Cynorthwyo i ddal adar hela ar gyfer bridio
URN: LANGa12
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i ddal adar hela ar gyfer bridio. Mae ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes cadwraeth helfilod a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt neu fferm helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• gosod dalwyr a dal adar hela
• ymdrin ag adar hela a’u sefydlu mewn ardaloedd bridio
• gofalu am adar hela mewn ardal fridio.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyflawni’r gweithgareddau yn ddiogel, yn unol â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- cynorthwyo gyda pharatoi a sefydlu dalwyr sydd yn addas ar gyfer dal adar hela ar gyfer bridio
- monitro a chynnal a chadw’r dalwyr yn rheolaidd
- nodi a symud adar hela o’r dalwyr mewn ffordd sy’n lleihau straen i’r adar
- ymdrin a chludo adar hela mewn ffordd sy’n lleihau straen i’r adar ac yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol
- symud a rhyddhau rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed mewn ffordd sy’n lleihau straen iddynt
- arsylwi ac adrodd ar gyflwr corfforol ac iechyd adar hela sydd wedi eu dal
- arsylwi, cofnodi ac adrodd ar berfformiad y weithred o ddal
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch sydd yn gysylltiedig ag ymdrin â stoc adar hela a rhywogaethau eraill o fywyd gwyllt
- sut i adnabod a phennu rhyw stoc bridio
- y cyfyngiadau cyfreithiol a’r codau ymarfer ar gyfer dal a chludo adar hela
- sut i baratoi a chynnal a chadw dalwyr yn unol â’r gofynion cyfreithiol a'r codau ymarfer perthnasol
- sut i osod y dalwyr i gael y canlyniadau gorau
- sut i nodi rhywogaethau wedi eu targedu a rhai nad ydynt yn cael eu targedu
- sut i ymdrin a chludo adar hela mewn ffordd sy’n lleihau straen i’r adar
- ymddygiad arferol adar hela a’r arwyddion sydd yn dangos straen ac anhwylder
- manteision ac anfanteision haid gaeëdig a systemau wedi eu dal
- y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer a gofynion sefydliadol ar gyfer cwblhau cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Helfilod – ffesantod, petris, hwyaid
Haid gaeëdig – stoc bridio sydd yn cael ei gynnal mewn caethiwed trwy gydol ei fywyd
Dal – stoc sydd yn cael ei ddal cyn diwedd y tymor saethu
Daliwr –dyfais a ddefnyddir i ddal adar hela byw yn unol â gofynion cyfreithiol a chodau ymarfer
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa12
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
adar hela; daliwr; bridio