Monitro poblogaethau a chynefinoedd helfilod
URN: LANGa8
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro poblogaethau a chynefinoedd helfilod mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i fonitro helfilod a’u cynefin.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• gwneud asesiadau o boblogaethau helfilod gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
• monitro a gwneud asesiadau o allu cynefin yr helfilod i gefnogi helfilod
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio tuag at warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud y gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i arsylwi helfilod a rhywogaethau bywyd gwyllt eraill i fonitro nodweddion poblogaethau helfilod
- nodi a defnyddio arwyddion i sefydlu nodweddion poblogaeth helfilod, yn cynnwys arwyddion o weithgareddau plâu ac ysglyfaethwyr
- monitro ymddygiad a chyflwr poblogaethau helfilod ac adnabod yr arwyddion sydd yn dangos salwch ymysg helfilod
- casglu gwybodaeth am gyflwr cynefinoedd helfilod
- adnabod cynefinoedd da helfilod a’r rheiny y mae angen eu gwella
- adnabod cynefinoedd gwael helfilod a rhai sydd wedi eu niweidio a phennu’r achosion tebygol
- cyflawni gweithgareddau monitro mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar yr helfilod, bywyd gwyllt a’r cynefinoedd bob amser
- cofnodi ac adrodd ar ganfyddiadau yn unol â gofynion y sefydliad, yn cynnwys arwyddion o salwch a gweithgaredd ysglyfaethwyr a'r angen i gynnal a chadw a gwella cynefinoedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â monitro gweithgareddau, yn cynnwys gweithio unigol
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro poblogaethau helfilod gwyllt gwahanol, yn cynnwys gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr
- sut i adnabod rhywogaethau o helfilod a bywyd gwyllt sy'n gyffredin i'r ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys eu rhyw a’u hoed
- yr amrywiadau disgwyliedig ym mhoblogaethau helfilod yn ystod y cylch blynyddol
- y ffordd y gall newidiadau tymhorol effeithio ar boblogaethau a chynefinoedd helfilod
- y ffordd y gall nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt effeithio ar boblogaethau helfilod
- sut i adnabod ymddygiad a chyflwr arferol poblogaethau helfilod a’r arwyddion sydd yn dangos salwch mewn helfilod
- hunaniaeth rhywogaethau cynefinoedd cyffredin a geir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- nodweddion cynefin da helfilod a'r ffordd y gall cynefin reoli presenoldeb rhywogaethau gwahanol o helfilod ar ardal o dir
- sut i adnabod niwed i gynefin ac achosion tebygol niwed
- y gweithgareddau rheoli a ddefnyddir i gynnal a gwella cynefin helfilod
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
- pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl ar helfilod, bywyd gwyllt a chynefinoedd wrth eu monitro
- pwysigrwydd cadw cofnodion o boblogaeth helfilod a chyflwr y cynefin
Cwmpas/ystod
Sefydlu pedwar o’r nodweddion poblogaeth canlynol ar gyfer helfilod a bywyd gwyllt:
• rhywogaethau
• niferoedd
• iechyd
• rhyw
• oed
• lleoliad
• ymddygiad
• amharu
• tymoroldeb
Casglu gwybodaeth am gynefin o ran tri o’r canlynol:
• rhywogaethau planhigion cyffredin
• math o gynefin
• rhyngweithio gyda helfilod
• newidiadau tymhorol
• cyflwr cynefin sy’n berthnasol i’r tymor
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Nodweddion ardal – Er enghraifft: topograffeg, defnydd o dir, gweithgareddau eraill, math o dir, draeniad
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa8
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; cynefin; monitor