Cydlynu’r gwaith o sefydlu cnydau neu blanhigion
Trosolwg
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith o sefydlu cnydau neu blanhigion
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
- cadarnhau'r amodau gorau ar gyfer plannu
- cadarnhau bod y dulliau gwaith angenrheidiol ar gyfer plannu wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir
- cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- sicrhau bod y plannu'n digwydd ar yr adeg briodol i gynyddu twf a datblygiad planhigion
- nodi a chydlynu argaeledd yr offer a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer plannu
- cydlynu'r gwaith o brosesu ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol neu sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- sicrhau bod ansawdd deunydd y cnwd neu'r planhigion a'r dulliau gwaith yn bodloni'r manylebau
- cadarnhau bod deunydd y cnwd neu'r planhigion yn cael ei baratoi yn unol â'r manylebau
- cadarnhau bod cnydau neu blanhigion yn cael eu gosod o fewn y cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
- sicrhau bod deunydd y cnwd neu'r planhigion yn cael ei drin mewn ffordd sydd yn cynyddu sefydlu, twf a datblygiad, ac yn atal niwed
- sicrhau bod integredd y safle'n cael ei gynnal
- asesu'r angen i ddefnyddio amddiffyniad cnydau neu blanhigion
- cadarnhau bod cofnodion priodol wedi eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r gofynion amgylcheddol ac iechyd a diogelwch ac asesiadau risg perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau sefydlu'r cnydau neu'r planhigion a'r canfyddiadau a allai effeithio ar blannu
- yr amodau gorau sy'n ofynnol ar gyfer plannu
- y dulliau gwaith ar gyfer plannu
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau ac ansawdd yr offer a'r deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer gweithrediadau plannu
- y defnydd diogel a chywir o adnoddau wrth blannu
- manylebau a graddfeydd amser ar gyfer gweithrediadau plannu
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- rôl cylchdroi cnydau wrth sefydlu cnydau neu blanhigion
- cyfnodau datblygiad planhigion
- sut i adnabod problemau gydag ansawdd deunydd y cnydau neu'r planhigion a'r camau i'w cymryd fel y bo angen
- sut i adnabod problemau gydag ansawdd dulliau gwaith wrth gydlynu'r gwaith o sefydlu cnydau neu blanhigion a'r camau i'w cymryd fel y bo angen
- sut i adnabod chwyn, plâu a chlefydau a pha gamau i'w cymryd
- dulliau ar gyfer paratoi deunydd cnydau neu blanhigion
- gosod y cnydau neu'r planhigion yn gywir yn y cyfryngau tyfu
- dulliau cywir ar gyfer trin a chludo deunydd cnydau neu blanhigion
- dulliau cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae'n bwysig
- problemau a allai godi wrth blannu a pha gamau i'w cymryd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
- pwysigrwydd cadw cofnodion ar gyfer sefydlu cnydau neu blanhigion sy'n berthnasol i ofynion cyfreithiol a sefydliadol
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. cadarnhau bod y safleoedd canlynol ar gyfer sefydlu cnydau neu
blanhigion wedi eu gosod a’u nodi yn unol â’r fanyleb:
1. ardaloedd ar gyfer adeiladu tirwedd feddal
2. ardaloedd ar gyfer plannu
3. ardaloedd ar gyfer adfer
B. dewis a sefydlu’r cnydau/planhigion canlynol:
1. coed
2. llwyni
3. wedi eu tyfu mewn cynhwysydd
4. wedi eu tyfu o wreiddiau
5. cae
6. hadau
7. glaswellt
C. gosod y cnydau neu’r planhigion o fewn y cyfryngau tyfu yn unol â’r
canlynol (fel sydd yn addas ar gyfer y cnydau neu’r planhigion):
1. dwysedd
2. dyfnder
3. cymysgedd
4. cyfeiriadedd
5. cadernid
D. cadarnhau bod y mathau canlynol o wastraff yn cael eu gwaredu’n gywir:
1. organig
2. anorganig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Safle:
dwysedd
dyfnder
cymysgedd
cyfeiriadeddcadernid
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau’r cynhyrchydd, polisïau sefydliadol