Paratoi a chynnal hyfforddiant gwn haels

URN: LANGa32
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi a chynnal hyfforddiant gwn haels ac mae’n addas ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn rôl weithredol hyfforddwr saethu.

Mae cyflwyno sesiwn hyfforddiant gwn haels yn y rôl hyfforddi yma yn ymwneud ag amrywiaeth o sgiliau saethu ar draws amrywiaeth o gleientiaid o lefel gychwynnol i uwch. Mae disgwyl i chi fod yn gweithredu o dan reolaeth a chyd-destun masnachol-briodol amgylchedd tir neu ysgol saethu.

Cyflwynir y sesiwn hyfforddiant gwn haels yn unol â fformat sefydlog, sy’n briodoll i’r lefel hon, sydd yn ddilyniannol ac wedi ei strwythuro o amgylch normau derbyniol y diwydiant ond sy’n cydnabod ac yn ymgorffori, lle y bo’n briodol, gofynion unigol y cleient.

Er mwyn bodloni’r safon alwedigaethol hon mae’n rhaid i chi:
baratoi ar gyfer cyflwyno’r hyfforddiant gwn haels yn effeithiol ar draws amrywiaeth o brofiad cleientiaid
cyflwyno hyfforddiant gwn haels ar draws yr ystod hon gan fodloni gofynion unigol cleientiaid
dod â’r hyfforddiant gwn haels i ben ar draws yr ystod hon gan roi adborth effeithiol i alluogi cynnydd
arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddigonol sy’n briodol i’r lefel hon o gyfarwyddyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gwneud gwaith yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o ynnau haels
  2. cyfrannu at reoli risg yn ymwneud â chyflwyno’r hyfforddiant gwn haels
  3. paratoi ar gyfer cyfarwyddyd hyfforddiant gwn haels
  4. dewis cyfarpar addas ar gyfer hyfforddiant gwn haels
  5. sicrhau bod amgylchedd hyfforddiant priodol yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal yn berthnasol i ofyniad a lefel cyflwyno’r hyfforddiant gwn haels
  6. asesu lefel profiad y cleient a sefydlu amcanion hyfforddiant
  7. cyflwyno’r gwn haels o fewn y cyd-destun hyfforddiant ac asesu trin a chodi diogel
  8. cynnwys cymhwyso’r gwn haels yng nghyd-destun yr hyfforddiant a'i gysylltu ag addasrwydd y gwn
  9. sicrhau bod yr osgo saethu cywir yn cael ei fabwysiadu gan y cleient
  10. sicrhau bod prawf derbyniol ar gyfer y llygad gryfaf yn cael ei gynnal
  11. dehongli targedau’n ymwneud â sefydlu safle a chyfathrebu’r rhain i’r cleient o fewn cyd-destun yr hyfforddiant
  12. sicrhau bod y cleient yn deall y ddamcaniaeth i ryng-gipio’r targed
  13. rhoi cyfarwyddyd/hyfforddi sut i ryng-gipio gan ddefnyddio’r dull derbyniol
  14. rhyng-gipio ergyd y cleient a rhoi adborth gweithredol
  15. dod â thanio byw i ben yn briodol gan gadw at y gweithdrefnau diogelwch perthnasol
  16. sicrhau bod y gwn haels wedi ei roi i gadw’n ddiogel ar ôl i’r hyfforddiant gwn haels ddod i ben
  17. rhoi adborth cadarnhaol i’r cleient o fewn cyd-destun yr hyfforddiant gwn haels
  18. adolygu amcanion hyfforddiant yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  19. dod â’r hyfforddiant gwn haels i ben


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. cyfrifoldebau penodol yr hyfforddwr yn ymwneud â gweithdrefnau iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig ag ymdrin a defnyddio gynnau haels yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  2. y gofynion cyfreithiol sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o wn haeles
  3. sut i gynnal asesiad risg yn ymwneud â’r amgylchedd hyfforddiant gwn haels
  4. pwysigrwydd cynllunio effeithiol a gweithredu rhaglen addysgu a dysgu wedi ei strwythuro ar ynnau haels
  5. pwysigrwydd dewis cyfarpar priodol sy’n berthnasol i’r hyfforddiant gwn haels a lefel ei gyflwyno
  6. gofynion lleoliad/stondin saethu priodol mewn perthynas â hyfforddiant gwn haels a lefel ei gyflwyno
  7. gosodiad targed clai mewn perthynas â hyfforddiant gwn haels
  8. y defnydd o lansiwr trap/clai mewn perthynas â hyfforddiant gwn haels
  9. pwysigrwydd datblygu technegau hyfforddi i fodloni gofynion cleientiaid
  10. gweithrediad a pherfformiad technegol gwn haels a chetrisen yn cynnwys mathau amrywiol o ynnau haels ac arfau
  11. sut i strwythuro sesiwn hyfforddiant gwn haels a gwerth fframwaith o’r fath yn hyrwyddo amcanion hyfforddiant
  12. damcaniaeth prif lygad a’i gweithredu’n ymarferol
  13. y damcaniaethau saethu a dderbynnir a'r rhinweddau technegol perthnasol yng nghyd-destun hyfforddiant gwn hales
  14. cymhwyso gwn haels mewn perthynas ag addysgu a'i gyfraniad perthynol i addasrwydd gwn, a'i fanteision posibl yn ymwneud â chleient unigol, cyd-destun a/neu ddisgyblaeth darged
  15. pwysigrwydd caniatáu ar gyfer gwyro o’r hyfforddiant a gynlluniwyd sy’n berthnasol i ofynion y cleient
  16. pwysigrwydd adborth yng nghyd-destun hyfforddiant gwn haels
  17. pwysigrwydd adlewyrchu ar y profiad hyfforddiant unigol
  18. y technegau priodol ar gyfer glanhau a chynnal a chadw gwn haels yn gyffredinol
  19. rôl yr hyfforddwr gwn haels a'r moesgarwch sydd yn gysylltiedig â’r amgylchedd hyfforddi
  20. cymhwysiad/addasrwydd y gwn sy’n briodol i’r lefel yma o gyfarwyddyd


Cwmpas/ystod


Sicrhau amgylchedd hyfforddiant priodol sy’n berthnasol i’r cyd-destun hyfforddi:
stondin/safle saethu
targedau addysgu priodol
disgyblaeth maes neu darged fel y bo’n ofynnol

Cyflwyno cyfarwyddyd/hyfforddiant o fewn cyd-destun gwers saethu sylfaenol neu uniongyrchol:
disgyblaeth darged
saethu maes

Cyflwyno hyfforddiant gwn haels ar draws yr ystod:
cychwynnol
canolradd
gwrywaidd a benywaidd
ifanc
traws-uchafiaeth
defnydd o ochr yn ochr a throsodd ac oddi tano
defnydd o fesur bach
defnydd o faril sefydlog

Asesu lefel profiad y cleient sy’n briodol i wers saethu sylfaenol:
dim profiad saethu gwn haels blaenorol (cleient cychwynnol)
profiad saethu gwn haels blaenorol cyfyngedig

Pennu’n gywir y prif lygad yn ymwneud â:
phrif lygad chwith
prif lygad dde
golwg canolog
traws-uchafiaeth

Cynnal cymhwysiad sylfaenol o’r gwn haels o fewn cyd-destun yr hyfforddiant a’i gysylltu ag addasrwydd y gwn:
asesu hyd y carn
asesu uchder y grib
safbwynt am addasrwydd parhaol gwn

Arsylwi ac asesu damcaniaeth i ryng-gipio targed yn seiliedig ar berfformiad cleient:
hybu gwella techneg rhyng-gipio
hybu dealltwriaeth cleient o dechneg rhyng-gipio


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarpar addas sy’n berthnasol i’r dasg gyfarwyddo/hyfforddi:
dillad
codwyr crib
esgid i’r carn
capiau clec
gwanhäwr gwrthnaid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa32

Galwedigaethau Perthnasol

Hyfforddwr

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

gwn haels; hyfforddi; cyfarwyddyd, hyfforddiant