Cydlynu clirio a pharatoi safle ar gyfer plannu
Trosolwg
Mae'r safon hon yn disgrifio'r gwaith sydd yn gysylltiedig â chydlynu clirio a pharatoi safleoedd yn barod ar gyfer plannu. Byddwch yn chwarae rhan bwysig yn gwneud penderfyniadau ac yn cynnal gweithrediadau.
Mae'r safon hon yn berthnasol i safleoedd awyr agored a safleoedd wedi eu diogelu. Bydd angen bod gennych ddealltwriaeth dda o'r defnydd a fwriedir ar gyfer y safle, y cnydau neu'r planhigion i gael eu plannu, y dulliau paratoi a'r adnoddau sydd eu hangen.
Mae'r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun, mewn rhai enghreifftiau gallai gynnwys cydlynu gwaith timau.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cydlynu ac yn goruchwylio'r gwaith.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- gwneud asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
- cydlynu'r gwaith o glirio a pharatoi'r safle yn unol â manylebau a chyflwr y safle
- cadarnhau bod y dulliau gwaith ar gyfer clirio a pharatoi'r safle wedi eu sefydlu ac yn cael eu cyfathrebu'n glir
- nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer clirio a pharatoi'r safle
- cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod offer a deunyddiau ar gyfer clirio'r safle yn ddiogel, yn addas at y diben ac wedi eu cynnal a'u cadw a'u storio'n gywir
- cydlynu'r gwaith o brosesu ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- sicrhau bod dulliau a phrosesau gwaith yn addas ar gyfer y safle a bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n ddiogel ac yn gywir
- goruchwylio clirio a pharatoi'r safle yn unol â'r manylebau ac i gynnal ansawdd y gwaith
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n lleihau niwed amgylcheddol
- cadarnhau bod y safle mewn cyflwr parod i'r gweithgareddau plannu ddechrau
- cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â pholisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg
- pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
- y manylebau mewn perthynas â chlirio a pharatoi'r safle ar gyfer plannu
- cyflwr y safle a sut mae hyn yn effeithio ar weithrediadau clirio a pharatoi
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw mewn cyflwr diogel a chywir a'u storio'n ddiogel
- dulliau ar gyfer clirio'r safle
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
- y deunyddiau a allai fod yn addas ar gyfer eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu
- y defnydd cywir ac effeithlon o adnoddau wrth glirio safle a gwneud gwaith paratoi
- dulliau priodol ar gyfer diheintio'r safle a phryd mae angen hyn
- dulliau ar gyfer cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- y problemau allai godi wrth glirio'r safle a'r camau i'w cymryd
- y gofynion ar gyfer diogelwch y safle wrth glirio a pharatoi ar gyfer plannu
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, wrth gydlynu'r gwaith o glirio a pharatoi'r safle
- pwysigrwydd cadw cofnodion priodol ar gyfer clirio a pharatoi'r safle sy'n berthnasol i ofynion cyfreithiol a sefydliadol
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. asesu’r safleoedd canlynol ar gyfer clirio a pharatoi ar gyfer plannu:
1. ardaloedd ar gyfer adeiladu tirwedd feddal
2. ardaloedd ar gyfer plannu
3. ardaloedd ar gyfer adfer
B. asesu’r mathau canlynol o amodau daear ac amgylcheddol:
1. strwythur is-haen
2. gwneuthuriad a chyflwr is-haen
3. nodweddion draeniad
4. pH
5. plâu, clefydau a phroblemau chwyn
6. diffyg maethynnau
7. llygrwyr daear ac aer
8. micro-hinsawdd
C. cadarnhau bod y deunyddiau canlynol ar gael ac yn barod ar gyfer eu plannu:
1. deunydd planhigion
2. deunyddiau i’w defnyddio wrth blannu
D. defnyddio’r deunyddiau canlynol:
1. deunydd planhigion
2. deunyddiau i’w defnyddio wrth blannu
E. cadarnhau bod deunyddiau plannu:
1. wedi eu storio mewn amodau addas
2. wedi eu gosod yn barod ar gyfer gweithrediadau plannu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai safleoedd gynnwys y canlynol:
maes glas
dynodedig
- diffaith trefol
- wedi ei adfer
- presennol
- gwarchodedig