Cyfrannu at reoli llosgi rhagnodedig fel rhan o reoli llystyfiant
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at reoli llosgi rhagnodedig fel rhan o reoli llystyfiant. Mae wedi ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i ardaloedd cynefin grug a gwair. Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sydd yn gweithio ym maes helgig, coedwigaeth, ffermio neu reoli gwarchodaeth, naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser.
Er mwyn bodloni'r safon hon byddwch yn gallu:
- cyfrannu at ddatblygu cynlluniau llosgi rhagnodedig
- trefnu'r gofynion ymarferol sy'n gysylltiedig â llosgi diogel
- rheoli gweithgareddau llosgi llystyfiant
- goruchwylio unigolion a thimau i gefnogi gweithgareddau llosgi
- adweithio'n briodol, o fewn gweithdrefnau sefydliadol, i ddigwyddiad o ddihangfa dân.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a'r gweithgareddau y mae'n eu disgrifio, mae'n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at sefydlu'r angen am losgi trwy asesu'r ardal losgi bosibl
- cyfrannu at sefydlu'r cynllun llosgi rhagnodedig gan ystyried amcanion rheoli tir a ffactorau'r safle fydd yn effeithio ar ymddygiad y tân
- sicrhau bod y cynllun llosgi arfaethedig yn dynodi'r holl ofynion llosgi ac yn cydymffurfio â chyfyngiadau cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cyfrannu at y gofynion gweithredol ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cynllun llosgi rhagnodedig
- cyfrannu at sefydlu cynlluniau wrth gefn i reoli unrhyw wyro o'r cynllun llosgi rhagnodedig
- cysylltu â phobl i gadarnhau'r cynllun llosgi rhagnodedig (e.e. cymdogion, asiantaethau)
- defnyddio mapiau i roi a derbyn cyfeirnodau grid cywir, amcangyfrif pellterau a nodi nodweddion
- defnyddio rhagolygon y tywydd i sefydlu a yw'r amodau yn ffafriol i'r llosgi a gynlluniwyd
- sicrhau argaeledd adnoddau i gefnogi'r cynllun llosgi
- trefnu'r gwaith o sefydlu bylchau a rheolyddion tân
- gweithredu prawf llosgi i gadarnhau priodoldeb yr amodau llosgi ac i nodi unrhyw addasiadau sydd eu hangen i'r cynllun llosgi rhagnodedig
- briffio pawb sy'n gysylltiedig am y cynllun llosgi a'r materion diogelwch cysylltiedig
- goruchwylio cynnau'r llystyfiant o dan reolaeth, yn unol â phatrwm cynnau a nodwyd
- rheoli'r cynllun llosgi yn unol â'r gofynion llosgi a gynlluniwyd
- cymryd camau uniongyrchol i ymdrin ag unrhyw amrywiadau o'r gofynion llosgi a gynlluniwyd
- cyfathrebu'n effeithiol gydag eraill trwy gydol y broses losgi, yn cynnwys y defnydd o radio lle y bo'n briodol
- trefnu adnoddau i atal tanau a chyflawni'r cynllun llosgi a gynlluniwyd
- gwerthuso ac adrodd ar effeithiolrwydd y cynllun llosgi.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfyngiadau cyfreithiol sy'n rheoli llosgi llystyfiant
- y peryglon sy'n gysylltiedig â gweithrediadau llosgi llystyfiant
- y codau ymarfer perthnasol
- cynllun tân y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo a'i weithdrefnau gweithredu cysylltiedig
- pwysigrwydd cynllunio llosgi
- yr adnoddau a'r offer sy'n ofynnol i gefnogi gweithgareddau llosgi diogel
- sut i asesu nodweddion cynefin grug a gwair mewn perthynas â chynllunio a rheoli llosgi
- yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sy'n ofynnol i'r tân fodoli
- y ffactorau sy'n effeithio ar ymddygiad tân
- mathau a llwythau tanwydd
- sut gall y tywydd, tanwydd, agweddau a thirwedd effeithio ar ledaeniad, dwysedd a difrifoldeb tanau
- yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir i reoli a diffodd tanau llystyfiant
- effaith bosibl gweithgareddau llosgi rhagnodedig ar agweddau eraill ar yr amgylchedd naturiol yn cynnwys ansawdd dwr ac aer, cynefinoedd sensitif a rhywogaethau planhigion, a helgig a bywyd gwyllt eraill
- pam y caiff llystyfiant ei losgi fel rhan o reoli cynefin a bywyd gwyllt
- diben, adeiladwaith a gwerth bylchau tân
- y gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â llosgi llystyfiant
- sgiliau darllen map ar gyfer mapiau Arolwg Ordnans graddfa 1:50,000
- y defnydd o restrau gwirio, mapiau a diagramau fel offer rheoli pwysig
- y wybodaeth sy'n ofynnol gan ystafelloedd rheoli'r gwasanaeth tân ac achub ac ar y safle
- sut i weithredu a dadansoddi profion llosgi
- sut y gall agwedd a thopograffeg effeithio ar ledaeniad, dwysedd a natur tanau
- y ffordd y mae patrymau cynnau gwahanol yn gweithio a sut y gallant effeithio ar y llosgi
- y gweithdrefnau i'w dilyn mewn argyfwng
- y sylfaen cyfreithiol dros eich presenoldeb cyfreithlon ar y tir er mwyn cynnal llosgi rhagnodedig
- y grwpiau tân a'u rôl yn rheoli argyfyngau.
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Llosgi rhagnodedig – Tân wedi ei gynllunio o dan amodau amgylcheddol wedi eu pennu ymlaen llaw, o fewn ffiniau, i gyflawni amcanion rheoli adnoddau
*Agwedd * – Y cyfeiriad y mae goleddf yn wynebu.
Topograffeg – Siâp y tir, yn arbennig ei oleddf a'i agwedd.
Tywydd tân – Amodau hinsawdd a ragfynegwyd yn cynnwys cyfnod y llosgi, yn arbennig gwynt, tymheredd yr aer a lleithder perthynol.
Tanwydd – Math, maint, trefniant, dosbarthiad a chynnwys gwlybaniaeth y llystyfiant. Gall hyn fod yn danwydd daear (mawn), arwyneb (grug a haenen o wasarn) neu awyr (coed).
Math o dân – Naill ai tân daear, tân arwyneb neu danau copa, tân arwyneb yw'r mwyaf cyffredin.
DDwysedd tân - Maint neu gyfradd yr egni sy'n cael ei ryddhau sydd yn teithio i fyny o'r tân.
Enbydrwydd y llosgi – Maint y gwres a'r effaith ar lystyfiant a phriddoedd sydd o dan haenen gwasarn tân
Dihangfa dân – Llosgi sydd y tu hwnt i'r tân a ragnodwyd, tân ffo neu dân gwyllt yn aml.
Tân gwyllt – Tân nad yw'n cael ei reoli
Cynllun llosgi – Y cynllun sydd wedi ei gymeradwyo ar gyfer llosgi rhagnodedig mewn ardal benodol
Codau ymarfer* * – Dogfennau yn rhoi'r dulliau a ddatblygwyd i helpu i gydymffurfio â'r gweithredoedd a'r rheoliadau wrth gyflawni'r gwaith e.e. Côd Muirburn (Yr Alban), Côd Llosgi Grug a Gwair (Cymru a Lloegr)