Paratoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod
URN: LANGa1
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â pharatoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod. Mae’n ymwneud â’r gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yn arwain at ddiwrnodau saethu mewn ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys paratoi cyfarpar a chyfleusterau.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes helwriaeth a gellir ei chymhwyso i unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer saethu helfilod.
I fodloni’r safon hon byddwch yn gallu:
• paratoi ardaloedd saethu a chyfarpar i’w defnyddio ar y diwrnod saethu
Mae’n rhaid i’ch gwaith gydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol a’r codau ymarfer wrth wneud y gweithgaredd hwn.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon a’r gweithgareddau yn llawn, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud yr holl weithgareddau paratoi yn ddiogel, yn unol â’r rhaglen saethu helfilod a'r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol
- gwisgo i roi diogelwch rhag amodau amgylcheddol ac i fodloni’r codau gwisg angenrheidiol
- paratoi offer cludo a storio helfilod er mwyn iddynt fod mewn cyflwr glân sydd yn addas ar gyfer derbyn helfilod marw
- sicrhau bod yr holl drafnidiaeth mewn cyflwr gweithredol diogel
- paratoi cymhorthion a chyfarpar chwaraeon i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod sydd wedi eu cynllunio yn effeithiol
- sefydlu safleoedd saethwyr yn gywir yn unol â gofynion y rhaglen saethu helfilod
- paratoi pwyntiau mynediad yn unol ag anghenion y rhaglen saethu helfilod
- cadw cofnodion cywir yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol sydd yn gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gweithgareddau diwrnod saethu
- y gofynion cyfreithiol perthnasol (yn cynnwys y rheiny sy’n benodol i wlad) yn ymwneud â gweithgareddau saethu helfilod
- diben a gofynion y rhaglen saethu helfilod
- y codau gwisg priodol ar gyfer saethu sydd yn addas i weithgareddau saethu
- y cymhorthion a’r cyfarpar chwaraeon a ddefnyddir i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod a sut i’w paratoi
- y gofynion cyfreithiol sy’n rheoli storio, cludo a chario arfau tanio ac arfau
- y cyfyngiadau cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli perchnogaeth a defnydd o arfau tanio
- y gwiriadau sydd angen eu gwneud i arfau tanio ac arfau ar gyfer eu defnyddio
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer cyfredol yn ymwneud a defnyddio mathau gwahanol o arfau
- yr arfau priodol ar gyfer y saethu a’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- sut gall gosodiad safleoedd saethwyr effeithio ar ddiogelwch ar ddiwrnodau saethu
Cwmpas/ystod
Paratoi cymhorthion chwaraeon ac ardaloedd saethu i gynorthwyo gweithgareddau saethu helfilod ar gyfer dau o’r canlynol:
• helfilod wedi eu gyrru
• cerdded i fyny at helfilod
• adar hela sydd yn hedfan
• denu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau saethu helfilod – unrhyw gamp maes cyfreithlon yn cynnwys hela helfilod gydag arf tanio
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir a ddefnyddir i ddarparu gweithgareddau saethu helfilod
Saethwr – cyfranogwr mewn gweithgaredd saethu
Helfilod – unrhyw rywogaeth ysglyfaeth cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach” yn wahanol ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Cymhorthion a chyfarpar chwaraeon:
• baneri
• ffyn
• chwyddo
• cyfarpar cyfathrebu
• sbienddrych
• arfau tanio
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
• Lloegr – DEFRA
• Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
• Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGa1
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Ystadau, Ciper
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; saethu; curo; codi i fyny