Cyfrannu at gynllunio a gweithredu rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt

URN: LANGa25
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynllunio a gweithredu rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt i gefnogi poblogaethau helfilod. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau sydd yn angenrheidiol i gynnal a gwella cynefinoedd a gellir ei chymhwyso i unrhyw gynefin ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.

I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
cyfrannu at gynllunio rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt 
monitro cyflwr a defnydd o gynefin
gweithredu cynlluniau i reoli cynefin i gefnogi gweithgareddau helfilod a saethu helfilod.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gwaith tuag at warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. pennu’r gofynion ar gyfer rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt trwy ganfyddiadau asesiad o’r effaith ar gynefin a dadansoddi anghenion helfilod a gofynion gweithgareddau chwaraeon
  2. nodi’r ffordd y mae dylanwadau a allai effeithio ar reoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt yn berthnasol yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  3. cyfrannu at ddatblygu cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt, yn unol â chyfundrefnau rheoli parhaus ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt, a gofynion y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad
  4. nodi gofynion adnoddau i weithredu’r cynllun a’r cyfyngiadau hysbys o ran adnoddau
  5. cael adborth ar gyfraniadau i’r cynllun rheoli helfilod a bywyd gwyllt a chytuno ar y cynllun terfynol gyda’r rheolwr saethu
  6. cynorthwyo’r gwaith o weithredu gweithgareddau rheoli cynefin i gefnogi poblogaethau helfilod ac i fodloni anghenion y cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
  7. cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  8. cadarnhau bod gweithgareddau rheoli cynefin yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol sy’n benodol i wlad
  9. gwerthuso gweithgareddau rheoli cynefin yn erbyn amcanion sydd wedi eu cynllunio
  10. ymdrin ag unrhyw ddylanwadau sydd yn amharu ar weithgareddau rheoli cynefin a gynlluniwyd i leihau eu heffaith
  11. parhau i gyfathrebu’n effeithiol gyda’r rheiny sydd yn gweithredu gweithgareddau rheoli cynefin
  12. cadw cofnodion yn ymwneud â rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer bywyd gwyllt ac amgylcheddol cenedlaethol perthnasol yn ymwneud â rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
  2. gofynion cynefin y rhywogaethau o helfilod a geir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt, a'u rhyngweithio gyda fflora a ffawna naturiol
  3. sut i gynnal asesiad o’r effaith ar gynefin
  4. buddion rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
  5. amcanion rheoli cynefin 
  6. sut i reoli cynefin i gynyddu ei werth o ran chwaraeon a chadwraeth natur
  7. y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
  8. rhyngweithio cynefin helfilod a bywyd gwyllt gyda defnyddwyr eraill y tir
  9. y ffordd y gall dylanwadau dynol a defnydd o dir effeithio ar gyflwr y cynefin
  10. ble i gael cyngor, gwybodaeth a chymorth grant yn ymwneud â rheoli a chadwraeth cynefin helfilod a bywyd gwyllt
  11. gweithgareddau rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt a'r ffactorau sydd yn gallu effeithio ar eu gweithredu
  12. sut i gefnogi gweithgareddau rheoli cynefin a’r adnoddau sydd yn angenrheidiol
  13. pam y gallai fod angen addasu gweithgareddau rheoli cynefin os oes newidiadau i amodau amgylcheddol
  14. y ffordd y mae rheoli cynefin yn amrywio trwy gydol y cylch blynyddol
  15. y sylfaen gyfreithiol ar gyfer eich presenoldeb cyfreithlon ar y tir er mwyn rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
  16. y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gweithgareddau rheoli cynefin
  17. y gofynion cyfreithiol a’r sefydliad ar gyfer cwblhau cofnodion 


Cwmpas/ystod


Gwneud cyfraniadau i reoli cynefin helfilod i gefnogi’r gweithgareddau canlynol:
monitro cynefin/asesu effaith cynefin
creu cynefin
cynnal cynefin

Nodi ac ymdrin ag effaith tri o’r dylanwadau canlynol:
cyflwr amgylcheddol
argaeledd adnoddau
defnydd o dir
deddfwriaeth
dylanwadau dynol

Cynnal y defnydd o’r adnoddau canlynol, o fewn cyfyngiadau hysbys:
pobl
deunyddiau
cyfarpar
amser


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureSco
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod

Nodweddion ardal – fel topograffeg, gweithgareddau tir eraill, math o dir, draeniad

Creu cynefin – Er enghraifft: sefydlu cnydau gorchudd blynyddol, sefydlu coedwrych neu goetir parhaol, ac ati


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; cynefin; rheolaeth