Cyfrannu at weithredu gweithgareddau saethu helfilod
URN: LANGa19
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at weithredu gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymdrin â’r cymhwysedd sydd yn angenrheidiol gan unigolion sydd yn trefnu ac yn gweithredu rhaglenni saethu.
Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw weithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu trefnu ar unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod. Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.
I fodloni’r safon hon byddwch yng gallu:
• trefnu diwrnodau saethu unigol
• rheoli diwrnodau saethu unigol.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cael y fanyleb saethu helfilod a chytuno ar weithredu’r rhaglen saethu helfilod gyda’r tîm sy’n rheoli saethu
- cadarnhau bod y gweithgareddau saethu helfilod yn cydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cyfrannu at ddatblygu cynlluniau wrth gefn i ymdrin yn effeithiol â ffactorau a allai effeithio ar y rhaglen saethu helfilod
- cyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â, neu wedi eu heffeithio gan, y gweithgareddau saethu helfilod mewn da bryd, cyn y digwyddiad
- cyfrannu at y sefydliad a dyrannu adnoddau yn effeithiol i gynorthwyo’r rhaglen saethu helfilod a gynlluniwyd
- cyfrannu at sefydlu trefniadau i ymdrin a gwaredu helfilod marw
- cyfrannu at weithredu gweithgareddau diwrnod saethu er mwyn gwneud y gorau o’r topograffeg a'r cynefin naturiol wrth gyflwyno’r helfilod i’r cyfranogwyr
- cyfathrebu gofynion diogelwch saethu yn effeithiol i bawb sydd yn gysylltiedig â’r diwrnod saethu
- sicrhau bodlonrwydd saethwyr trwy gyfathrebu’n dda, a nodi ac ymateb i anghenion cyfranogwyr saethu helfilod
- cyfrannu at weithredu gweithgareddau er mwyn gallu cyflawni’r canlyniad a fwriadwyd wrth saethu helfilod mewn ffordd sydd yn cynnal diogelwch yr holl gyfranogwyr
- ymdrin ag unrhyw ffactorau sy’n effeithio ar y gweithgaredd saethu helfilod i leihau eu heffaith ar y rhaglen saethu helfilod
- monitro symudiad helfilod ac addasu’r rhaglen saethu yn unol â hynny
- arsylwi helfilod gwyllt i bennu a yw eu cyflwr yn addas ar gyfer eu bwyta gan bobl
- sicrhau bod helfilod wedi eu hanafu’n cael eu lladd yn ddyngarol
- sicrhau bod carcasau helfilod yn cael eu trin a’u storio i gynnal eu hansawdd a'u gwerth, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- archwilio carcasau helfilod i gadarnhau bod eu cyflwr yn addas ar gyfer mynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, a chymryd y camau priodol pan fydd carcasau’n cyflwyno risg i iechyd dynol, yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- sicrhau bod gweithgareddau saethu’n dod i ben er mwyn i’r ardal saethu gael ei dychwelyd i’w chyflwr cyn y saethu
- cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â gweithredu gweithgareddau saethu helfilod
- y gofynion cyfreithiol perthnasol (cenedlaethol ac is-ddeddfau lleol) yn ymwneud â’r gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio
- pwysigrwydd hysbysu’r holl bobl berthnasol am y gweithgaredd saethu helfilod
- nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys manylion am ffyrdd eraill y mae’r ardal yn cael eu defnyddio gan bobl eraill
- y ffordd y caiff nodweddion topograffeg a chynefin yr ardal eu defnyddio i gynyddu potensial chwaraeon
- poblogaeth yr helfilod sydd ar gael yn yr ardal
- nodweddion ymddygiad rhywogaethau gwahanol o helfilod a’r ffordd y caiff y rhain eu defnyddio i ddarparu cyfleoedd chwaraeon i saethwyr
- y gofynion o ran adnoddau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio
- gofynion chwaraeon cyfranogwyr mewn gweithgareddau saethu helfilod
- gwerth sgiliau cyfathrebu da i ddiogelwch a threfniadaeth saethu
- y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a’r defnydd o arfau tanio
- egwyddorion ymdrin â gynnau’n ddiogel
- sut i reoli gweithgareddau saethu helfilod i gynyddu potensial chwaraeon
- sut i bennu pryd mae ymddygiad a chyflwr helfilod yn nodi nad ydynt yn addas ar gyfer eu bwyta gan bobl
- y camau i’w cymryd pan fydd amheuaeth o glefydau hysbysadwy mewn helfilod
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli paratoi a storio/dal helfilod a’r ffordd y gall newidiadau i’r amgylchedd paratoi a storio effeithio ar y cynnyrch
- sut i archwilio carcasau helfilod a’r camau i’w cymryd os caiff annormaleddau carcasau eu nodi
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu helfilod marw a’r rhesymau dros gydymffurfio â’r rhain
- y sail gyfreithiol ar gyfer eich presenoldeb cyfreithlon ar y tir er mwyn cynnal y gweithgaredd saethu helfilod
- y rhesymau dros gadw cofnodion a phwysigrwydd eu cywirdeb
Cwmpas/ystod
Datblygu cynlluniau wrth gefn i ymdrin â dau o’r ffactorau canlynol:
• amodau amgylcheddol gwahanol
• ymddygiad annisgwyl helfilod
• dylanwadau dynol
• prinder adnoddau
Hysbysu’r bobl ganlynol am weithgareddau saethu:
• cyfranogwyr yn y gweithgaredd saethu
• perchnogion tir cyfagos
• y rheolwr saethu neu’r ystâd
• defnyddwyr eraill y tir
Trefnu o leiaf dau o’r gweithgareddau canlynol:
• curo
• atal
• codi
• ymdrin â helfilod marw
• ‘sewelling’
• fflagio
• dilyn
• llwytho
Trefnu’r adnoddau canlynol:
• helfilod sydd ar gael
• pobl
• trafnidiaeth
• cyfarpar
• cyllid
Cynllunio gweithgareddau saethu i gynnwys:
• nifer y diwrnodau a gynlluniwyd
• niferoedd angenrheidiol o ysglyfaeth
• ardaloedd saethu a fwriedir
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu yn digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Gweithgareddau saethu helfilod
• trefn yr ardal saethu
• paratoi cyfarpar a deunyddiau
• cyswllt a threfniant gyda saethwyr
• y trefniant o guro, fflagio, atal, codi, ymdrin a storio helfilod marw
Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa19
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
gweithgareddau saethu; helfilod