Cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela
URN: LANGa28
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela. Gellir ei chymhwyso i unrhyw wyau adar hela sydd yn cael eu deori ac yn deor o dan amodau wedi eu rheoli.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela
• sefydlu a chynnal deori glân
• cyfrannu at y broses ddeori/ddeor
• cynnal cynhyrchiant cywion adar hela diwrnod oed.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at gynhyrchu cywion adar hela trwy weithredu’r rhaglen bridio adar hela er mwyn gallu cyflawni ei thargedau, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol
- cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cynnal gweithrediadau cynhyrchu o fewn argaeledd hysbys yr adnoddau ac yn unol â gofynion lles
- gweithredu gweithrediadau’r ddeorfa i gyflawni’r cynhyrchiant angenrheidiol, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- gweithredu mesurau i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y ddeorfa
- gweithredu mesurau i reoli plâu ac ysglyfaethwyr
- profi a sefydlu lefelau glendid ac amodau gwaith cyfarpar deorfa
- pennu a chymharu ffrwythlondeb mewn wyau adar hela
- dilyn gweithdrefnau wedi eu sefydlu i leihau effaith ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu cywion adar hela
- cadarnhau bod wyau adar hela’n cael eu dethol a’u paratoi yn unol â’r cynhyrchiant a gynlluniwyd gan y ddeorfa
- rheoli gweithrediad cyfarpar deori a deor i gynnal y tymheredd a'r lleithder sydd yn hanfodol i gynhyrchu cywion adar hela
- cynnal cynhyrchiant cywion adar hela o fewn y cyfyngiadau adnoddau hysbys ac yn unol â’r gofynion lles perthnasol
- cadarnhau bod lles cywion adar hela yn cael ei gynnal wrth ddeor, rhoi mewn bocsys a’u cludo
- parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig i hwyluso cynhyrchiant effeithiol y ddeorfa
- cadarnhau bod cofnodion cywir cynhyrchu cywion adar hela yn cael eu cynnal, fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfyngiadau cyfreithiol cenedlaethol a’r codau ymarfer perthnasol sy’n rheoli cynhyrchiant deorfa
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â deori wyau adar hela
- sut i weithredu rhaglen cynhyrchu adar hela i gyflawni'r targedau sydd wedi eu cynllunio
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y ddeorfa
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a rheoli presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr
- sut i sefydlu a chynnal cyflwr glân y cyfarpar deori
- y problemau sydd yn gysylltiedig â hylendid gwael deorfa
- sut i brofi a sefydlu amodau gwaith cyfarpar deorfa
- sut i fonitro a rheoli tymheredd a lleithder cyfarpar deori
- gweithdrefnau gweithredu’r cynhyrchydd, yn cynnwys systemau wrth gefn mewn argyfwng, sydd yn gysylltiedig â’r cyfarpar deori, yn ogystal â’r cyfnod inswleiddio
- yr amodau a’r amser sydd yn angenrheidiol ar gyfer deori a deor llwyddiannus
- sut i leihau’r effaith bosibl ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchiant cywion adar hela
- y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol yn ymwneud â chynhyrchu, cludo a lles cywion adar hela sydd wedi eu magu
- y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Sefydlu cyflwr cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer:
• deori
• deor
Cynnal system gofnodi er mwyn cofnodi:
• ffrwythlondeb
• canran yr wyau ffrwythlon sydd yn deor
• canran deor cyffredinol
• niferoedd sydd yn cael eu deori
Gweithredu gweithrediadau deorfa yn ymwneud â:
• pharatoi wyau
• deori wyau
• deor wyau
• lladd cywion sydd wedi eu hanffurfio
• rhoi cywion diwrnod oed mewn bocsys
Dilyn gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â phedwar o’r ffactorau canlynol sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu:
• methiant deori
• newidiadau mewn amodau amgylcheddol
• prinder adnoddau
• clefydau ac annormalrwydd
• gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
• difrodi
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deori – y broses a ddefnyddir i gefnogi datblygiad cywion y tu mewn i’r ŵy
Deor – y broses a ddefnyddir i gefnogi deor cywion o’r ŵy
Helfilod – ffesantod, petris, hwyaid
Adnoddau – pobl, deunyddiau, porthiant a dŵr, cyfarpar, pŵer, amser
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa28
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
aderyn hela; wyau; deori; cywion; deorfa