Cynllunio, rheoli a gwerthuso hyfforddiant gwn haels
URN: LANGa33
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli a gwerthuso hyfforddiant gwn haels. Mae’n addas ar gyfer y rheiny sydd â swyddogaeth reoli a gweithgaredd sydd yn gysylltiedig â hyfforddwr saethu uwch.
Mae’n rhaid i’r sgiliau sy’n ofynnol gan hyfforddwr uwch o reidrwydd gael eu cymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd hyfforddiant gwn haels. Mae disgwyl i chi weithredu o fewn rôl addysgu uwch gyda chyfrifoldeb dros reolaeth a dilyniant amrywiaeth o gleientiaid saethu h.y. o lefel ganolradd i uwch.
Mae cyflwyno’r amrywiaeth o hyfforddiant gwn haels yn briodol i’r lefel hon o weithgaredd addysgu a dylid ei reoli i gyflawni gofynion unigol y cleient yn y ffordd orau.
Cynhelir y rôl hyfforddi yma o fewn cyd-destun amgylchedd tir/ysgol a/neu faes saethu wedi ei reoli’n fasnachol.
Er mwyn bodloni’r safon alwedigaethol hon mae’n rhaid i chi:
• sicrhau bod yr hyfforddiant a’r datblygiad personol sy’n ofynnol yn ddigonol ar gyfer cymhwyso a gwneud cynnydd i’r lefel hon
• cyflwyno hyfforddiant gwn haels ar draws amrywiaeth uchel, gan fodloni gofynion cleientiaid unigol
• gorffen a gwerthuso hyfforddiant gwn haels ar draws yr ystod uwch hon gan roi adborth effeithiol i alluogi a chynllunio cynnydd y cleient
• arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth addas sy’n briodol i’r lefel hon o gyfarwyddyd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad risg cyn cynnal yr hyfforddiant gwn haels
- gwneud gwaith yn unol â gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â defnyddio gynnau haels
- cynllunio cyfarwyddyd/hyfforddiant gwn haels
- dewis cyfarpar addas ar gyfer hyfforddiant gwn hales
- sicrhau bod amgylchedd hyfforddiant priodol yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal, sy’n berthnasol i’r gofyniad hyfforddiant gwn haels a lefel ei gyflwyno
- cynnal cymhwysedd personol trwy gynnal datblygiad personol a'i gofnodi
- rheoli cyflwyno hyfforddiant gwn haels yn ddiogel
- gwerthuso trin gwn haels yn ddiogel a’i ddefnyddio o fewn cyd-destun hyfforddiant gwn haels
- arfarnu lefel profiad cleientiaid a sefydlu amcanion hyfforddiant
- sicrhau mabwysiadu’r osgo saethu cywir gan y cleient a chynghori ar hyn lle y bo’n briodol
- gwerthuso perfformiad cleient yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
- rhoi cyngor ac adborth priodol, yn seiliedig ar berfformiad y cleient, ac integreiddio hyn i’r hyfforddiant gan ddefnyddio technegau cyfarwyddyd/hyfforddiant
- rhoi cyngor ar addasrwydd gwn haels yn ymwneud â pherfformiad cleient
- dehongli adborth cleientiaid ar eich technegau rhoi cyfarwyddyd/hyfforddiant eich hun a'i addasu lle y bo’n briodol
- rheoli canlyniad tanio byw, gan arsylwi’r gweithdrefnau diogelwch perthnasol
- gwneud y gwn haels yn ddiogel yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
- adolygu a gwerthuso amcanion hyfforddiant yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
- dod â hyfforddiant gwn haels i ben a rhoi’r arweiniad priodol ar gynnydd cleient yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyfrifoldebau penodol yr hyfforddwr i’r weithdrefn iechyd a diogelwch, sydd yn gysylltiedig ag ymdrin a defnyddio gynnau haels yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
- y gofynion cyfreithiol sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o wn haels
- sut i gynnal asesiad risg yn ymwneud â’r amgylchedd hyfforddiant gwn haels
- y gweithdrefnau ymateb i argyfwng, yn cynnwys cymorth cyntaf
- sut i gynllunio a rheoli rhaglen hyfforddiant gwn haels wedi ei strwythuro sydd yn gysylltiedig â chynnydd cleient unigol
- pwysigrwydd dewis cyfarpar priodol sy’n berthnasol i hyfforddiant gwn haels a'i lefel gyflwyno
- gofynion y lleoliad/stondin saethu priodol mewn perthynas â hyfforddiant gwn haels a'i lefel gyflwyno
- sut i gael ymwybyddiaeth fanwl o’r cyd-destun hyfforddi o ran disgyblaeth maes neu darged
- pwysigrwydd datblygu technegau hyfforddi i fodloni gofynion cleientiaid
- gweithrediad a pherfformiad technegol gwn haels ac arfau, yn cynnwys amrywiaeth o fathau o ynnau haels ac arfau
- sut i werthuso arddull ddysgu cleient a phwysigrwydd caniatáu gwyro oddi wrth yr hyfforddiant a gynlluniwyd i fodloni anghenion cleientiaid
- sut i feistroli damcaniaeth llygaid a’i gweithrediad ymarferol
- y damcaniaethau saethu a dderbynnir a'u rhinweddau technegol yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
- cymhwysiad gwn haels mewn perthynas ag addysgu, ei gyfraniad perthynol tuag at osod gynnau a'i fanteision posibl yn ymwneud â’r cleient unigol, y cyd-destun a/neu ddisgyblaeth targed
- y technegau wrth gyfathrebu damcaniaeth saethu fel rhan o addysgu a dysgu medrusrwydd saethu
- sut i werthuso llwyddiant yr hyfforddiant gan ddefnyddio adborth a ddarperir gan y cleient yn ymwneud â’r dechneg hyfforddi
pwysigrwydd adborth cleintiaid a sut i’w ddefnyddio i werthuso, addasu a datblygu
- technegau rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi i fodloni gofynion cleientiaid
- pwysigrwydd adlewyrchu ar brofiad rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi a chynnal datblygiad personol
Cwmpas/ystod
Sicrhau amgylchedd hyfforddiant priodol sy’n berthnasol i’r cyd-destun hyfforddi:
• stondin/safle saethu
• targedau addysgu priodol
• disgyblaeth maes neu darged, fel y bo angen
Cyflwyno cyfarwyddyd/hyfforddiant yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels uwch:
• disgyblaeth darged
• saethu maes
Cyflwyno cyfarwyddyd/hyfforddiant uwch ar draws ystod:
• canolradd
• uwch
• gwrywaidd a benywaidd
• traws-uchafiaeth
• defnydd o wn haels arbenigol: maes a/neu math o gystadleuaeth
Cynghori ar addasrwydd gwn uwch:
• gwerthuso hyd carn y tyniad: sawdl, canol, bawd
• gwerthuso’r plyg/gollyngiad: crib, wyneb, sawdl
• gwerthuso’r cast: i ffwrdd, ymlaen, sawdl, bawd
• gwerthuso pitsh: i lawr, niwtral, i fyny
• gwerthuso gwanhâd yr wrthnaid: ysgwydd, boch, wyneb
• gwerthuso’r llaw/gafael
• gwerthuso proffil stoc
• mesuriad cywir o nodweddion stoc gwn haels
Adolygu a gwerthuso amcanion gwers:
• adborth llafar
• bodloni amcanion gwers uwch
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar addas i’r rôl rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi:
• dillad
• codwyr crib
• esgid i’r carn
• capiau clec
• gwanhäwr gwrthnaid
• plât patrwm
• gynnau cynnig (dewisol)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa33
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Hyfforddwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
gwn haels; hyfforddiant; cyfarwyddyd; hyfforddiant