Cyfrannu at atal troseddu gwledig mewn ardal rheoli bywyd gwyllt
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at atal troseddu gwledig mewn ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sy'n gweithio ym maes gwarchod helgig naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
Er mwyn bodloni'r safon hon byddwch yn gallu:
- rhoi gweithdrefnau ar waith i ganfod troseddu gwledig
- rhoi gweithdrefnau ar waith i gael eu cymhwyso i atal troseddu gwledig
- lleihau effaith potsio ar ardal rheoli bywyd gwyllt
- ymdrin â digwyddiadau o botsio.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a'r gweithgareddau y mae'n eu disgrifio, mae'n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu'r perygl posibl i'r ardal rheoli bywyd gwyllt yn sgil troseddu gwledig
- cyfrannu at atal troseddu gwledig trwy weithredu gweithdrefnau i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol perthnasol
- cyfathrebu gyda phobl berthnasol parthed y gweithdrefnau
- gweithredu systemau effeithiol ar gyfer cofnodi gwybodaeth ddiogelwch yn gywir
- sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
cynnal diogelwch yr ardal yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad a'r gofynion cyfreithiol
cyfrannu at weithredu mesurau ataliol yn effeithiol gyda'r nod o leihau troseddu gwledig
- ymchwilio i natur digwyddiadau o fewn terfynau eich awdurdod eich hun
cyfrannu at weithrediadau gwyliadwriaeth i gadarnhau gweithgaredd potsio
cael cyngor gan yr awdurdod priodol pan fydd digwyddiad postio y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb chi
ymdrin â digwyddiadau yn gwrtais ac yn gadarn
cadw cofnodion ac adroddiadau o bob digwyddiad yn gywir, fel sy'n ofynnol gan y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- deddfwriaeth berthnasol sy'n gysylltiedig â chefn gwlad a mynediad
- y gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig ag atal troseddu gwledig, yn cynnwys peryglon sy'n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun
- sut i bennu'r peryglon a gyflwynir gan droseddu gwledig
- yr hyn y mae potsio'n ei olygu a sut y mae hyn yn amrywio o fathau eraill o droseddu gwledig
- y dulliau a ddefnyddir fel rhan o droseddu gwledig
- y cyfnodau o'r flwyddyn lle mae helgig yn fwyaf agored i niwed gan botswyr
- sut i weithredu mesurau ataliol y gellir eu defnyddio i leihau gweithgaredd potsio
- sut i weithredu gweithrediadau gwyliadwriaeth y gellir eu defnyddio i gadarnhau gweithgaredd potsio
- y camau y gellir eu cymryd yn gyfreithiol i leihau troseddu gwledig
- y dyfeisiadau y gellir eu defnyddio'n gyfreithlon i atal troseddu gwledig
- sut y gellir defnyddio anifeiliaid i atal troseddu gwledig
- nodweddion a rhinweddau ardal rheoli bywyd gwyllt sydd yn agored i droseddu gwledig
- sut i adnabod digwyddiad yr amheuir ei fod yn achos o botsio
- pwerau cyfreithlon bobl ag awdurdod i ymdrin â photsio a mathau eraill o droseddu gwledig
- hawliau a chyfyngiadau cyfreithiol mynediad
- pwysigrwydd cwrteisi a chadernid wrth ymdrin â digwyddiadau
- sut i ymdrin ag ymddygiad ymosodol a bygythiol
- sut i hysbysu ynghylch digwyddiadau a phwysigrwydd cywirdeb wrth hysbysu yn eu cylch
- ble i gael cyngor am ddigwyddiadau
Cwmpas/ystod
Rhoi gweithdrefnau ar waith yn ymwneud ag:
• atal troseddu
• cylchrodio
• gwyliadwriaeth
• monitro diogelwch
Rhoi gweithdrefnau ar waith i ymdrin â'r digwyddiadau canlynol:
• mynediad diawdurdod
• amheuaeth o ddwyn
• amheuaeth o botsio
• potsio
Cyfathrebu gyda'r bobl ganlynol parthed gweithdrefnau:
• rheolwr(wyr) saethu
• cydweithwyr
• gweithwyr eraill ar yr ystâd
Ceisio cyngor gan yr awdurdod priodol:
• heddlu
• rheoli saethu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ddarn o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helgig
*
Helgig* – rhywogaethau ysglyfaeth cyfreithlon, yn cynnwys carw
Mynediad – mynd i mewn i'r tir neu'r adeilad sydd yn rhan o'r ardal chwaraeon
Potsio - symud helgig o fywyd gwyllt heb awdurdod