Cefnogi cyfranogwyr ar ddiwrnod saethu
URN: LANGa3
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi cyfranogwyr ar ddiwrnod saethu. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud wrth gynghori a hyfforddi cyfranogwyr ar ddiwrnodau saethu ysglyfaeth byw.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes saethu helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• disgrifio gofynion y diwrnod saethu i gyfranogwyr
• darparu gwybodaeth am foesgarwch saethu
• darparu gwybodaeth am rywogaethau ysglyfaeth a’u hymddygiad disgwyliedig
• darparu gwybodaeth am ddefnydd a diogelwch saethwyr
• cynnal cysylltiadau cwsmeriaid
• hyfforddi unigolion ar ddatblygiad eu galluoedd saethu.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud y gweithgaredd yn ddiogel yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cael dealltwriaeth o lefel profiad y cyfranogwyr
- cadarnhau bod y cyfranogwyr yn deall gofynion sylfaenol y diwrnod saethu
- cefnogi’r cyfranogwyr i baratoi ar gyfer y gweithgareddau sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y diwrnod saethu
- rhoi gwybodaeth i’r cyfranogwyr, i gefnogi eu dealltwriaeth o’r gweithgareddau saethu
- cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gyda’r cyfranogwyr
- cefnogi cyfranogwyr mewn ffordd gwrtais a moesgar
- arsylwi gallu saethu’r cyfranogwyr
- rhoi adborth i’r cyfranogwyr ar y perfformiad a arsylwyd a gallu saethu
- rhoi cymorth a chefnogaeth i’r cyfranogwyr i gefnogi datblygiad eu techneg saethu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â saethu a diwrnodau saethu
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a defnydd o arfau tanio
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
- deddfwriaeth a chodau ymarfer cyfredol sy’n benodol i wlad yn ymwneud â’r defnydd o fathau gwahanol o arfau
- gofynion gweithgareddau saethu
- paratoadau’r diwrnod saethu, yn cynnwys sut i gwblhau gwiriadau cyn defnyddio ar arfau tanio ac arfau
- y wybodaeth ddiogelwch sydd yn angenrheidiol i gefnogi diwrnodau saethu
- pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol i sicrhau diogelwch ar ddiwrnodau saethu
- moesgarwch a phrotocolau saethu
- y gweithgareddau saethu gwahanol a sut maent yn cael eu gweithredu
- sut i adnabod y rhywogaethau ysglyfaeth a’u gofynion saethu
- ymddygiad tebygol (disgwyliedig) rhywogaethau ysglyfaeth ar ddiwrnodau saethu
- y dechneg saethu sydd yn addas ar gyfer amrediad, codi a rhwystro'r ysglyfaeth, ac ar gyfer yr arfau tanio a'r arfau sydd ar gael
- sut i osod arfau tanio a’r ffordd y mae nodweddion corfforol personol cyfranogwr yn effeithio ar osod a defnyddio arf tanio
- amrediad effeithiol arfau tanio ac arfau, yn cynnwys yr amrediad absoliwt
- cyflwr y maes a’i effaith ar weithgareddau saethu
- ymdrin â saethwyr yn cynnwys sut i lwytho a throsglwyddo arfau tanio i gyfranogwyr ar y maes saethu
- y sgiliau cyfathrebu sydd yn ofynnol, yn cynnwys sut i roi adborth cadarnhaol ar berfformiad
- pwysigrwydd cwrteisi yn cynnal gwasanaeth cwsmeriaid
- y camau i’w cymryd os caiff y saethu ei amharu gan ddifrodwyr
Cwmpas/ystod
Sicrhau bod cyfranogwyr yn deall y gofynion canlynol:
• chwaraeon
• cyfreithiol
Darparu gwybodaeth am:
• nodweddion yr ystâd chwaraeon
• moesgarwch saethu
• nodweddion rhywogaethau gwahanol o helfilod a’r ymateb tebygol i weithgareddau diwrnod saethu
• diogelwch
Rhoi cymorth a chefnogaeth o ran:
• ymdrin â gwn
• codi gwn
• techneg ac osgo saethu
• adnabod ysglyfaeth a’r ymateb tebygol i weithgareddau diwrnod saethu
• moesau a phrotocolau saethu
• diogelwch
• amhariad difrodwyr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau saethu – unrhyw chwaraeon maes cyfreithiol perthnasol sydd yn cynnwys hela helfilod gydag arf tanio
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Cyfranogwyr – unigolion sydd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd saethu
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu
Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa3
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
saethu; cefnogi; helfilod; saethu