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu darpariaeth dŵr i gnydau neu blanhigion mewn unrhyw leoliad amaethyddol neu arddwriaethol, p’un ai’n amwynder (toeon gwyrdd, parciau a gerddi, tyweirch chwaraeon, ac ati) neu gynhyrchu cnydau (ffrwythau, llysiau, blodau, coed ac ati).
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a darpariaeth dŵr
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal
- cadarnhau bod y dulliau ar gyfer darparu dŵr i gnydau neu blanhigion wedi eu sefydlu a’u cyfathrebu’n glir i bawb sydd yn gysylltiedig
- archwilio cnydau neu blanhigion ac asesu’r angen i ddarparu dŵr
- cael cyngor technegol lle bo angen
- cadarnhau bod y trwyddedau perthnasol yn eu lle, lle bo angen
- gweithredu darpariaeth dŵr i gnydau neu blanhigion, yn unol â’r manylebau
- cadarnhau bod dŵr yn cael ei gyflenwi ar yr adeg gywir o’r dydd ac yn y ffordd angenrheidiol ar gyfer y math o gnydau neu blanhigion
- gwirio a chadarnhau bod cyfradd a phwysau’r dŵr sydd yn cael ei gyflenwi i’r cnydau neu’r planhigion ar y lefel gywir i gyflawni’r canlyniadau dymunol
- monitro a gwerthuso effeithiolrwydd darpariaeth y dŵr
- nodi’r angen am addasiadau i systemau dyfrhau
- cadarnhau bod yr addasiadau i systemau dyfrhau yn unol â gofynion y cnydau neu’r planhigion
- sicrhau bod y cyfarpar ar gyfer darparu dŵr i gnydau neu blanhigion yn cael ei ddefnyddio a’i gynnal a’i gadw mewn cyflwr diogel a chywir a threfnu atgyweiriadau lle bo angen
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n lleihau niwed amgylcheddol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau wrth ddarparu dŵr i gnydau a phlanhigion
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y dulliau ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- pam y mae’n bwysig gwirio cyflwr cnydau neu blanhigion yn unol â manylebau
- cyfnodau datblygiad cnydau neu blanhigion
- egwyddorion cynhyrchu cynaliadwy
- y ffyrdd o fonitro gofynion dŵr ar gyfer cnydau neu blanhigion
- ffynonellau cyngor technegol ar gyfer darparu dŵr i gnydau neu blanhigion
- y dulliau, y systemau a’r ffynonellau ar gyfer darparu dŵr i’r cnydau neu’r planhigion
- pryd mae angen trwyddedau dŵr a sut i’w cael
- sut i sefydlu bod cyflenwi dŵr yn addas ar gyfer cnydau neu blanhigion
- y defnydd cywir o gyfarpar ar gyfer darparu dŵr
- y defnydd o dechnoleg i reoli systemau dyfrhau
- y mathau o addasiadau y gellir eu gwneud i systemau dyfrhau
- y problemau a allai godi wrth gyflenwi dŵr i gnydau neu blanhigion a sut dylid datrys y rhain
- gofynion cynnal a chadw systemau dyfrhau fel mater o drefn
- prif fanteision ac anfanteision systemau dyfrhau gwahanol sy’n darparu dŵr i gnydau neu blanhigion
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â darparu dŵr i gnydau neu blanhigion a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- pwysigrwydd cadw cofnodion o ddarpariaeth dŵr i gnydau neu blanhigion yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. Wrth ddarparu dŵr i gnydau neu blanhigion gwnewch addasiadau cywir i’r canlynol:
1. cyfarpar
2. cyflenwad dŵr
3. cyfradd a phwysedd
B. Cymerwch y camau priodol canlynol os bydd problemau’n digwydd:
1. datrys y sefyllfa
2. hysbysu’r person angenrheidiol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau:
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• polisïau sefydliadol
Cynhyrchu cynaliadwy: Bodloni’r gofynion ar gyfer cynhyrchu bwyd tra’n cynnal proffidioldeb a gwarchod yr amgylchedd.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH14
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Technegydd Garddwriaethol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cnydau; planhigion; dŵr; dyfrhad