Cefnogi poblogaethau helfilod
URN: LANGa9
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi poblogaethau helfilod mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu cyflawni i gefnogi helfilod yn y gwyllt trwy ddarparu bwyd, dŵr ac adnoddau eraill.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• paratoi a chynnal a chadw cyfarpar i gael ei ddefnyddio i ddarparu bwyd, dŵr ac adnoddau eraill ar gyfer poblogaethau helfilod
• darparu adnoddau i gefnogi poblogaethau helfilod yn effeithiol
• monitro ac adrodd ar ymateb helfilod i adnoddau.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- pennu’r mathau o adnoddau ychwanegol sy’n ofynnol i gefnogi poblogaethau helfilod
- nodi pryd a ble mae angen yr adnoddau ychwanegol i gefnogi poblogaethau helfilod
- dewis, paratoi a chynnal y safleoedd, y cyfarpar a'r cyfleusterau a ddefnyddir i ddarparu adnoddau
- gweithio mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar gynefin a bywyd gwyllt
- darparu adnoddau yn effeithiol i gefnogi helfilod gan wastraffu cyn lleied â phosibl
- monitro ymateb yr helfilod i’r adnoddau a’u defnydd, a chofnodi ac adrodd ar hyn yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi ac adrodd am unrhyw bryderon o ran lles helfilod yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â darparu adnoddau i gefnogi poblogaethau helfilod, yn cynnwys gweithio unigol
- gofynion lles helfilod, yn cynnwys problemau lles cyffredin helfilod
- y mathau o adnoddau ychwanegol a ddefnyddir i gefnogi lles helfilod
- sut mae adnoddau’n cael eu darparu i gefnogi poblogaethau helfilod
- pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl wrth ddarparu adnoddau
- y cyfarpar a’r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol i ddarparu adnoddau i boblogaethau helfilod a'u cynefin
- ymateb disgwyliedig helfilod i’r adnoddau a ddarperir
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol ar ddyrannu adnoddau ychwanegol
- y meddyginiaethau a ddefnyddir i gynnal iechyd helfilod a’r gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer yn ymwneud â’u defnydd
- pwysigrwydd cadw cofnodion o adnoddau ychwanegol a ddarperir i boblogaethau helfilod
Cwmpas/ystod
Cymhwyso adnoddau i helpu i gefnogi’r canlynol:
• lles helfilod
• lleoliad helfilod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Adnoddau:
• porthiant
• lloches
• dŵr
• graean
• meddyginiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa9
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; poblogaethau; adnoddau; porthiant; dŵr; lloches; meddyginiaeth