Cyfrannu at ddatblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt
URN: LANGa24
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygu cynllun rheoli ar gyfer ceirw gwyllt mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a rheoli ceirw gwyllt a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• pennu gofynion rheoli ceirw gwyllt
• awgrymu opsiynau ar gyfer rheoli ceirw gwyllt
• cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli ceirw gwyllt
• trafod cynllun rheoli ceirw gwyllt gyda’r bobl berthnasol
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi cofnodion blynyddoedd chwaraeon blaenorol i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol a nodi cyfleoedd datblygu
- dadansoddi defnydd blaenorol o adnoddau i bennu eu heffeithlonrwydd
- asesu effaith ceirw ar y cynefin
- cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli ceirw gwyllt
- awgrymu targedau a syniadau ar gyfer cynnal a gwella opsiynau rheoli ceirw yn y dyfodol yn seiliedig ar eich dadansoddiad
- nodi buddion y cynllun rheoli ceirw gwyllt i gadwraeth bywyd gwyllt a chynefin
- trafod gofynion y cynllun rheoli ceirw gwyllt, a’i weithredu, gyda’r bobl berthnasol
- cytuno ar ddulliau ar gyfer monitro’r cynllun rheoli ceirw gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion a chyfyngiadau’r ardal o dir lle mae’r cynllun rheoli ceirw gwyllt yn berthnasol
- gofynion cynllunio hirdymor a thymor byr
- sut i ddadansoddi cofnodion i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau rheoli ceirw blaenorol
- pwysigrwydd cofnodion saethu yn pennu gwir botensial chwaraeon
- egwyddorion rheoli ceirw gwyllt
- y gofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cenedlaethol perthnasol sy’n rheoli rheolaeth ceirw gwyllt
- y ffordd y gellir defnyddio rheoli cynefin a bywyd gwyllt i ddatblygu potensial cynllun rheoli ceirw gwyllt
- effaith gweithgareddau rheoli ceirw ar ddefnydd arall o’r tir
- y ffordd y gall ceirw effeithio ar gynefinoedd gwahanol a'r technegau a ddefnyddir i asesu eu heffaith
- gyda phwy sydd angen ymgynghori ar y cynllun rheoli ceirw gwyllt arfaethedig a'r camau i’w cymryd os na ellir dod i gytundeb
- sut i gyflwyno syniadau mewn ffordd sydd yn hybu dealltwriaeth
- y gofynion diogelwch sydd yn gysylltiedig â rheoli ceirw
Cwmpas/ystod
Awgrymu targedau a syniadau ar gyfer datblygu cynllun rheoli ceirw gwyllt yn cwmpasu:
• y tymor byr
• yr hirdymor
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adnoddau:
• pobl
• deunyddiau
• cyfarpar
• cyllid
Adnoddau:
• cofnodion didol a difa
• cofnodion amgylcheddol
• potsio
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa24
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
ceirw; rheoli; cynllunio