Datblygu a gweithredu rhaglen cynhyrchu adar hela
URN: LANGWM9
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am ddatblygu a gweithredu rhaglen cynhyrchu adar hela.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes ffermio helfilod ac sy’n gyfrifol am ddatblygu rhaglen cynhyrchu adar hela a sefydlu gweithdrefnau i weithredu a monitro’r rhaglen.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon hon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi’r wybodaeth a’r data perthnasol i bennu’r gofynion ar gyfer cynhyrchu adar hela
- cael cyngor arbenigol pan fo angen
- sefydlu blaenoriaethau a thargedau ar gyfer cynhyrchu adar hela, yn unol â’r gofynion cynhyrchu
- datblygu rhaglen cynhyrchu adar hela gyda nodau ac amcanion mesuradwy
- pennu’r gofynion adnoddau sydd yn angenrheidiol i gefnogi gweithredu’r rhaglen cynhyrchu adar hela yn llwyddiannus
- pennu’r amgylchedd ffisegol, hwsmonaeth, lles a’r gofynion deietegol ar gyfer yr adar hela sy’n cael eu ffermio
- sefydlu mesurau i gynnal lefelau addas o les anifeiliaid, hylendid a bioddiogelwch a chadarnhau eu bod yn cael eu gweithredu
- sefydlu mesurau ar gyfer rheoli plâu ac ysglyfaethwyr
- sefydlu mesurau i fonitro a rheoli diogeledd yr adar hela sy’n cael eu magu
- sefydlu dulliau gwaith sydd yn cynnal iechyd a diogelwch ac sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- sefydlu gweithdrefnau i reoli cyfyngiadau ac argyfyngau a allai effeithio ar weithredu rhaglen cynhyrchu adar hela yn llwyddiannus
- sefydlu’r gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol i weithredu a monito’r rhaglen cynhyrchu adar hela
- cadarnhau bod y rhaglen cynhyrchu adar hela sydd wedi ei chynllunio yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth genedlaethol, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- ystyried safbwyntiau pobl eraill, yn cynnwys y rheiny sydd yn gysylltiedig neu wedi eu heffeithio gan y rhaglen cynhyrchu adar hela, fel rhan o ddatblygiad cyffredinol y rhaglen
- cyfathrebu gofynion y rhaglen cynhyrchu adar hela i bawb sydd yn gysylltiedig â’i gweithredu
- cadw cofnodion o gynhyrchu adar hela fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y technegau dadansoddi data a rôl data yn gosod targedau wrth ddatblygu rhaglen cynhyrchu adar hela
- ble i gael cyngor arbenigol
- egwyddorion cynhyrchu adar hela
- y safonau cyfreithiol cenedlaethol ac wedi eu cymeradwyo gan y sector sy’n berthnasol ar gyfer magu adar hela
- y broses o sefydlu nodau ac amcanion mesuradwy, yn cwmpasu’r tymor byr - (1 – 2 fis), canolig - (12 mis) a’r hirdymor (5 mlynedd)
- cynllunio a defnyddio adnoddau, yn cynnwys pobl, cyflenwadau pŵer, cyfleusterau, cyfarpar a chyllid
- nodweddion, hwsmonaeth, gofynion lles a deietegol adar hela wedi eu ffermio
- dylanwad yr amgylchedd ffisegol a’i nodweddion ar gynhyrchu adar hela
- y gofynion cyfreithiol cenedlaethol perthnasol sy’n rheoli iechyd a lles anifeiliaid, rheoli clefydau, rheoli plâu, gwaredu gwastraff ac iechyd dynol
- clefydau cyffredin adar hela, yn cynnwys sut i’w hadnabod a’u trin
- egwyddorion bioddiogelwch ac atal clefydau ar gyfer ffermio adar hela
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a rheoli presenoldeb plâu ac ysglyfaethwyr
- y dulliau y gellir eu defnyddio i fonitro a threfnu diogeledd yr adar hela sy’n cael eu magu
- y cyfyngiadau hysbys a’r argyfyngau a allai effeithio ar gynhyrchu adar hela
- cynllunio brys sy’n berthnasol i gynhyrchu adar hela
- rôl deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol wrth gynhyrchu adar hela
- pwysigrwydd asesu risgiau ar gyfer uned ffermio adar hela
- pwysigrwydd rheoli’r tir sydd ar gael i gynyddu cynaliadwyedd ei allu cynhyrchu
- y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cwblhau a storio cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfyngiadau ac argyfyngau:
sydd yn dylanwadu ar gynhyrchu adar hela
e.e. amcanion busnes, pwysau gwleidyddol, clefydau, methiant pŵer, methiant cyfarpar, deddfwriaeth berthnasol, prinder adnoddau, difrodi, plâu ac ysglyfaethwyr, amrywiadau mewn amodau amgylcheddol
Adar hela:
ffesantod, petris, hwyaid
Rheoli plâu ac ysglyfaethwyr:
• plaladdwyr
• gwenwyn llygod
• trapiau a maglau
• saethu
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Y Côd Ymarfer Saethu Da
• Cynllun Sicrwydd Saethu Cynghrair Helfilod Prydain
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu helfilod
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM10
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
aderyn hela; bridio; ffesantod; petris; hwyaid