Cefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela
URN: LANGa13
Sectorau Busnes (Suites): Crofftio a Chadw Tyddyn,Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i gefnogi stoc bridio helfilod a chynhyrchu wyau adar hela hyfyw.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu wyau adar hela.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• ymdrin ag adar hela a’u sefydlu mewn ardaloedd bridio
• gofalu am adar hela mewn ardal fridio
• casglu, glanhau a storio wyau adar hela yn barod ar gyfer eu deori.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni gweithgareddau i gefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- paratoi llociau bridio i sicrhau a diogelu adar hela
- paratoi a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau mewn cyflwr glân
- paratoi stoc sydd wedi eu dal neu stoc gaeaf sydd wedi eu trosglwyddo
- ymdrin ag adar hela gan roi sylw dyledus i’w hiechyd a’u lles, er mwyn osgoi eu hanafu a lleihau straen
- paratoi a sefydlu adar hela mewn llociau bridio i gymhareb benodol o wrywod a benywod i gefnogi cynhyrchu wyau ffrwythlon adar hela
- cynnal gofynion lles adar hela trwy gymhwyso adnoddau yn effeithlon
- arsylwi ymddygiad adar hela ac adrodd ar unrhyw arwyddion o straen neu anhwylder
- symud, cofnodi ac adrodd ar unrhyw farwolaethau o fewn stoc bridio
- casglu wyau adar hela mewn ffordd sy’n amharu cyn lleied â phosibl ar y stoc bridio ac yn cynnal ansawdd wyau adar hela
- symud ac adrodd ar wyau adar hela nad ydynt yn hyfyw
- graddio, glanhau a didoli wyau adar hela
- storio wyau adar hela i gynnal eu hyfywedd
- gwaredu marwolaethau, wyau adar hela nad ydynt yn hyfyw a gwastraff arall yn unôl â’r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cadw cofnodion cywir fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â chynhyrchu, casglu a storio wyau adar hela
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol ar gyfer cynhyrchu, cludo a lles adar hela
- sut i baratoi a chynnal a chadw llociau bridio i hwyluso bridio
- y cymarebau bridio ar gyfer adar hela a sut i adnabod a phennu rhyw stoc bridio
- ymddygiad arferol adar hela a’r arwyddion sydd yn arwydd o straen ac anhwylder
- sut i ddewis a phennu oed adar hela sy’n bridio a’r ffordd y gall oed effeithio ar gynhyrchu wyau
- gofynion lles stoc bridio
- y manylebau bridio a’u goblygiadau
- y cymarebau gwrywaidd/benywaidd priodol ar gyfer stociau bridio
- achosion tebygol marwolaethau wrth fridio adar hela
- y rhagofalon y gellir eu rhoi ar waith i leihau pigo plu a niwed a achosir wrth ymladd
- sut i osod ‘specs’ a ‘brails’ a pham y cânt eu defnyddio ar stoc bridio
- pryd dylid casglu wyau a sut i gasglu ac ymdrin â’r wyau
- pam y mae’n bwysig amharu cyn lleied â phosibl ar stoc bridio wrth gasglu wyau
- hyfywedd wyau a’i bwysigrwydd i’r broses fridio
- sut i ddidoli wyau a nodi’r rheiny nad ydynt yn hyfyw
- pam y caiff wyau eu diheintio cyn eu storio
- y gofynion storio wyau
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli gwaredu marwolaethau, wyau helfilod nad ydynt yn hyfyw a gwastraff arall
- y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Paratoi llociau i’w diogelu rhag:
• plâu ac ysglyfaethwyr
• amodau amgylcheddol niweidiol
• lladrad
Paratoi a chynnal a chadw cyfarpar a chyfleusterau a ddefnyddir ar gyfer:
• casglu wyau
• glanhau wyau
• storio wyau
Paratoi un o’r canlynol:
• stoc adar hela sydd wedi eu dal
• stoc gaeaf sydd wedi eu trosglwyddo (haid gaeëdig)
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adar hela – Ffesantod, petris, hwyaid
Haid gaeëdig – Stoc bridio sydd yn cael ei chadw mewn caethiwed trwy gydol ei bywyd
Adnoddau:
• bwyd
• dŵr
• graean
• meddyginiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa13
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
adar hela; wyau; bridio; ffesantod; petris; hwyaid