Rheoli cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
URN: LANGWM8
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am reoli cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus, rheoli cysylltiadau cyhoeddus a chefnogi eraill i gynnal cysylltiadau cyhoeddus.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu polisi cysylltiadau cyhoeddus i gefnogi gweithgareddau mewn ardal rheoli bywyd gwyllt
- ceisio cyngor arbenigol lle bo angen
- cyfathrebu gofynion y polisi cysylltiadau cyhoeddus i’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i weithredu
- cynghori ar gynhyrchu deunydd cysylltiadau cyhoeddus sydd yn hyrwyddo cysylltiadau cyhoeddus da, adlewyrchu’r polisi cysylltiadau cyhoeddus a chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol
rheoli gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus yn unol a’r polisi cysylltiadau cyhoeddus
monitro a gwerthuso effeithiolrwydd gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac addasu gweithgareddau a chynlluniau yn unol â hynny
- cynnal ymwybyddiaeth o faterion lleol a chenedlaethol perthnasol sy’n debygol o effeithio ar weithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt
- cefnogi eraill sydd yn gysylltiedig â’r ardal rheoli bywyd gwyllt i gynnal cysylltiadau cyhoeddus
- cyfathrebu gyda’r cyhoedd mewn ffordd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o’r gweithgareddau mewn ardal rheoli bywyd gwyllt ac yn cynnal cysylltiadau cyhoeddus
- rheoli unrhyw anghydfodau sy’n debygol o effeithio ar gysylltiadau cyhoeddus
- rhoi adborth i gefnogi staff ar ddatblygiad cysylltiadau cyhoeddus da
- ymgynghori â defnyddwyr, cymdogion a grwpiau diddordeb i gael adborth ar weithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- rôl cysylltiadau cyhoeddus yn cefnogi gweithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt
- egwyddorion rheoli a chynnal cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
- cydrannau hanfodol polisi cysylltiadau cyhoeddus fel hyrwyddo gweithgareddau, rolau a chyfrifoldebau, y ffordd dylai digwyddiadau fel amharu ar saethu gael eu trin a chyfathrebu gyda’r cyfryngau
- ble i gael cyngor arbenigol
- y materion lleol a chenedlaethol perthnasol sy’n effeithio ar amgyffrediad y cyhoedd a rheolaeth cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
- nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt, yn cynnwys dynodiadau tir, hawliau mynediad ac ardaloedd o ddiddordeb arbennig
- rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â hawliau tramwy, mynediad a’r hawl i grwydro
- y dulliau effeithiol ar gyfer cyfathrebu gofynion y polisi cysylltiadau cyhoeddus
- rôl ac effeithiau, cadarnhaol a negyddol, y cyfryngau cymdeithasol ar yr ardal rheoli bywyd gwyllt a sut i reoli’r rhain yn effeithiol
- y dulliau y gellir eu cymhwyso i ddatrys anghydfodau
- rôl yr heddlu ac awdurdodau lleol yn cefnogi gweithgareddau ardal rheoli bywyd gwyllt
- pwysigrwydd datblygu perthynas waith dda gyda defnyddwyr eraill y tir, cymdogion a grwpiau eraill
- y dulliau a ddefnyddir ar gyfer ymgynghori â defnyddwyr, cymdogion a grwpiau diddordeb
- y ffordd y mae’r wasg a’r cyfryngau’n gweithredu, a’r dulliau ar gyfer rheoli cysylltiadau cyhoeddus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dynodiadau gynnwys:
• Parc Cenedlaethol
• Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
• Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
• Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
• RAMSAR
• Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
• Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
• Ymddiriedolaeth Genedlaethol
• Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
• Parthau Diogelu Dŵr Yfed
• Henebion Cofrestredig (SM)
• Adeiladau Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
• Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB)
• Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Gallai arweiniad sector gynnwys:
• Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANGWM8
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt
Cod SOC
5119
Geiriau Allweddol
helfilod; bywyd gwyllt; cysylltiadau cyhoeddus; saethu; ystâd