Cynorthwyo saethu helfilod trwy lwytho gynnau haels

URN: LANGa4
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo saethu helfilod trwy lwytho gynnau haels. Mae’n ymwneud â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen gan y rheiny sy’n ymdrin â, yn llwytho ac yn trosglwyddo gynnau haels i’r rheiny sydd yn saethu helfilod.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio yn y sector saethu helfilod ac ar gyfer y rheiny sydd â’r rôl ffurfiol o gynorthwyo’n weithredol i saethu helfilod.

Er mwyn bodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
paratoi cyfarpar sydd ei angen i gynorthwyo saethu helfilod trwy lwytho
llwytho ac ymdrin â gynnau haels yn ddiogel wrth eu cymhwyso i weithgaredd saethu helfilod
cynnal a chadw’r holl gyfarpar angenrheidiol i safonau derbyniol.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud y gweithgaredd yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â defnyddio gynnau haels
  2. paratoi’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gynorthwyo i saethu helfilod trwy lwytho gynnau haels
  3. gwneud yr holl wiriadau i bennu addasrwydd gwn haels
  4. dewis arfau sy’n bodloni gofynion y deliwr helfilod, y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad
  5. trosglwyddo’r cyfarpar a’r gwn haels i’r lleoliad saethu
  6. paratoi’r gwn haels ar gyfer saethu helgig
  7. llwytho (siambro) arfau yn effeithiol ac yn ddiogel, gan gydymffurfio â’r gwiriadau priodol
  8. cynorthwyo’r broses lwytho, gan ymateb i unrhyw newidiadau neu broblemau angenrheidiol
  9. cyfathrebu’n briodol ac yn effeithiol gyda’r bobl berthnasol
  10. dod â gweithrediadau llwytho i ben a pharatoi gynnau a chyfarpar ar gyfer eu cludo
  11. stripio, glanhau a chynnal a chadw’r gynnau haels fel mater o drefn
  12. glanhau a chynnal a chadw cyfarpar saethu eraill fel mater o drefn
  13. paratoi’r gwn haels a’r cyfarpar ar gyfer storio neu gludo priodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â defnyddio gynnau haels
  2. y moesgarwch a’r protocolau saethu priodol
  3. y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a defnydd gynnau haels
  4. y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio a chludo gynnau haels ac arfau
  5. y mathau gwahanol o arfau gynnau haels a’u haddasrwydd ar gyfer y gwn haels, y cyfranogwyr a’r sefyllfa chwaraeon
  6. gofynion y deliwr helfilod, y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad sy’n rheoli’r math o arfau a ddefnyddir
  7. diben a chynllun y maes saethu ffurfiol
  8. sut i gynnal gwiriadau addasrwydd at y diben sy’n berthnasol i wn haels chwaraeon
  9. y rhywogaethau ysglyfaeth cyffredin
  10. yr arferion saethu diogel
  11. yr ymateb priodol i afreoleidd-dra mewn gweithrediad gwn haels
  12. sut i ymateb i dywydd newidiol
  13. sut i ymateb i newid safle yn y maes saethu
  14. pwysigrwydd cyfathrebu a gorchmynion priodol
  15. y gwahaniaeth mewn gweithrediadau llwytho gwn sengl a gwn dwbl
  16. glanhau a chynnal a chadw cyfarpar chwaraeon yn briodol
  17. glanhau a chynnal a chadw cyfarpar saethu eraill yn briodol


Cwmpas/ystod


Cynnal yr holl wiriadau angenrheidiol i bennu addasrwydd gwn haels o ran:
niwed i’r carn /blaen
niwed i’r barilau
niwed i’r ribiau
presenoldeb tiwbiau cyfyngiad (fel y bo angen)
cyflwr gweithred /bwlch

Sicrhau bod yr arf yn briodol i’r gwn haels a’r cyd-destun chwaraeon o ran:
hyd y siambr
prawf
maint a math yr ergyd
mesur
gofynion y deliwr helfilod
deddfwriaeth sy’n benodol i wlad
codau ymarfer

Paratoi’r gwn haels ar gyfer y broses saethu o fewn cyd-destun yn nhermau:
defnydd gwn sengl
defnydd gwn dwbl


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod

Cyfranogwyr – unigolion sydd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd saethu

Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu

Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; saethu; llwytho; gwn haels