Cynnal twf cnydau neu blanhigion

URN: LANH11
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Systemau Toi Pilenni sydd yn Dal Dŵr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal twf cnydau neu blanhigion yn yr awyr agored ac mewn amodau wedi eu diogelu.

Mae hyn yn cynnwys cynnal cnydau neu blanhigion mewn unrhyw leoliad garddwriaethol, p'un ai'n amwynder (toeon gwyrdd, gerddi, caeau chwaraeon ac ati) neu gynhyrchu (ffrwythau, llysiau, blodau, coed ac ati).

Byddwch yn gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gwblhau

  2. cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo

  3. cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau'r gwaith 
  4. gwneud yr holl waith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
  5. cadarnhau bod yr offer sy'n ofynnol i gynnal twf cnydau neu blanhigion yn cael ei baratoi, ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw yn ddiogel ac yn gywir
  6. monitro iechyd a datblygiad y cnydau neu'r planhigion yn unol â'r manylebau
  7. cymryd camau gofynnol i gynyddu twf cnydau neu blanhigion
  8. adnabod problemau gyda'r cnwd neu'r planhigyn, neu amodau amgylcheddol, a chymryd y camau gofynnol
  9. cynnal datblygiad cnydau neu blanhigion yn unol â'r manylebau
  10. monitro a chynnal integredd y safle yn unol â'r manylebau, yn cynnwys dyfrhau a draenio lle y bo'n briodol
  11. adnabod chwyn, plâu a chlefydau a chymryd camau gofynnol 
  12. trin cnydau neu blanhigion mewn ffordd sydd yn atal niwed
  13. cynnal hylendid a bioddiogelwch tra'n cynnal cnydau neu blanhigion yn unol â'r cyfarwyddiadau
  14. gwneud gwaith mewn ffordd sy'n achosi'r niwed lleiaf i'r ardal gyfagos
  15. cadarnhau bod gwastraff yn cael ei waredu'n ddiogel ac yn gywir neu ei ailgylchu yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisïau sefydliadol perthnasol
  16. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan y sefydliad
  17. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth gynnal twf cnydau neu blanhigion
  2.  y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau y mae'n rhaid eu hadrodd
  4. sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  5. cyfnodau twf cnydau neu blanhigion
  6. dulliau ar gyfer cynnal a chynyddu datblygiad cnydau neu blanhigion
  7. effaith y cyfrwng tyfu ar iechyd cnydau neu blanhigion
  8. problemau a allai godi gyda datblygiad cnydau neu blanhigion a'r camau gofynnol i'w cymryd
  9. dangosyddion bod angen addasu amodau amgylcheddol a'r camau i'w cymryd
  10. sut i adnabod chwyn, plâu a chlefydau a'r camau i'w cymryd
  11. dulliau o gyflenwi dŵr i gnydau neu blanhigion
  12. sut i wirio ac addasu systemau dyfrhau a draenio i fodloni'r manylebau
  13. dulliau o ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
  14. pwysigrwydd dilyn manylebau wrth ddarparu maethynnau i gnydau neu blanhigion
  15. mathau o ddeunyddiau planhigion annymunol a pham mae'n rhaid eu tynnu
  16. pryd mae angen diogelu cnydau a phlanhigion
  17. pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd yn unol â'r manylebau
  18. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gynnal twf cnydau neu blanhigion
  19. sut i drin, cludo a gwaredu/ailgylchu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  20. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
  21. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

A.         defnyddio'r dulliau canlynol i gynnal datblygiad cnydau neu blanhigion:

  1. amddiffyniad rhag plâu a chlefydau
  2. mesurau rheoli chwyn
  3. amddiffyniad rhag y tywydd
  4. rheoli tymheredd, lleithder, awyru, golau a chysgod
  5. tocio a brigdorri

  6. cefnogi

  7. darparu maeth
  8. darparu dŵr

B.         adnabod a dileu'r deunydd planhigion annymunol canlynol:

  1. cnydau neu blanhigion wedi eu niweidio
  2. chwyn
  3. malurion cnydau
  4. deunyddiau afiach

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mesurau rheoli:

•  mecanyddol
•  cemegol
•  triniaethol

 Cnydau neu blanhigion:

 •  blodau parhaol
•  bywlys
•  cnydau âr
•  cnydau i'w bwyta gan bobl (e.e. mefus, madarch, gwinwydd)
•  planhigion i'w gwerthu neu eu lluosogi

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, gofynion cwsmeriaid, polisïau sefydliadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH11

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Towyr, Cryfhawyr a Thowyr Llechi

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; planhigion; twf; maethynnau; dŵr; plâu; clefydau; wedi eu diogelu; awyr agored; tocio; brigdorri; amgylcheddol; bywlys; blodau; âr