Cyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod
URN: LANGa22
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw weithgaredd saethu helfilod sydd yn cael ei drefnu ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• pennu potensial yr ardal rheoli bywyd gwyllt
• awgrymu opsiynau ar gyfer gwella ei photensial chwaraeon
• cyfrannu at ddatblygiad rhaglen saethu helfilod
• trafod y rhaglen saethu helfilod gyda’r rheolwr saethu.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi cofnodion blynyddoedd chwaraeon blaenorol i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol ac amlygu potensial i’r dyfodol
- dadansoddi cofnodion defnydd blaenorol o adnoddau i bennu eu heffeithlonrwydd
- asesu opsiynau ac amlinellu argymhellion ar gyfer gallu chwaraeon yr ardal rheoli bywyd gwyllt i’r dyfodol
- awgrymu targedau a syniadau ar gyfer cynnal a gwella potensial chwaraeon i’r dyfodol, yn seiliedig ar eich dadansoddiad
- cyfrannu at ddatblygu a sefydlu rhaglen saethu helfilod
- nodi buddion y rhaglen saethu helfilod i gadwraeth bywyd gwyllt a chynefin
- trafod a chytuno ar ofynion y rhaglen saethu helfilod, a’i weithredu, gyda’r rheolwr saethu
- cytuno ar y mecanweithiau ar gyfer monitro’r rhaglen saethu helfilod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion a chyfyngiadau’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- gofynion cynllunio hirdymor a thymor byr
- sut i ddadansoddi cofnodion i sefydlu effeithiolrwydd gweithgareddau blaenorol
- pwysigrwydd cofnodion saethu yn pennu gwir botensial chwaraeon
- egwyddorion rheoli helfilod
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli rheolaeth helfilod
- sut i fanteisio i’r eithaf ar y gallu chwaraeon a geir o helfilod gwyllt a mudol
- sut i annog presenoldeb helfilod gwyllt a mudol
- y ffordd y gellir defnyddio rheoli cynefin a bywyd gwyllt i ddatblygu potensial ardal rheoli bywyd gwyllt
- effaith gweithgareddau chwaraeon ar weithgareddau eraill yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- cyd-destun y rhaglen saethu helfilod
- sut i gyflwyno eich syniadau mewn ffordd sydd yn hybu dealltwriaeth
- y ffordd y gellir monitro rhaglen saethu helfilod
Cwmpas/ystod
Amlinellu gallu chwaraeon yn y dyfodol yn ymwneud ag un o’r canlynol:
• helfilod gwyllt
• helfilod wedi eu magu
• helfilod mudol
• ceirw
Awgrymu targedau a syniadau yn cwmpasu naill ai rheoli helfilod neu reoli cynefin ar gyfer:
• y tymor byr
• yr hirdymor
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Rhaglen saethu helfilod:
Gweithgareddau saethu wedi eu cynllunio yn cwmpasu tymor saethu
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Adnoddau:
• pobl
• deunyddiau
• cyfarpar
• cyllid
Cofnodion:
• ffurflenni chwaraeon
• cofnodion poblogaeth helfilod
• cofnodion plâu ac ysglyfaethwyr
• cofnodion amgylcheddol
• potsio
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa22
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
rhaglen saethu; helfilod; ceirw; ffesantod; grugieir