Cynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt

URN: LANGa20
Sectorau Busnes (Suites): Helwriaeth a Rheoli Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt i gefnogi gweithgareddau saethu helgig. Cafodd ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw boblogaeth o helgig ar unrhyw ddarn o dir a ddefnyddir i saethu helgig.  Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sy'n gweithio ym maes gwarchod helgig naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser.

Er mwyn bodloni'r safon hon byddwch yn gallu:
•    datblygu deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus
•    cefnogi gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a'r gweithgareddau y mae'n eu disgrifio, mae'n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​egluro eich cyfrifoldebau ar gyfer cynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt yn unol â gofynion y polisi cysylltiadau cyhoeddus
  2. cyflwyno delwedd gadarnhaol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad
  3. creu deunyddiau cysylltiadau cyhoeddus sydd yn hybu cysylltiadau cyhoeddus da, yn adlewyrchu'r polisi cysylltiadau cyhoeddus ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol
  4. cefnogi gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus yn unol â pholisi cysylltiadau cyhoeddus
  5. cyfathrebu gyda phobl mewn ffordd gwrtais
  6. rhoi gwybodaeth a chyngor cywir i ymholiadau gan y cyhoedd yn ymwneud â gweithgareddau sydd yn digwydd yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  7. rhoi gwybodaeth a chyngor cywir i bobl a allai fod wedi eu heffeithio gan weithgareddau chwaraeon
  8. ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau mynediad diawdurdod mewn ffordd sy'n cefnogi cysylltiadau cyhoeddus orau
  9. cyfeirio digwyddiadau sydd y tu allan i'ch maes cyfrifoldeb, i berson priodol neu awdurdod perthnasol
  10. gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a gofynion asesu risg perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwerth cysylltiadau cyhoeddus da i'r ardal rheoli bywyd gwyllt
  2. eich cyfrifoldebau ar gyfer cynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
  3. hawliau a chyfyngiadau cyfreithiol mynediad i dir
  4. pwerau'r bobl awdurdodedig perthnasol
  5. y sefydliadau sydd yn cynrychioli budd y cyhoedd yng nghefn gwlad, yn cynnwys eu maes gweithredu
  6. pwysigrwydd datblygu perthynas waith dda gyda defnyddwyr eraill y tir, cymdogion a grwpiau eraill
  7. y defnydd o gyfathrebu ysgrifenedig a hysbysiadau i gynnal cysylltiadau cyhoeddus
  8. sut i gyfathrebu ar lafar gyda phobl mewn ffordd briodol
  9. polisi eich sefydliad yn ymwneud â siarad â'r wasg/y cyfryngau
  10. sut i ymdrin â digwyddiadau o fynediad diawdurdod a chynnal cysylltiadau cyhoeddus da
  11. sut i ymdrin ag ymddygiad ymosodol a bygythiol
  12. cyfyngiadau eich awdurdod a phryd a sut i gyfeirio digwyddiadau at berson ag awdurdod neu'r awdurdodau perthnasol
  13. y goblygiadau iechyd a diogelwch, yn cynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â gweithio ar eich pen eich hun

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ddarn o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helgig

Gallai deunyddiau gynnwys:

  • hysbysiadau/arwyddion
  • deunyddiau ysgrifenedig
  • dehongliad

Gallai gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus gynnwys:

  • teithiau cerdded
  • ymgysylltu cymunedol
  • hyrwyddo gweithgareddau
  • cyfathrebu gyda'r wasg/cyfryngau

* *

Gallai pobl gynnwys:

  • defnyddwyr eraill y tir
  • cymdogion
  • cleientiaid/ymwelwyr
  • grwpiau eraill
  • y cyhoedd
  • y wasg/cyfryngau
  • yr heddlu/awdurdodau lleol

Helgig - rhywogaethau ysglyfaeth cyfreithiol yn cynnwys carw

Mynediad – mynd i mewn i'r tir neu'r adeilad sydd yn rhan o'r ardal chwaraeon


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

O29NGa14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystadau, Ciper

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cysylltiadau cyhoeddus; helgig