Rhyddhau adar hela ifanc

URN: LANGa30
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â rhyddhau adar hela ifanc ar gyfer gweithgareddau saethu helfilod. Gellir ei chymhwyso i unrhyw aderyn hela sydd yn cael ei ryddhau i’r gwyllt.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
gweithredu rhaglenni rhyddhau
rheoli rhyddhau adar hela ifanc
ymdrin ag amrywiadau o’r rhyddhau sydd wedi ei gynllunio.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. gweithredu’r rhaglen rhyddhau adar hela ifanc sydd wedi ei chynllunio er mwyn i dargedau allu cael eu cyflawni, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol a’r codau ymarfer perthnasol
  2. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  3. cefnogi’r rhaglen ryddhau o fewn yr adnoddau sydd ar gael ac yn unol â gofynion lles
  4. gweithredu mesurau i gynnal diogelwch a diogeledd adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
  5. gweithredu mesurau i reoli gweithgaredd plâu ac ysglyfaethwyr o amgylch yr ardal ryddhau 
  6. trefnu cyfleusterau i gefnogi rhyddhau adar hela ifanc yn effeithiol
  7. rhyddhau adar hela ifanc yn effeithiol, yn unol â nodweddion yr ardal ryddhau
  8. lleihau effaith ffactorau sydd yn gallu amharu ar ryddhau
  9. cadarnhau bod adar hela ifanc yn cael eu cludo, eu trin a’u rhyddhau yn unol â gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer perthnasol
  10. gweithredu gweithgareddau rhyddhau i gynnal lles a datblygiad adar hela
  11. gweinyddu triniaethau proffylactig a chlefydau i adar hela ifanc, yn unol â chyfarwyddiadau milfeddygol, gofynion cyfreithiol cenedlaethol a chodau ymarfer perthnasol
  12. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sy’n gofalu am adar hela i hwyluso rhyddhau effeithiol
  13. monitro’r broses ryddhau a’i haddasu, lle bo angen, i ystyried ffactorau a allai amharu ar ryddhau adar hela ifanc
  14. cadarnhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion cyfreithiol cenedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud â chludo a rhyddhau adar hela ifanc a dewis safleoedd rhyddhau
  2. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â rhyddhau adar hela ifanc
  3. manteision ac anfanteision y systemau gwahanol a ddefnyddir i gefnogi rhyddhau adar hela ifanc
  4. y mesurau y gellir eu cymryd i ddiogelu diogelwch a diogeledd adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
  5. y ffordd y gall gweithgareddau plâu ac ysglyfaethwyr amharu ar y broses ryddhau a sut i sefydlu rheolyddion plâu ac ysglyfaethwyr i gyfyngu ar yr effaith
  6. sut i weithredu rhaglen ryddhau i gefnogi’r gweithgareddau saethu sydd wedi eu cynllunio
  7. y ffordd y gall adnoddau gael eu defnyddio i gyflawni amcanion y rhaglen ryddhau
  8. cynefin a gofynion lles yr adar hela ifanc sydd yn cael eu rhyddhau, yn cynnwys dwysedd stoc, bwyd, dŵr, lloches a chlwydo
  9. gofynion maeth adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
  10. gofynion amgylcheddol adar hela ifanc yn ystod y broses ryddhau
  11. sut i baratoi adar hela ifanc ar gyfer eu rhyddhau, yn cynnwys y defnydd o docio adenydd
  12. technegau hwsmonaeth a'r ffordd y gallant gyfyngu problemau clefydau mewn adar hela ifanc
  13. clefydau cyffredin adar hela ifanc a’u symptomau a'u triniaethau cysylltiedig
  14. y gofynion cyfreithiol cenedlaethol ar gyfer adrodd am glefydau hysbysadwy
  15. sut i weinyddu triniaethau i adar hela ifanc a'r gofynion cyfreithiol cenedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol sydd yn gysylltiedig â defnyddio meddyginiaethau milfeddygol 
  16. gofynion arbenigol ymdrin ag adar hela ifanc
  17. pam y mae’n bwysig monitro a rheoli’r broses ryddhau
  18. sut i leihau effaith bosibl ffactorau sydd yn gallu amharu ar ryddhau adar hela ifanc
  19. y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion


Cwmpas/ystod


Trefnu’r cyfleusterau canlynol:
ardaloedd rhyddhau
llociau rhyddhau
cyfarpar bwydo a dyfrio
atal plâu ac ysglyfaethwyr
trapiau plâu ac ysglyfaethwyr

Ystyried nodweddion canlynol yr ardal ryddhau:
cynefin
ardaloedd saethu
argaeledd bwydydd naturiol
argaeledd dŵr
argaeledd safleoedd clwydo diogel

Gweithredu’r gweithgareddau rhyddhau canlynol:
bwydo a dyfrio
cynnal llociau rhyddhau
darparu lloches
rheoli’r gwaith o ddosbarthu helfilod
gwaredu gwastraff
gwaredu helfilod marw
rheoli plâu ac ysglyfaethwyr


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – ffesantod, petris, hwyaid

Adnoddau – pobl, deunyddiau, porthiant a dŵr, cyfleusterau rhyddhau, pŵer, amser, trafnidiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa30

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

adar hela; rhyddhau; ffesantod; petris; hwyaid