Cefnogi magu cywion adar hela ac adar hela ifanc
URN: LANGa15
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi magu cywion adar hela ac adar hela ifanc. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i ofalu am gywion adar hela ac adar hela ifanc yn ystod cyfnod cynnar eu bywyd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes gwarchod helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â magu cywion adar hela ac adar hela ifanc.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• ymdrin â chywion adar hela
• sefydlu cywion adar hela yn ddiogel mewn uned fagu
• gofalu am gywion adar hela ac adar hela ifanc
• cynnal lles adar hela ifanc.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ifanc yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi’r uned fagu fel ei bod mewn cyflwr glân a diogel yn barod i dderbyn cywion adar hela
- paratoi’r cyfarpar magu i ddarparu’r amodau amgylcheddol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cywion adar hela
- cefnogi magu cywion adar hela trwy eu sefydlu’n ddiogel yn yr uned fagu
- ymdrin â chywion adar hela mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles ac yn cynyddu eu siawns o oroesi
- darparu porthiant a dŵr sy’n briodol i oed a chyfnod datblygiad y cywion adar hela
- arsylwi ymddygiad cywion adar hela sydd yn newydd i’r stoc ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
- monitro twf a datblygiad cywion adar hela i bennu pryd y dylent gael eu symud i’r ardal fagu
- cefnogi magu adar hela ifanc trwy gadw’r ardal fagu mewn cyflwr glân a diogel er mwyn darparu’r amodau amgylcheddol angenrheidiol
- monitro a chynnal swyddogaeth cyfarpar magu i gynyddu siawns y cywion adar hela o oroesi
- darparu porthiant a dŵr sydd yn addas i anghenion datblygiad yr adar hela ifanc
- arsylwi ymddygiad yr adar hela ifanc ac adrodd am unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
- gwaredu gwastraff a marwolaethau yn unol â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a'r gofynion sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â magu cywion adar hela ac adar hela ifanc
- gofynion yr uned fagu a’r ardal fagu sydd yn cynnal cyflwr a siawns cywion adar hela ac adar hela ifanc o oroesi
- pwysigrwydd cynnal diogelwch a diogeledd yr uned fagu a'r ardal fagu
- sut i ddiogelu cywion adar hela ac adar hela ifanc rhag plâu ac ysglyfaethwyr
- sut i baratoi a chynnal unedau magu ac ardaloedd magu
- yr amodau amgylcheddol sydd yn ofynnol gan gywion adar hela a chan adar hela ifanc, a phwysigrwydd cynnal yr amodau hyn
- sut i gynnal yr amodau amgylcheddol, gan ystyried tywydd cyffredin
- nodweddion ymddygiad arferol a’r arwyddion sydd yn dangos straen ac anhwylder mewn cywion adar hela ac adar hela ifanc
- y gofynion lles ar gyfer cyfnodau gwahanol o ddatblygiad cywion adar hela ac adar hela ifanc
- yr anhwylderau cyffredin sydd yn gysylltiedig â chywion adar hela ac adar hela ifanc a sut i ymdrin â nhw
- achosion tebygol marwolaethau mewn cywion adar hela ac adar hela ifanc
- sut i ymdrin â chywion adar hela ac adar hela ifanc mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles
- y gofynion porthiant a dŵr ar gyfer cyfnodau datblygiad gwahanol cywion adar hela ac adar hela ifanc
- sut i galedu adar hela ifanc
- sut i atal pigo plu
- sut a phryd i ffrwyno adar hela
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli cludo adar hela
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau a gwastraff
- y ddeddfwriaeth, codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid
Amodau amgylcheddol:
• tymheredd
• hylendid
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa15
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
adar hela; cywion; ifanc; gofal; ffesantod; petris; hwyaid