Cefnogi rhyddhau adar hela ifanc
URN: LANGa16
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi rhyddhau adar hela ifanc yn y gwyllt. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gefnogi rhyddhau adar hela a’u sefydlu mewn lleoliadau penodedig yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod, a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt sydd yn gysylltiedig â rhyddhau adar hela ifanc.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• sefydlu adar hela ifanc mewn ardaloedd rhyddhau, gan ddilyn y fanyleb ryddhau
• cynnal lles adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
• cefnogi’r broses ryddhau i sefydlu adar hela ifanc yn y gwyllt
• cynnal adar hela ifanc mewn lleoliadau penodedig mewn ardal rheoli bywyd gwyllt.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud gweithgareddau i gefnogi rhyddhau adar hela ifanc yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- dilyn y broses ar gyfer cefnogi rhyddhau adar hela ifanc er mwyn gallu cyflawni'r fanyleb ryddhau
- cynnal diogelwch a diogeledd yr adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
- cynnal rheolyddion plâu ac ysglyfaethwyr i gyfyngu eu heffaith ar yr adar hela ifanc sydd wedi eu rhyddhau
- paratoi ardaloedd rhyddhau i gynyddu siawns adar hela ifanc o oroesi wrth gael eu rhyddhau
- paratoi adar hela ifanc ar gyfer cael eu rhyddhau
- trosglwyddo adar hela ifanc yn ddiogel i ardaloedd rhyddhau mewn ffordd sy’n lleihau straen
- sefydlu adar hela ifanc mewn ardaloedd rhyddhau yn ôl y dwysedd anghenrheidiol
- ymdrin ag adar hela ifanc mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles ac yn lleihau straen
- darparu porthiant a dŵr i reoli lleoliad a dosbarthiad adar hela ifanc sydd wedi eu rhyddhau i fodloni’r fanyleb ryddhau
- arsylwi ymddygiad a chyflwr adar hela ifanc ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
- gweithredu i leihau effaith amhariad sy’n debygol o amharu ar y rhyddhau sydd wedi ei gynllunio
- cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â’r broses ryddhau, yn cynnwys y goblygiadau sydd yn gysylltiedig â gweithio unigol
- y cyfyngiadau cyfreithiol a’r codau ymarfer perthnasol wrth ryddhau adar hela ifanc
- y ffordd y gall safleoedd gyda dynodiadau cadwraeth effeithio ar ryddhau adar hela ifanc
- y fanyleb ryddhau a’i pherthynas â gweithgareddau chwaraeon wedi eu cynllunio
- yr amseru o ran rhyddhau yn ymwneud â datblygiad adar hela ifanc a gweithgareddau saethu
- sut i baratoi ardaloedd rhyddhau i dderbyn adar hela ifanc
- y cyfarpar rhyddhau a’i gymhwyso yn y broses ryddhau
- y dulliau o baratoi adar hela ifanc ar gyfer eu rhyddhau a'r codau ymarfer perthnasol
- yr amodau byw a’r gofynion lles sydd yn ofynnol i gynnal iechyd a datblygiad yr adar hela ifanc wrth eu rhyddhau
- y technegau rhyddhau ar gyfer adar hela ifanc
- ymddygiad disgwyliedig adar hela ifanc wrth eu rhyddhau a'r camau i’w cymryd os bydd ymddygiad yn amrywio o’r norm
- yr arwyddion sydd yn dangos straen neu anhwylder mewn adar hela ifanc
- y ffordd y gall lleoliad a dosbarthiad adar hela ifanc sydd wedi eu rhyddhau gael ei reoli trwy roi porthiant, dŵr a lloches
- y ffactorau sydd yn gallu effeithio'r broses ryddhau a sut gellir rheoli’r rhain
- effeithiau plâu, ysglyfaethwyr, tresmasu a photsio ar y broses ryddhau
- sut i leihau niwed i gynefin naturiol a bywyd gwyllt wrth ryddhau
- y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Paratoi ardaloedd rhyddhau yn ymwneud â:
• lloches
• amddiffyn
• diogelwch
• diogeledd
Arsylwi ymddygiad o ran:
• bwydo
• symud
Cyflawni manylebau rhyddhau o ran:
• lleoliad adar hela
• dosbarthu adar hela
Gweithredu o ran yr amhariadau canlynol:
• dynol
• plâu ac ysglyfaethwyr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid
Ardaloedd rhyddhau – ardaloedd mewn ardal rheoli bywyd gwyllt sydd wedi cael eu datblygu i gefnogi rhyddhau adar hela i’r gwyllt
Manyleb ryddhau – lleoliad bwriadol a dosbarthiad helfilod mewn ardal rheoli bywyd gwyllt
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa16
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
adar hela; rhyddhau; ffesantod; petris; hwyaid