Cefnogi cynhyrchu cywion adar hela
URN: LANGa14
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi cynhyrchu cywion adar hela. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau yr ydych yn eu gwneud i gefnogi deori a deor wyau adar hela.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cynhyrchu adar hela a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu cywion adar hela.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• llwytho wyau adar hela i mewn i ddeorydd
• cynnal wyau adar hela sydd yn cael eu deori
• cynnal y broses ddeori
• dadlwytho cywion adar hela o ddeorydd.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu wyau adar hela yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi’r deorydd fel ei fod mewn cyflwr glân
- monitro a chynnal amodau amgylcheddol addas yn y deorydd i hwyluso deori llwyddiannus, yn unol â’r cyfarwyddiadau, ac adrodd am unrhyw amodau amgylcheddol sydd y tu allan i’r fanyleb a roddwyd
- llwytho wyau adar hela yn y deorydd, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- canhwyllo wyau adar hela i gadarnhau eu hyfywedd
- trosglwyddo wyau adar hela hyfyw i’r deorydd, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- glanhau’r cyfleusterau deori ar ôl eu defnyddio
- monitro a chynnal amodau amgylcheddol addas yn y deorydd i hwyluso deori llwyddiannus, yn unol â’r cyfarwyddiadau, ac adrodd ar unrhyw amodau amgylcheddol sydd yn dod y tu hwnt i’r fanyleb a roddwyd
- monitro’r broses ddeori
- symud cywion adar hela o’r deorydd mewn ffordd sydd yn cynnal lles y cywion ac yn cynyddu eu siawns o oroesi
- lladd unrhyw gywion adar hela sydd yn sâl neu’n annormal, yn unol â’r ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol
- sefydlu cywion adar hela yn ddiogel mewn blychau cywion glân ac wedi eu hawyru’n dda
- glanhau cyfleusterau deori ar ôl eu defnyddio
- gwaredu gwastraff a marwolaethau yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o ddeoryddion ac offer deor
- yr amodau sydd yn ofynnol ar gyfer deori llwyddiannus a phwysigrwydd tymheredd, lleithder a symud i’r broses ddeori
- y dulliau o fonitro a chynnal yr amgylchedd deori
- y dulliau a ddefnyddir i gadarnhau ffrwythloni a datblygiad
- pwysigrwydd glendid a hylendid i ddeori wyau adar hela a pham y mae wyau adar hela’n cael eu diheintio cyn eu deori
- yr amodau sy’n ofynnol ar gyfer deori llwyddiannus i gefnogi cynhyrchu cywion adar hela
- y dulliau o fonitro a chynnal yr amgylchedd deori
- pwysigrwydd tymheredd, lleithder a symud i’r broses ddeori
- pwysigrwydd hylendid i’r broses ddeori
- sut i ymdrin â chywion adar hela mewn ffordd sydd yn cynnal eu lles
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer sy’n rheoli cynhyrchu cywion adar hela
- sut i ladd unrhyw gywion adar hela sydd yn sâl neu’n annormal yn ddyngarol
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer cludo cywion adar hela
- y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Sefydlu a chynnal yr amodau amgylcheddol canlynol:
• tymheredd
• lleithder
• troi
• hylendid
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adar hela – ffesantod, petris, hwyaid
Deori – y broses a ddefnyddir i gefnogi datblygiad cywion y tu mewn i’r ŵy
Deor – y broses a ddefnyddir i gefnogi deor cywion o’r ŵy
Canhwyllo – y dull o ddefnyddio ffynhonnell olau, fel bylb, i weld trwy blisgyn yr ŵy a phennu a yw’r ŵy yn datblygu’n iawn ac felly’n hyfyw, neu a ddylid ei waredu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa14
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
adar hela; cywion; brîd; deor; ffesantod; petris; hwyaid