Llech-hela a didol a difa ceirw
URN: LANGa17
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â llech-hela a didol a difa ceirw. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i reoli poblogaethau ceirw gan ddefnyddio arf tanio.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n rheoli poblogaethau ceirw gan ddefnyddio arfau tanio, naill ai mewn rhinwedd proffesiynol neu hamdden.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• paratoi ar gyfer llech-hela
• nodi ceirw unigol a grwpiau o geirw
• mynd at geirw ac yn ddigon agos i sicrhau lladd yn ddyngarol
• saethu ceirw
• lleoli’r carw sydd wedi ei saethu a sicrhau bod yr anifail wedi marw
• cadarnhau bod y carw sydd wedi ei saethu yn bodloni gofynion didol a difa.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r gweithgaredd yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer y gweithgaredd
- cyn llech-hela, nodi’r rhywogaeth, rhyw, dosbarth oed a chyflwr anifeiliaid fydd yn bodloni gofynion y didol a difa ar yr achlysur hwn
- dewis, cludo a pharatoi arfau tanio ac arfau i fodloni gofynion y didol a difa a gynlluniwyd, yn unol â deddfwriaeth a chodau ymarfer arfau tanio cenedlaethol presennol
- dewis, paratoi a defnyddio’r offer a’r cyfarpar sydd ei angen ar gyfer gweithgareddau didol a difa, yn ddiogel ac yn effeithiol
- anelu arf tanio am gywirdeb
- arddangos cywirdeb wrth ddefnyddio’r arf tanio o safleoedd tanio priodol
- dewis carw unigol i fodloni’r gofynion didol a difa a gwneud asesiad yn unol â gofynion heliwr wedi hyfforddi
- llech-hela carw ar bellter lle gellir cymryd ergyd ddiogel, effeithiol, ddyngarod a glân, gan ystyried nodweddion y lleoliad
- ymdrin â’r arf tanio yn ddiogel ac yn effeithiol bob amser, yn unol â’r codau ymarfer perthnasol
- saethu ceirw yn ddiogel, yn ddyngarol ac yn lân yn unol â nodweddion y lleoliad a'r gofynion cyfreithiol, gan ddefnyddio cymhorthion saethu lle bo angen
- arsylwi ymateb y carw i’r ergyd i bennu ei gyflwr
- mynd at y carw yn ddiogel yn unol â’r cyflwr yr honnir y mae ynddo
- lleoli a chadarnhau cyflwr y carw sydd wedi ei saethu
- lladd y carw sydd wedi ei anafu yn ddyngarol
- cadarnhau statws y carw yn erbyn gofynion didol a difa
- glanhau, cynnal a chadw a storio arfau tanio ac arfau yn ddiogel ar ôl eu defnyddio, yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- cadw cofnodion yn unol â’r gofynion cyfreithiol a rhai eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ddeddfwriaeth bywyd gwyllt ac amgylcheddol berthnasol sy’n effeithio ar ddidol a difa ceirw
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig â llech-hela a didol a difa ceirw, yn cynnwys y peryglon sydd yn gysylltiedig â gweithio unigol
- y dillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y rhesymau dros ddidol a difa ceirw fel rhan o reoli ceirw
- y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli perchnogaeth a’r defnydd o arfau tanio
- y gofynion cyfreithiol sydd yn rheoli storio, cludo a chario arfau tanio
- y gofynion cyfreithiol cenedlaethol a’r codau ymarfer ar gyfer dewis arfau
- y gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer ar gyfer llech-hela a didol a difa rhywogaethau gwahanol o geirw
- y cylch bywyd a deinameg poblogaeth penodol, yn cynnwys deinameg grwpiau teulu rhywogaethau gwahanol o geirw
- y ffordd y mae rhywogaethau ceirw’n cael eu hadnabod a’u dosbarthu o ran oed, rhyw a chyflwr
- anatomeg, ffisioleg ac ymddygiad arferol ceirw, yn cynnwys arwyddion sydd yn dangos salwch
- clefydau cyffredin ceirw yn cynnwys y rheiny sydd yn hysbysadwy
- y gofynion cynefin ar gyfer rhywogaethau gwahanol o geirw
- halogiad carcasau posibl o achsion amgylcheddol sydd yn gallu effeithio ar ansawdd yr helgig, yn cynnwys ffactorau sydd yn gallu effeithio ar iechyd dynol ar ôl eu bwyta
- y ffordd y gall nodweddion y lleoliad, yr amser o’r dydd a’r tywydd effeithio ar lech-hela a didol a difa ceirw
- sut i ddefnyddio cynefin a thir i gynorthwyo llech-hela
- yr arfau tanio gwahanol y gellir eu defnyddio wrth ddidol a difa
- sut i ddewis yr arfau cywir a beth ddylid ei ystyried
- pam y mae’n bwysig anelu reifflau
- yr heldir gofynnol a lleoliad y bwled fydd yn sicrhau lladd diogel a dyngarol
- y dulliau o leoli a llech-hela ceirw a sut i ddewis y carw unigol i gael ei ddidol a’i ddifa
- y defnydd o gadeiriau uchel fel ategiad i lech-hela, yn cynnwys sut i ddringo’n ofalus ac yn ddiogel i’r seddi hyn
- sut i wneud ergyd ddiogel, ddyngarol a glân ar dir gwahanol a’r ffordd y gellir defnyddio atgyfnerthwyr i gynorthwyo gyda chywirdeb saethu
- sut i leoli ceirw wedi eu saethu a’r cymhorthion y gellir eu defnyddio, yn cynnwys pryd mae’n briodol i ddefnyddio cŵn
- ymateb y carw i gael ei saethu yn rhannau gwahanol o’r corff a sut i fynd at garw sydd wedi ei saethu
- yr arwyddion sydd yn dangos ergyd
- sut i gadarnhau cyflwr carw sydd wedi ei saethu
- y dulliau a ddefnyddir i ladd carw wedi ei anafu yn ddyngarol
- sut i lanhau, archwilio a chynnal a chadw reifflau a pham y mae hyn yn bwysig
- y gofynion cyfreithiol perthnasol a rhai eich sefydliad ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Llech-hela a didol a difa ceirw:
• Unrhyw un o’r chwe rhywogaeth o garw gwyllt:
• coch
• brith
• sica
• ewig
• Carw’r Dŵr Tsieineaidd
• muntjac
• eu cymysgrywiau neu rywogaethau sydd yn perthyn yn agos/is-rywiau yn y gwyllt
• gellir ddefnyddio unrhyw ddull o saethu i ddidol a difa ceirw
• gellir defnyddio unrhyw gyfarpar cyfreithiol i gynorthwyo gyda llech-hela a didol a difa
Lleoli, mynd at a saethu ceirw mewn lleoliadau sydd yn cynnwys un o’r nodweddion canlynol:
• coediog
• agored
• gwastad
• pantiog
• bryniog
• mynyddig
Lleoli ceirw i gael eu didol a’u difa gan ddefnyddio:
• cymhorthion gweledol
• delweddau thermol
• offer gweld yn y nos
• synhwyrau
• gwybodaeth leol
• adroddiadau o’u gweld
Lleoli ceirw wedi eu saethu gan ddefnyddio:
• cymhorthion gweledol
• delweddau thermol
• arwyddion
• cŵn
Cadarnhau cyflwr canlynol ceirw wedi eu saethu:
• wedi eu hanafu
• marw
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Llech-hela – lleoli a mynd atynt
Didol a difa – dewis a lladd anifeiliaid gormodol yn unol â'r cynllun didol a difa
Anelu – addasu arf tanio am gywirdeb
Lladd glân – lleoliadau saethu a llwybrau bwledi sydd yn lladd ac yn osgoi halogiad o gynnwys y perfedd
Lladd dyngarol – lladd tosturiol sydd yn achosi cyn lleied o straen a phoen â phosibl
Nodweddion lleoliad:
• topograffeg
• cynefin
• gweithgaredd arall yn yr ardal
• mynediad cyhoeddus
Ergyd – y dystiolaeth sydd ar ôl lle’r oedd yn carw’n sefyll, pan gafodd ei saethu
Offer a chyfarpar:
• sbienddrych a sbotwyr, yn cynnwys offer thermol a gweld yn y nos
• cwmpas reifflau, yn cynnwys offer thermol a gweld yn y nos
• cyfarpar diogelwch personol
• cyllell
• cyfarpar cyfathrebu
• cymwysiadau meddalwedd ar gyfer cofnodi/hysbysu am weld
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa17
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Llech-heliwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
ceirw; llech-hela; didol a difa; saethu; reiffl