Cynnal gweithgareddau llosgi rhagnodedig fel rhan o reoli llystyfiant

URN: LANGa11
Sectorau Busnes (Suites): Helwriaeth a Rheoli Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2017

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn disgrifio eich rôl yn cynnal gwaith llosgi rhagnodedig llystyfiant arwyneb, grug a gwair fel arfer.  Mae'n ymwneud â'r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud i baratoi ar gyfer a chwblhau gweithgareddau llosgi llystyfiant.  

Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sy'n gweithio ym maes rheoli helgig, gwarchod yr amgylchedd, ffermio neu goedwigaeth naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser, a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir lle mae grug neu unrhyw lystyfiant arwyneb arall yn cael ei reoli trwy losgi.

Er mwyn bodloni'r safon hon byddwch yn gallu:

  • paratoi offer a chyfarpar i'w defnyddio i ddiffodd tanau llystyfiant
  • paratoi ardal o lystyfiant i'w wneud yn ddiogel ar gyfer llosgi rhagnodedig
  • llosgi llystyfiant arwyneb o dan amodau wedi eu rheoli
  • cynorthwyo eraill gyda gwaith llosgi rhagnodedig llystyfiant arwyneb
  • ymateb yn briodol, o fewn gweithdrefnau sefydliadol, i ddigwyddiad o ddihangfa dân.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon, a'r gweithgareddau y mae'n eu disgrifio, mae'n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwneud gwaith yn ddiogel, yn unol â gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
  2. helpu i adnabod ardal o lystyfiant arwyneb i gael ei llosgi yn unol â gofynion llosgi a gynlluniwyd
  3. adnabod peryglon sy'n gysylltiedig â'r llosgi a gynlluniwyd
  4. helpu i baratoi bylchau tân er mwyn cynnal y llosgi a gynlluniwyd, gan ystyried tanwydd, y tywydd, agwedd a'r dirwedd
  5. paratoi offer a chyfarpar mewn cyflwr defnyddiol, yn barod ar gyfer eu defnyddio
  6. cael a gwirio cyflwr offer amddiffynnol personol
  7. llwytho a sicrhau offer ar gyfer diogelwch cludiant
  8. gwneud y swydd a benodwyd ar eich cyfer ar y diwrnod, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  9. helpu i hysbysu'r bobl berthnasol ynghylch y llosgi a gynlluniwyd
  10. helpu i gynnau'r llystyfiant mewn ffordd wedi ei rheoli, yn unol â'r cynllun cynnau
  11. gwneud y gwaith llosgi rhagnodedig, yn unol â'r gofynion llosgi a gynlluniwyd, gan ddefnyddio offer a chyfarpar priodol
  12. dilyn cyfarwyddiadau a gweithredu ar unwaith i gywiro unrhyw amrywiad o'r gofynion llosgi a gynlluniwyd
  13. monitro ac adrodd ynghylch unrhyw amrywiad yn y tywydd neu ymddygiad tân
  14. cyfathrebu fel sy'n ofynnol gydag eraill trwy gydol y broses losgi
  15. rhoi tanau allan pan fo angen pan mae'r amcanion llosgi gofynnol wedi cael eu cyflawni gan ddefnyddio offer llaw a dwr.
  16. cymryd camau priodol mewn argyfwng
  17. rhoi gwybodaeth i'r person priodol ar ganlyniadau'r gweithgareddau llosgi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gofynion iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â llosgi grug
  2. pam y mae grug a llystyfiant arall yn cael ei losgi fel rhan o reoli bywyd gwyllt a chynefin
  3. y cyfyngiadau cyfreithiol sy'n rheoli llosgi llystyfiant a chanllawiau o fewn codau ymarfer
  4. y peryglon sy'n gysylltiedig â llosgi llystyfiant yn cynnwys peryglon i chi, eraill, yr amgylchedd a bywyd gwyllt
  5. diben, gwerth ac adeiladwaith bylchau tân
  6. yr offer amddiffynnol personol sy'n ofynnol i'r rheiny sydd yn gysylltiedig â llosgi rhagnodedig ei ddefnyddio a pham na ddylid gwisgo neilon, elastig neu ddillad synthetig eraill
  7. yr elfennau (gwres, tanwydd, ocsigen) sy'n ofynnol i dân fodoli
  8. sut y mae tywydd, tanwydd a thopograffeg, yn cynnwys agwedd, yn effeithio ar ledaeniad, dwysedd ac enbydrwydd tanau
  9. sut i ddefnyddio a chynnal a chadw'r offer a'r cyfarpar sydd yn diffodd tân yn ddiogel
  10. sut y caiff yr offer a'r cyfarpar eu defnyddio i reoli tanau grug a gwair a thanau daear (mawn).
  11. effaith bosibl gweithgareddau llosgi llystyfiant ar agweddau eraill ar yr amgylchedd yn cynnwys dwr, priddoedd, cynefinoedd, helgig a bywyd gwyllt arall
  12. y cynlluniau tân, mapiau a gweithdrefnau eraill a ddefnyddir gan y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo, sydd yn eich galluogi i ymateb yn effeithiol mewn argyfwng
  13. eich rôl chi ac eraill yn y gweithdrefnau tân mewn argyfwng ar gyfer y sefydliad yr ydych yn gweithio iddo
  14. pam y mae'n bwysig asesu argyfyngau yn gywir a pha wybodaeth allweddol y dylid ei chasglu a'i chyfathrebu
  15. pam y mae'n bwysig dilyn cyfarwyddiadau trwy gadwyn gorchmynion
  16. pwysigrwydd cyfathrebu'n dda gydag aelodau o'r tîm yn ystod argyfyngau

Cwmpas/ystod

​Offer a chyfarpar:
• curyddion a chrafwyr tân
• llosgwyr grug/torchau diferu
• rhawiau
• chwistrellwr cnapsach
• pympiau dŵr

Offer amddiffynnol personol:
• dillad sy'n gwrthsefyll tân (ddim yn synthetig)
• helmau/amddiffynnwr wyneb/mwgwd/gogls
• menig
• esgidiau uchel sy'n gwrthsefyll tân

Cynnau llystyfiant pan:
·    mae'n llaith
·    mae'n sych


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Agwedd – Y cyfeiriad y mae goleddf yn wynebu.

Codau ymarfer – Dogfennau yn rhoi'r dulliau a ddatblygwyd i helpu i gydymffurfio â'r gweithredoedd a'r rheoliadau wrth gyflawni'r gwaith e.e. Côd Muirburn (Yr Alban), Côd Llosgi Grug a Gwair (Cymru a Lloegr)

Cynllun llosgi - Y cynllun sydd wedi ei gymeradwyo ar gyfer llosgi rhagnodedig.  Mae'n cynnwys map yn nodi'r ardal i gael ei llosgi ac mae'n ymgorffori'r manylebau a'r amodau ar gyfer cynnal y gweithrediad.

Dihangfa dân – Llosgi sydd y tu hwnt i'r tân a ragnodwyd, tân ffo neu dân gwyllt yn aml.

Dwysedd tân – Maint neu gyfradd yr egni sy'n cael ei ryddhau sydd yn teithio i fyny o'r tân.

Enbydrwydd y llosgi – Maint y gwres a'r effaith ar lystyfiant a phriddoedd sydd o dan haenen gwasarn tân.

Llosgi rhagnodedig – Cynllun i gynnau tân o dan amodau amgylcheddol wedi eu pennu ymlaen llaw, o fewn ffiniau, i gyflawni amcanion rheoli adnoddau.

Math o dân – Tân daear, tân arwyneb neu danau copa, tân arwyneb yn fwyaf cyffredin.

Tân gwyllt – Tân nad yw'n cael ei reoli.

Tanwydd – Math, maint, trefniant, dosbarthiad a chynnwys gwlybaniaeth y llystyfiant. Gall hyn fod yn danwydd daear (mawn), arwyneb (grug a haenen o wasarn) neu awyr (coed).

Topograffeg – Siâp y tir, yn arbennig ei oleddf a'i agwedd.

Tywydd tân – Amodau hinsawdd a ragfynegwyd yn cynnwys cyfnod y llosgi, yn arbennig gwynt, tymheredd yr aer a lleithder perthynol.

Ymddygiad tân – Y ffordd y mae tân yn adweithio i amrywiadau tanwydd, tywydd a thopograffeg.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2021

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGa4

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Ystâd, Ciper

Cod SOC


Geiriau Allweddol

grug; llosg; tân; llosgi