Cefnogi gweithgareddau saethu helfilod
URN: LANGa2
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gefnogi diwrnodau saethu mewn ardal rheoli bywyd gwyllt. Bydd hyn yn cynnwys cynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y diwrnod saethu, ymdrin â charcasau a dychwelyd yr ardal saethu i’r cyflwr gofynnol.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• cynorthwyo gyda gweithgareddau sy’n hanfodol i gynnal y diwrnod saethu, gan weithio yn unol â’r rhaglen saethu helfilod a gynlluniwyd
• gorffen gwaith yn ymwneud â chyfarpar, cyfleusterau a’r ardal saethu
• cludo, didoli a storio carcasau helfilod.
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer cyfredol wrth wneud y gweithgaredd hwn.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon, a’r gweithgareddau, yn llawn, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Ewch i’r Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r holl weithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cefnogi gweithgareddau saethu helfilod trwy gyflawni amrywiaeth o weithgareddau yn effeithiol, er mwyn cyflawni gofynion y rhaglen saethu helfilod
- cynnal diogelwch cyfranogwyr, staff a’r cyhoedd trwy gydymffurfio â’r rhaglen saethu helfilod a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cyfathrebu gofynion diogelwch saethu yn effeithiol i bawb sydd yn gysylltiedig â'r diwrnod saethu
- cynorthwyo’r cyfranogwyr a’r cydweithwyr gyda gynnau
- monitro symudiadau helfilod, addasu gweithgareddau yn unol â hynny ac adrodd ar symudiadau wrth y person priodol
- arsylwi helfilod gwyllt i bennu a yw eu cyflwr yn addas i bobl eu bwyta
- canfod, mynd at a lladd helfilod wedi eu hanafu yn ddyngarol
- ymdrin a chludo carcasau helfilod mewn ffordd sydd yn cadw eu hansawdd a'u gwerth yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cynorthwyo gyda’r gwaith o archwilio carcasau helfilod i gadarnhau a yw eu cyflwr yn addas i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, ac adrodd ar unrhyw annormaleddau wrth y person priodol
- didoli carcasau helfilod yn gywir yn ôl rhywogaeth, oed a rhyw, fel y bo’n briodol
- storio carcasau helfilod yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn y saethu
- gwaredu gwastraff yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- glanhau, cludo a storio cyfarpar a chymhorthion chwaraeon ar ôl eu defnyddio
- cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chefnogi gweithgareddau saethu
- y gofynion cyfreithiol perthnasol (yn cynnwys y rheiny sy’n benodol i wlad) sydd yn rheoli’r gweithgareddau saethu helfilod
- egwyddorion ymdrin â gynnau yn ddiogel
- y gweithgareddau gwahanol sydd yn helpu i hwyluso’r diwrnod saethu
- sut i adnabod ymddygiad arferol a chyflwr helfilod bach a'r arwyddion eu bod yn dangos salwch
- y clefydau sy’n gyffredin i helfilod bach yn cynnwys rhai sydd yn hysbysadwy
- symudiadau disgwyliedig yr helfilod, gwyriadau posibl a’r camau angenrheidiol i gywiro gwyriadau
- sut i ladd rhywogaethau gwahanol o helfilod yn ddyngarol
- y technegau cywir i’w defnyddio i ymdrin, cludo a storio carcasau helfilod, a sut gall arferion ymdrin anghywir niweidio a halogi helgig
- y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer sy’n rheoli ymdrin, cludo a storio carcasau helfilod
- achosion posibl halogi sydd yn gallu effeithio ar ansawdd helgig, yn cynnwys y ffactorau sydd yn gallu effeithio ar iechyd dynol ar ôl eu bwyta
- sut i archwilio carcasau helfilod a'r camau i’w cymryd os caiff annormaleddau carcasau eu nodi
- gofynion paratoi helfilod sydd wedi eu saethu er mwyn iddynt fod yn addas i bobl eu bwyta
- y prosesau a ddefnyddir gan ddelwyr helfilod i roi helgig i mewn i’r gadwyn fwyd
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli cadw cofnodion, labelu ac olrheiniadwyedd helgig sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
- pam y mae angen dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn saethu
- sut i lanhau ac archwilio arfau tanio’n ofalus
Cwmpas/ystod
Cwblhau dau o’r gweithgareddau canlynol ar ddiwrnod saethu:
• defnyddio cŵn i wthio helfilod i mewn i’r canol
• curo
• atal
• codi
• cludo helfilod marw
• ‘sewelling’
• fflagio
• arwain
Pennu cyflwr helfilod byw trwy arsylwi:
• ymddygiad
• cyflwr corfforol
Gwahanu carcasau sydd yn cyflwyno risg posibl o ganlyniad i:
• ymddygiad annormal
• cyflwr corfforol gwael
Archwilio helfilod am:
• niwed saethu
• cyflwr corfforol
• halogiad amgylcheddol
Dychwelyd yr ardal saethu i’w chyflwr cyn saethu:
• casglu cyfarpar
• gwaredu gweiniau arfau wedi eu defnyddio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau saethu – unrhyw chwaraeon maes cyfreithiol perthnasol sydd yn cynnwys hela helfilod gydag arf tanio
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Awdurdod cenedlaethol sydd yn rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Cymhorthion a chyfarpar chwaraeon:
• baneri
• ffyn
• ‘sewelling’
• cyfarpar cyfathrebu
• sbienddrych
• arfau tanio
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa2
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; saethu; curo; codi