Cyfrannu at gynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela

URN: LANGa27
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela. Gellir ei chymhwyso i unrhyw aderyn hela a gynhyrchir o dan amodau wedi eu rheoli.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cynhyrchu helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
dewis adar hela addas ar gyfer bridio
sefydlu haid fridio o adar hela
rheoli haid o adar hela i hwyluso cynhyrchu wyau adar hela
cynnal y gwaith o gynhyrchu wyau adar hela
rheoli’r gwaith o ymdrin a storio wyau adar hela.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cyfrannu at gynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela trwy weithredu rhaglen bridio adar hela yn effeithiol er mwyn gallu cyflawni targedau, yn unol â’r gofynion cyfreithiol cenedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol
  2. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  3. trefnu i sefydlu llociau bridio i gefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela sydd wedi ei gynllunio
  4. gweithredu mesurau i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y stoc bridio adar hela 
  5. gweithredu mesurau i reoli plâu ac ysglyfaethwyr
  6. dewis stoc bridio i gynyddu’r elw posibl o weithgareddau bridio
  7. gweithredu cyfundrefnau bwydo a gofal addas ar gyfer y stoc bridio adar hela er mwyn cynnal eu gofynion maes a lles
  8. trefnu’r gwaith o baratoi a gofalu am stoc bridio adar hela i gynnal eu lles, hwyluso cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol a'r codau ymarfer perthnasol
  9. dilyn gweithdrefnau sydd wedi eu sefydlu i leihau effaith ffactorau sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela
  10. cynnal gweithrediadau cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela o fewn yr argaeledd adnoddau hysbys ac yn unol â gofynion lles
  11. gweinyddu triniaethau proffylactig a chlefydau i stoc bridio adar hela, yn unol â’r gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol
  12. adnabod ac ymdrin yn effeithiol ag unrhyw faterion sydd yn effeithio ar y rhaglen bridio adar hela
  13. cadarnhau bod wyau ffrwythlon adar hela yn cael eu trin a'u storio yn y ffordd gywir i gynnal eu hyfywedd
  14. parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig er mwyn hwyluso cynhyrchu wyau adar hela yn effeithiol
  15. cadarnhau bod cofnodion cynhyrchu wyau cywir yn cael eu cynnal, fel sydd yn angenrheidiol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer cynhyrchu, cludo a lles adar hela
  2. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela
  3. sut i weithredu rhaglen bridio adar hela i gyflawni’r targedau a gynlluniwyd
  4. gofynion atgenhedlu’r aderyn hela sydd yn cael ei gynhyrchu
  5. sut i drefnu llociau bridio adar hela i gynhyrchu’r wyau angenrheidiol
  6. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a chynnal diogelwch a diogeledd y stoc bridio adar hela 
  7. y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a rheoli presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr
  8. gofynion ymdrin arbenigol y stoc bridio adar hela
  9. y dulliau a ddefnyddir i fonitro ffrwythlondeb adar hela unigol
  10. lefelau disgwyliedig cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela a’r ffordd y gellir paratoi adar hela er mwyn cynyddu cynhyrchu wyau adar hela
  11. manteision ac anfanteision systemau heidiau caeëdig ac wedi eu dal
  12. gofynion lles a maeth stoc adar hela, yn cynnwys y gofynion maeth cyn bridio
  13. clefydau cyffredin adar hela a'u symptomau, achosion posibl heintiau a thriniaethau
  14. y gofynion cyfreithiol cenedlaethol ar gyfer adrodd ar glefydau hysbysadwy
  15. sut i weinyddu triniaethau i adar hela a'r gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer sydd yn gysylltiedig â defnyddio meddyginiaethau milfeddygol 
  16. lefelau disgwyliedig ac achosion cyffredin marwolaethau
  17. y gofynion ar gyfer casglu, glanhau a storio wyau ffrwythlon adar hela i gynyddu eu gallu i ddeor
  18. cyfnodau a lefelau disgwyliadwy cynhyrchu sydd yn gysylltiedig â’r misoedd calendr
  19. achosion materion cyffredin sydd yn gallu effeithio ar gynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela a sut i leihau eu heffeithiau
  20. pwysigrwydd ffrwythlondeb wyau da a’r amrywiadau mewn ffrwythlondeb sydd yn digwydd yn ystod y tymor dodwy wyau
  21. y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion


Cwmpas/ystod


Gweithredu rhaglen fridio i gwnnwys chwech o’r prosesau canlynol:
dal stociau bridio
cludo adar sydd yn dodwy
paratoi adar sydd yn dodwy
monitro ffrwythlondeb
casglu a storio wyau
gwaredu’r haid fridio
stoc dros y gaeaf

Dilyn gweithdrefnau i ymdrin â phedwar o’r ffactorau canlynol sydd yn gallu amharu ar gynhyrchu:
newidiadau mewn amodau amgylcheddol
prinder adnoddau
gweithredoedd plâu ac ysglyfaethwyr
difrodi
clefydau
methiant cyfarpar

Adnabod ac ymdrin yn effeithiol â chwech o’r materion canlynol a allai godi:
bwyta wyau
plisg medal
pigo twll awyr
gor-baru
amrywiadau i gynhyrchiant disgwyliadwy wyau
ffrwythlondeb isel
wyau rhwym
clefydau
straen mewn adar
peritonitis wyau

Cynnal y gweithrediadau canlynol:
casglu wyau
glanhau a storio wyau
gofalu am stoc bridio
gwaredu heidiau bridio



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid

Adnoddau – pobl, deunyddiau, porthiant a dŵr, cyfarpar, pŵer, amser


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

wyau adar hela; ffesantod; petris; hwyaid