Rheoli mynediad carcasau helfilod bach i’r gadwyn fwyd ddynol
URN: LANGa31
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli mynediad carcasau helfilod bach i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol.
Mae’n berthnasol i gyflenwi carcasau helfilod mewn ffwr/mewn plu (y cyfeirir atynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel “cynnyrch sylfaenol helfilod gwyllt”) i sefydliad trin helfilod cymeradwy (AGHE) ac mae wedi cael ei ddatblygu er mwyn gallu ei gymhwyso i unrhyw helfilod bach sydd wedi eu saethu fel rhan o weithgareddau saethu.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• dilyn gweithdrefnau i sicrhau trin carcasau helfilod bach yn gywir
• cynnal y cyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer storio a pharatoi carcasau helfilod bach
• cefnogi hylendid wrth baratoi a storio carcasau helfilod bach.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a allai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cadarnhau bod gweithdrefnau yn eu lle ar gyfer trin, cludo, paratoi a storio carcasau helfilod bach yn lân
- cadarnhau bod cyfleusterau a chyfarpar yn cael eu cadw mewn cyflwr glân, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- archwilio carcasau helfilod bach am eu haddasrwydd i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- sicrhau mai dim ond carcasau sy’n bodloni gofynion cyfreithlon sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol
- cadarnhau bod trin, cludo, paratoi a storio carcasau helfilod bach yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadarnhau bod gwaredu gwastraff a charcasau anaddas yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- paratoi datganiadau sypiau carcasau yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadw cofnodion cywir o gynhyrchu helgig yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â pharatoi carcasau helfilod bach ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol
- eich cyfrifoldebau yn unol â rheoliadau hylendid bwyd cyfredol yn cynnwys egwyddorion olrheiniadwyedd a Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP) fel y maent yn berthnasol i gyflenwi carcasau helfilod bach i gael eu bwyta gan bobl
- y codau ymarfer perthnasol sy’n rheoli trin, cludo, storio a pharatoi carcasau helfilod bach
- y gofynion cludo a storio ar gyfer carcasau helfilod bach, yn cynnwys y gofynion ar gyfer oeri
- y ffordd y gall arferion trin anghywir niweidio helgig
- sut i archwilio carcasau helfilod bach
- y gofynion ansawdd ar gyfer carcasau helfilod bach sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, yn cynnwys lefelau derbyniol niwed i gnawd
- y prosesau a ddefnyddir gan ddelwyr helfilod ar gyfer cynnwys cig helfilod bach yn y gadwyn fwyd ddynol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu gwastraff a charcasau anaddas
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli cadw cofnodion, labelu ac olrheiniadwyedd ar gyfer cig helfilod bach sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
- y datganiad unigol gan y person sydd wedi ei hyfforddi i gyd-fynd â phob swp o garcasau i’r sefydliad trin helfilod cymeradwy (AGHE).
Cwmpas/ystod
Archwilio carcasau helfilod i bennu:
• niwed ergyd
• cyflwr
Cadw cofnodion cywir o:
• fanylion carcasau
• manylion didol a difa
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Paratoi – y broses o wisgo carcasau cwningod ac ysgyfarnogod trwy dynnu’r pen, y traed, y perfedd a’r organau atgenhedlu, fel y bo’n briodol.
Cynnyrch sylfaenol helfilod gwyllt – helfilod mewn ffwr neu mewn plu sydd wedi cael dim mwy na’r paratoadau angenrheidiol sydd yn rhan o arferion hela arferol. (FSA, The Wild Game Guide Tach 2015).
Carcasau helfilod bach – adar hela, adar gwyllt, ceinachffurfiaid (cwningod ac ysgyfarnogod), mamaliaid tir eraill (e.e. gwiwerod llwyd)
Person wedi ei hyfforddi – rhywun sydd wedi cael hyfforddiant priodol wedi ei dderbyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa31
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helgig; carcasau; paratoi; cadwyn fwyd