Rheoli diogelwch ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd eu hangen gan unigolion sy’n gyfrifol am reoli diogelwch ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt. Cafodd ei datblygu fel y gellir ei chymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd.
Mae’r safon hon i bobl sy’n gweithio ym maes cadwraeth anifeiliaid hela a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am sefydlu systemau diogelwch, gan gynorthwyo pobl eraill i gynnal diogelwch a delio ag unrhyw ddigwyddiadau diogelwch.
Dylai’r holl staff gael hyfforddiant a briffiau ar ddelio â risgiau diogelwch.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, yn llawn, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau a ddylai eich helpu gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- pennu’r risgiau diogelwch posibl i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- sefydlu a rheoli mesurau diogelwch ataliol a chefnogol ar gyfer yr ardal rheoli bywyd gwyllt, sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol benodol i wlad, codau ymarfer a gofynion sefydliadol
- sefydlu a rheoli dulliau goruchwylio i fonitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- sefydlu a rheoli gweithdrefnau diogelwch sy’n sicrhau bod eitemau rheoledig, gan gynnwys arfau tanio, bwledi a chemegau sy’n cael eu defnyddio i reoli plâu, ynghyd ag eitemau peryglus eraill, yn cael eu storio’n ddiogel ac yn gyfreithlon
- sefydlu a rheoli mesurau diogelwch i reoli mynediad i’r ardal rheoli bywyd gwyllt
- rheoli’r defnydd effeithiol o adnoddau i gynnal diogelwch yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- sefydlu perthnasoedd â chyrff eraill i fonitro a rheoli diogelwch yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- cadarnhau bod dulliau gweithio yn cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn gyson â deddfwriaeth, codau ymarfer a gofynion sefydliadol perthnasol
- defnyddio’r dulliau perthnasol i gyfleu gofynion diogelwch i’r bobl sydd angen gwybod amdanynt
- rheoli digwyddiadau diogelwch yn ddiogel ac yn effeithiol yn unol â’r ddeddfwriaeth, y codau ymarfer a’r gofynion sefydliadol perthnasol
- sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chasglu’n effeithiol o ddigwyddiadau diogelwch neu darfu gan brotestwyr/actifyddion a bod yr heddlu’n cael gwybod amdanynt er mwyn ymchwilio iddynt
- cynnal cofnodion digwyddiadau diogelwch yn unol â gofynion eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i bennu’r risgiau posibl i’r ardal rheoli bywyd gwyllt ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, a phwysigrwydd cyfrif am hyn mewn mesurau diogelwch ac wrth baratoi
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli herwhela, daliadaeth tir a mynediad i ardal rheoli bywyd gwyllt
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli diogelwch arfau tanio, bwledi, cemegau ac eitemau peryglus eraill
- pwysigrwydd cynnal diogelwch cyfarpar, da byw, anifeiliaid gweithio ac anifeiliaid hela
- y cyfnodau o’r flwyddyn pan fydd anifeiliaid hela yn fwyaf agored i niwed
- y camau sy’n gallu cael eu cymryd yn gyfreithlon i leihau gweithgarwch herwhela a digwyddiadau diogelwch eraill
- yr ardaloedd y mae’r risg fwyaf iddynt o ddigwyddiadau diogelwch yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y deddfau penodol i wlad sy’n ymwneud â mynediad, tresmasu a herwhela
- y mesurau y gellir eu defnyddio i reoli mynediad a’u manteision a’u hanfanteision
- dulliau goruchwylio y gellir eu defnyddio i fonitro ardal rheoli bywyd gwyllt
- pwysigrwydd datblygu perthnasoedd gwaith da gyda defnyddwyr tir eraill, cymdogion a chyrff eraill i fonitro a chynnal diogelwch
- sut i reoli diogelwch, a’r bobl sy’n ymwneud â chynnal diogelwch, i sicrhau bod gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol
- pam mae cyfleu gofynion diogelwch yn effeithiol yn bwysig i reoli diogelwch ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
- sut i ddelio â digwyddiadau diogelwch, yn ddiogel, a heb beri risg i chi eich hun nac i eraill
- pwysigrwydd cwrteisi a bod yn ddi-ildio wrth ddelio â digwyddiadau
- sut i ddelio ag ymddygiad ymosodol a sarhaus
- pwerau cyfreithiol unigolion awdurdodedig i ddelio â herwhela a mathau eraill o drosedd wledig
- rôl yr heddlu wrth gefnogi gweithgareddau diogelwch
- topograffi’r ardal, gan gynnwys pwyntiau mynediad a phwyntiau manteisiol
- rôl deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymarfer, canllawiau sector a gofynion sefydliadol perthnasol wrth helpu i reoli diogelwch ar gyfer ardal rheoli bywyd gwyllt
- pwysigrwydd asesu’r camau a gymerwyd wrth ddelio â digwyddiadau diogelwch
- y systemau sydd ar waith ar gyfer cofnodi ac adrodd tystiolaeth o ddigwyddiadau diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Anifeiliaid hela – unrhyw rywogaeth prae cyfreithlon yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar saethu anifeiliaid hela yn amrywio ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid gwirio hynny gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol
Monitro’r ardal rheoli bywyd gwyllt:
· adeiladau
· cyfarpar
· da byw
· anifeiliaid gweithio
· anifeiliaid hela
· plâu ac ysglyfaethwyr
· mynediad
· tresmasu
· herwhela
· difrodi
· tarfu ar fywyd gwyllt
Yr awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
· Lloegr – DEFRA
· Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
· Yr Alban – NatureScot
· Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Gallai cyrff eraill gynnwys: timau troseddau gwledig yr heddlu, perchnogion tir lleol, ffermwyr
Herwhela – mynd ag anifeiliaid hela o’r gwyllt yn anawdurdodedig
Mesurau diogelwch ataliol a chefnogol y gallent gael eu rhoi ar waith:
· Rhwystrau ffisegol
· Diogelwch ffisegol effeithiol [cloi] pwyntiau mynediad a chyfarpar
· Systemau goruchwylio
· Systemau goruchwylio cudd
· Cŵn ataliol
· Gweithwyr diogelwch proffesiynol
Gallai canllawiau sector gynnwys:
· Cod Ymarfer Saethu Da / The Code of Good Shooting Practice
· Canllawiau Arfer Gorau’r Fenter Ceirw / Deer Initiative Best Practice Guides
· Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban / Scottish Wild Deer Best Practice Guides
· Codau Ymarfer BASC
Gallai dulliau goruchwylio gynnwys:
· patrolau
· dronau
· delweddu thermol
· offer gweld yn y nos
· teledu cylch cyfyng
· camerâu llwybrau
· camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff
· camerâu ar gerbydau
· ANPR (Adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig)
Ardal rheoli bywyd gwyllt – unrhyw ardal o dir sy’n cael ei defnyddio i ddarparu gweithgareddau saethu anifeiliaid hela