Paratoi carcasau helfilod mawr i’w cynnwys yn y gadwyn fwyd ddynol
URN: LANGa18
Sectorau Busnes (Suites): Gwaith coed,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi carcasau helfilod mawr i’w cynnwys yn y gadwyn fwyd ddynol.
Mae’n berthnasol i geirw, baeddod gwyllt, ac mewn rhai amgylchiadau, defaid a geifr gwyllt.
Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i baratoi carcasau helfiod mawr (y cyfeirir atynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel “cynnyrch helfilod gwyllt sylfaenol”) ar gyfer cyflenwi sefydliad ymdrin â helfilod cymeradwy (AGHE) er mwyn iddynt allu cael eu cynnwys yn gyfreithlon yn y gadwyn fwyd ddynol.
Byddwch yn gallu:
• cludo carcasau helfilod mawr yn lân
• storio carcasau helfilod mawr fel bod eu cyflwr yn cael ei gynnal
• archwilio carcasau helfilod mawr, yn unol â gofynion cyfreithiol
• paratoi carcasau helfilod mawr i gael eu gwerthu at gyfer eu bwyta gan bobl.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
- gwaedu a diberfeddu carcasau helfilod mawr yn lân ac yn effeithlon
- sicrhau bod yr ardaloedd paratoi a storio mewn cyflwr glân, sydd yn addas ar gyfer derbyn carcasau helfilod mawr
- cludo a storio carcasau helfilod mawr mewn ffordd lân er mwyn cynnal ansawdd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- gwneud y gwaith mewn ffordd lân, yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd
- nodi statws carcasau helfilod mawr
- archwilio carcasau, organau a safleoedd lymff am normalrwydd, yn unol â gofynion cyfreithiol
- paratoi carcasau helfilod mawr ar gyfer eu cynnwys yn y gadwyn fwyd ddynol, fel cynnyrch sylfaenol, yn unol â gofynion cyfreithiol
- cymryd camau priodol pan fydd annormalrwydd carcas yn cael ei nodi, yn unol â gofynion cyfreithiol
- glanhau a storio offer a chyfarpar ar ôl eu defnyddio
- cadw cofnodion cywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- paratoi datganiadau carcasau unigol, yn unol â gofynion cyfreithiol
- gwaredu is-gynnyrch wrth baratoi helfilod mawr mewn ffordd ddiogel, yn unol â gofynion cyfreithiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â pharatoi carcasau helfilod mawr
- y technegau cywir i’w defnyddio i ymdrin a chludo carcasau helfilod mawr, a'r niwed y gall arferion ymdrin anghywir eu hachosi
- eich cyfrifoldebau yn unol â rheoliadau hylendid bwyd cyfredol, yn cynnwys egwyddorion olrheiniadwyedd a Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Hanfodol (HACCP), fel y maent yn berthnasol i gyflenwi carcasau helfilod mawr ar gyfer eu bwyta gan bobl
- y codau ymarfer sy’n rheoli cludo, storio a pharatoi carcasau helfilod mawr, yn cynnwys y gofynion ar gyfer oeri
- sut i archwilio carcasau helfilod mawr i sefydlu a yw eu cyflwr yn dderbyniol i fynd i mewn i’r gadwyn fwyd ddynol, yn cynnwys arogl ac ymddangosiad carcasau, organau a safleoedd lymff
- y clefydau hysbysadwy a’r camau y dylid eu cymryd os caiff y rhain eu canfod
- y gofynion ar gyfer profi baeddod gwyllt am trichinella
- y gofynion ansawdd ar gyfer helgig sydd yn cael ei gynnwys yn y gadwyn fwyd ddynol, yn cynnwys lefelau derbyniol o niwed i gnawd
- y technegau cywir a ddefnyddir i waedu a diberfeddu carcasau helfilod mawr
- sut i nodi statws atgenhedlol carcas anifail hela benywaidd mawr
- y camau i’w cymryd os caiff annormalrwydd carcas ei nodi
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli gwaredu is-gynnyrch
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli cadw cofnodion, labelu ac orheiniadwyedd cynnyrch sylfaenol sydd yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd
- y datganiad unigol gan y person sydd wedi ei hyfforddi i gyd-fynd â phob carcas i’r sefydliad ymdrin â helfilod cymeradwy (AGHE)
Cwmpas/ystod
Cadw cofnodion cywir o:
• fanylion carcasau
• manylion didol a difa
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Statws:
• rhyw
• pwysau
• cyflwr atgenhedlol
• dosbarth oed
• cyflwr
Glân – yn lân ac yn rhydd rhag clefydau/germau
Diberfeddu – tynnu’r cyfan neu ran o’r offal gwyrdd a/neu goch o garcasau helfilod mawr
Gwisgo helfilod mawr trwy dynnu:
• y pen
• y traed
• y perfedd
• yr organau atgenhedlu
Helfilod mawr:
• ceirw (pob math)
• baeddod gwyllt
• defaid gwyllt (mewn rhai amgylchiadau)
• geifr gwyllt (mewn rhai amgylchiadau)
Cynnyrch sylfaenol helfilod gwyllt – helfilod mewn ffwr sydd wedi cael dim mwy na’r paratoadau angenrheidiol sydd yn rhan o arferion hela arferol, sef diberfeddu fel arfer.
Person wedi ei hyfforddi – rhywun sydd wedi cael yr hyfforddiant priodol sydd yn cael ei dderbyn gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa18
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Llech-heliwr, Coedwigaeth
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helgig; helfilod mawr; ceirw; baeddod gwyllt