Rheoli diogeledd ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt

URN: LANGWM7
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am reoli diogeledd ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.  

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt sy’n gyfrifol am sefydlu systemau diogeledd, cefnogi eraill i gynnal diogeledd ac ymdrin â digwyddiadau diogeledd.

Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon hon yn llawn a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. pennu’r risgiau diogeledd posibl i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  2. sefydlu a rheoli gweithdrefnau diogeledd ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt sydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth sy’n benodol i wlad, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol 
  3. sefydlu a rheoli dulliau gwyliadwriaeth i fonitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  4. sefydlu a rheoli gweithdrefnau diogeledd sydd yn sicrhau storio eitemau wedi eu rheoli yn ddiogel ac yn gyfreithlon, yn cynnwys arfau tanio, arfau a chemegau a ddefnyddir i reoli plau, yn ogystal ag eitemau peryglus eraill
  5. sefydlu a rheoli gweithdrefnau diogeledd i reoli mynediad i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  6. rheoli’r defnydd effeithiol o adnoddau i gynnal diogeledd yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  7. sefydlu perthynas gyda chyrff eraill i fonitro a rheoli diogeledd yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  8. cadarnhau bod dulliau gwaith yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  9. defnyddio dulliau perthnasol i gyfathrebu gofynion diogeledd i’r rheiny sydd angen gwybod
  10. rheoli digwyddiadau diogeledd yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol â’r ddeddfwriaeth, codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
  11. sefydlu gweithdrefnau i sicrhau casglu ac adrodd tystiolaeth yn effeithiol yn ymwneud â digwyddiadau diogeledd 
  12. cadw cofnodion digwyddiadau diogeledd yn unol â gofynion sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i bennu’r risgiau posibl i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
  2. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli potsio, deiliadaeth tir a mynediad i ardal rheoli bywyd gwyllt
  3. y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli diogeledd arfau tanio, arfau, cemegau ac eitemau peryglus eraill
  4. pwysigrwydd cynnal diogeledd cyfarpar, da byw, anifeiliaid sy’n gweithio a helfilod
  5. y cyfnodau o’r flwyddyn pan mae helfilod yn fwyaf agored i niwed 
  6. y camau y gellir eu cymryd yn gyfreithlon i leihau gweithgaredd potsio a digwyddiadau diogeledd eraill
  7. yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl o ddigwyddiadau diogeledd yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
  8. y rheoliadau cenedlaethol a lleol yn ymwneud â hawliau tramwy, mynediad a’r hawl i grwydro
  9. y mesurau y gellir eu defnyddio i reoli mynediad a’u manteision a’u hanfanteision
  10. nodweddion yr ardal rheoli bywyd gwyllt sydd yn gofyn am fesurau diogeledd arbennig
  11. dulliau gwyliadwriaeth y gellir eu defnyddio i fonitro ardal rheoli bywyd gwyllt
  12. buddion gweithio gyda chyrff eraill i fonitro a rheoli diogeledd 
  13. sut i reoli diogeledd, a’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’i gynnal, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu gweithredu’n effeithiol
  14. pam y mae cyfathrebu gofynion diogeledd yn effeithiol yn bwysig i reoli diogeledd ardal rheoli bywyd gwyllt
  15. sut i ymdrin â digwyddiadau diogeledd, yn ddiogel a heb roi eich hun neu bobl eraill mewn perygl
  16. pwysigrwydd cwrteisi a chadernid wrth ymdrin â digwyddiadau
  17. sut i ymdrin ag ymddygiad ymosodol a sarhaus
  18. pwerau cyfreithiol personau ag awdurdod i ymdrin â photsio a mathau eraill o droseddu gwledig
  19. rôl yr heddlu yn cefnogi gweithgareddau diogeledd
  20. topograffeg yr ardal yn cynnwys mynediad a phwyntiau lle mae golygfa dda
  21. rôl y ddeddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, arweiniad y sector a gofynion sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli diogeledd ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
  22. pwysigrwydd asesu’r camau a gymerir wrth ymdrin â digwyddiadau diogeledd
  23. y systemau sydd ar waith ar gyfer cofnodi ac adrodd ar dystiolaeth o ddigwyddiadau diogeledd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod bach’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.

Monitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt yn cynnwys:
adeiladau
cyfarpar
da byw
anifeiliaid sy’n gweithio
helfilod
plâu ac ysglyfaethwyr
mynediad
tresmasu
potsio
difrodi
amharu ar fywyd gwyllt

Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
Lloegr – DEFRA
Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
Yr Alban – NatureScot
Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru

Gallai cyrff eraill gynnwys: 
timau troseddau gwledig yr heddlu, perchnogion tir lleol, ffermwyr

Potsio: 
symud helfilod o’r gwyllt heb awdurdod

Gallai arweiniad sector gynnwys:
Cod Ymarfer Saethu Da
Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban

Gallai dulliau gwyliadwriaeth gynnwys:
patrolau
dronau
delweddau thermol
offer gweld yn y nos
teledu cylch cyfyng
camerâu llwybr 
camerâu’r corff
camerâu cerbydau
ANPR (Adnabod rhif ceir yn awtomatig)

Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANGWM7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt

Cod SOC

5119

Geiriau Allweddol

helfilod; bywyd gwyllt; diogeledd; potsio; difrodi; ystâd; gwyliadwriaeth