Cynnal diogeledd ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
URN: LANGa7
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal diogeledd ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• lleihau cyfleoedd i dorri rheolau diogeledd
• gweithredu systemau gwyliadwriaeth i fonitro diogeledd
• gweithredu gweithdrefnau diogeledd
• nodi bygythiadau neu ddigwyddiadau diogeledd
• gweithio gyda phobl eraill i ymdrin ag amheuaeth o ddigwyddiadau diogeledd.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyflawni’r gweithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
2. cynnal gweithdrefnau diogeledd ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt sydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol sy’n benodol i wlad
3. gweithredu systemau sydd yn sicrhau storio eitemau wedi eu rheoli yn ddiogel ac yn gyfreithlon, yn cynnwys arfau tanio, arfau, trapiau a maglau, cemegau a ddefnyddir i reoli plâu ac eitemau peryglus eraill
4. creu a chynnal log o’r trapiau a’r maglau, eu lleoliad, gwirio, ailosod a thynnu’n ôl o ran symud neu storio, yn cynnwys y defnydd o system adnabod systematig
5. cadw’r holl hysbysiadau a’r dyfeisiadau a ddefnyddir i reoli mynediad i’r ardal rheoli bywyd gwyllt mewn cyflwr gweithredol
6. rhoi gwybodaeth a chyngor cywir yn ymwneud ag ymholiadau gan y cyhoedd parthed gweithgareddau sydd yn digwydd yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
7. ymdrin yn gwrtais ag ymwelwyr, gwesteion a’r cyhoedd yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
8. cyfathrebu gyda chydweithwyr a chyrff eraill a chyflawni gwaith tîm effeithiol
9. parhau'n wyliadwrus yn ystod yr holl weithgareddau am arwyddion sydd yn dangos bygythiad neu ddigwyddiad diogeledd
10. defnyddio’r dulliau gwyliadwriaeth perthnasol i fonitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt
11. monitro a dehongli arwyddion sydd yn dangos amheuaeth o ddigwyddiad diogeledd a chyflawni gwyliadwriaeth ychwanegol i gael tystiolaeth, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
12. gweithredu yn unol â natur y digwyddiad diogeledd heb roi eich hun ac eraill mewn perygl
13. ymdrin ag amheuaeth o ddigwyddiadau diogeledd mewn ffordd ddigynnwrf a chwrtais ond cadarn
14. atgyfeirio digwyddiadau sydd yn dod y tu hwnt i’ch maes cyfrifoldeb i berson priodol neu’r awdurdod perthnasol
15. cofnodi ac adrodd ar fanylion pob digwyddiad yn unol â gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol mewn perthynas â chi eich hun, eich cydweithwyr a’r cyhoedd, yn cynnwys gweithio unigol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli diogeledd arfau tanio, arfau, trapiau a maglau, cemegau ac eitemau peryglus eraill
- pwysigrwydd cadw cofnodion o drapiau a maglau a sut gellir gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal diogeledd cyfarpar, da byw, anifeiliaid sy’n gweithio a helfilod
- yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o ddigwyddiadau diogeledd yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y cyfreithiau perthnasol sy’n benodol i wlad yn ymwneud â mynediad, tresmasu a photsio
- pwysigrwydd datblygu perthynas waith dda gyda defnyddwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill er mwyn monitro a chynnal diogeledd
- y defnydd o hysbysiadau a dyfeisiadau eraill wrth reoli mynediad at yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- sut i gyfathrebu’n llafar gyda phobl mewn ffordd briodol
- sut i adnabod arwyddion sydd yn dangos mynediad diawdurdod
- y dulliau a ddefnyddir gan ladron, potswyr a difrodwyr a’r arwyddion sydd yn dangos eu defnydd
- effeithiau potsio a difrodi ar boblogaethau helfilod a gweithgareddau saethu
- y cyfnodau o’r flwyddyn pan mae helfilod fwyaf agored i niwed
- y mesurau y gellir eu defnyddio i reoli mynediad a phwysigrwydd eu cynnal mewn cyflwr gweithredol
- y mathau o ddulliau gwyliadwriaeth a’r amser gorau i’w gwneud
- sut i ymdrin ag amheuaeth o ddigwyddiadau diogeledd, yn cynnwys y rhesymau dros aros yn ddigynnwrf ac yn gwrtais ond yn gadarn
- sut i ymdrin ag ymddygiad ymosodol a sarhaus
- sut gall pellter a thir effeithio ar y dulliau a ddefnyddir i ymdrin â digwyddiadau diogeledd
- terfynau eich awdurdod a phryd a sut i atgyfeirio digwyddiadau diogeledd at berson priodol neu’r awdurdodau perthnasol
- pam y mae’n bwysig cofnodi ac adrodd am yr holl amheuon o ddigwyddiadau o weithgaredd diawdurdod yn unol â gofynion sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwybod sut i ymdrin â’r canlynol:
• gweithgaredd diawdurdod
• amheuaeth o botsio
• potsio
• ymwelwyr, gwesteion a’r cyhoedd
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Mynediad – mynediad at dir, cyfleusterau neu adeiladau sydd yn ffurfio rhan o’r ystâd chwaraeon
Potsio – symud helfilod o’r gwyllt heb awdurdod
Y cyhoedd gallai gynnwys – beicwyr, cerddwyr, cerddwyr cŵn, gwersyllwyr gwyllt (Yr Alban), twristiaid
Monitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt:
• adeiladau
• cyfarpar
• da byw
• anifeiliaid sy’n gweithio
• helfilod
• plâu ac ysglyfaethwyr
• mynediad
• tresmasu
• potsio
• difrodi
• amharu ar fywyd gwyllt
Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyrff eraill gallent gynnwys: timau troseddu gwledig yr heddlu, perchnogion tir lleol, ffermwyr
Dulliau gwyliadwriaeth gallent gynnwys:
• patrolau
• dronau
• delweddau thermol
• offer gweld yn y nos
• teledu cylch cyfyng
• camerâu llwybr
• camerâu’r corff
• camerâu cerbydau
• ANPR (Adnabod rhif ceir yn awtomatig)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa7
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
cysylltiadau cyhoeddus; potsio; mynediad