Gweithredu a monitro cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt
URN: LANGWM6
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Helfilod a Bywyd Gwyllt
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn amlinellu’r cymwyseddau sydd yn ofynnol gan unigolion sy’n gyfrifol am weithredu a monitro cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt i gefnogi poblogaethau helfilod. Mae wedi cael ei datblygu er mwyn gallu ei chymhwyso i unrhyw ardal rheoli bywyd gwyllt.  
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes cadwraeth helfilod a bywyd gwyllt ac sy’n gyfrifol am weithredu a monitro llwyddiant cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a gweithio i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Er mwyn i chi ddeall cynnwys y safon yn llawn, a’r gweithgareddau y mae’n eu disgrifio, mae’n bwysig eich bod yn gallu deall y termau a ddefnyddir yn y safon. Gweler yr Eirfa am rai diffiniadau ddylai eich helpu chi gyda hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro a chynnal gweithgareddau i sicrhau gweithredu’r cynllun rheoli cynefin helfilod a bywyd gwyllt yn effeithiol
- rheoli’r gwaith o ddyrannu adnoddau i gyflawni amcanion y cynllun rheoli cynefin
- cadarnhau bod dulliau gweithio’n cynnal iechyd a diogelwch a’u bod yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol
- casglu a dadansoddi data i fonitro cynnydd yn erbyn yr amcanion a gynlluniwyd
- cadarnhau bod ymyriadau wedi eu cynllunio wedi cael eu gweithredu lle y bo’n ofynnol i gefnogi cyflawni amcanion fel creu cynefin, cynnal cynefin, mesurau i wella iechyd y cynefin a rheoli plâu a fermin
- cadarnhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli cynefin
- cael ac adolygu adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â’r cynllun rheoli cynefin
- gwneud addasiadau i’r cynllun rheoli cynefin yn seiliedig ar yr adborth a gafwyd a phan mae cyfyngiadau’n effeithio ar effeithiolrwydd y cynllun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion amgylcheddol mathau gwahanol o gynefin a geir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y technegau a ddefnyddir i gynnal cynefinoedd
- problemau clefydau cyffredin sydd yn gysylltiedig â’r mathau o gynefin a geir yn yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y gweithgareddau sydd yn ofynnol i fonitro a chynnal y gwaith o weithredu’r cynllun rheoli cynefin yn effeithiol
- yr adnoddau sydd yn ofynnol i gefnogi gweithredu’r cynllun rheoli cynefin, yn cynnwys pobl, cyfarpar a chyllid
- y technegau cofnodi a dadansoddi data addas a ddefnyddir i fonitro effeithiolrwydd y cynllun rheoli cynefin, yn cynnwys dulliau ansoddol a meintiol
- y rheoliadau cenedlaethol a lleol sy’n rheoli cynefin, yn ymwneud â mynediad i gefn gwlad, bywyd gwyllt a chynefinoedd
- sut i bennu dylanwad rheoli cynefin ar rywogaethau ac ar yr ardal
- y ffordd y gellir rheoli’r cynefin trwy ddefnyddio ymyriadau gwahanol fel creu cynefin, cynnal cynefin, mesurau i wella iechyd y cynefin a rheoli plâu a fermin
- y ffordd y mae gweithgareddau rheoli cynefin yn rhyngweithio â gweithgareddau a defnyddwyr eraill yr ardal rheoli bywyd gwyllt
- y cyfyngiadau a allai effeithio ar effeithiolrwydd y cynllun rheoli cynefin, er enghraifft, amcanion ardal bywyd gwyllt, defnyddwyr eraill y tir, gwrthdaro buddiannau, pwysau gwleidyddol, deddfwriaeth, hinsawdd, ffactorau daearyddol, dynodiadau tir ac amcanion cenedlaethol
- cyd-destun tirwedd neu raddfa dalgylch y cynefin sydd yn cael ei reoli a sut mae hyn yn berthnasol i’w gynnal a’i fonitro
- gwerth bioamrywiaeth ac ymarfer cynaliadwy i reoli cynefin
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefin a bioamrywiaeth ac ymateb i a lleddfu effeithiau newid hinsawdd.
- rôl y ddeddfwriaeth, y codau ymarfer, arweiniad y sector a’r gofynion sefydliadol perthnasol sy’n cefnogi rheoli cynefin
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai dynodiadau gynnwys:  
• Parc Cenedlaethol
• Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
•  Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SAC)
•    Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPA)
• RAMSAR
•    Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AONB)
•   Safle Treftadaeth y Byd (WHS)
• Safle Archaeolegol
•    Ymddiriedolaeth Genedlaethol
•  Parth Perygl Nitrogen (NVZ)
•   Parthau Diogelu Dŵr Yfed
•  Henebion Cofrestredig (SM)
•    Adeiladau Rhestredig (LB)
• Parciau a Gerddi Cofrestredig (RPG)
•   Meysydd Brwydrau Cofrestredig (RB) 
•   Safleoedd a nodir ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol (HER)
Helfilod:
unrhyw rywogaeth cyfreithlon o ysglyfaeth yn y wlad lle mae’r saethu’n digwydd. Mae’r cyfyngiadau cyfreithiol ar gyfer saethu “helfilod’ yn gwahaniaethu ym mhob un o bedair gwlad y DU a dylid eu gwirio gyda’r awdurdod cenedlaethol perthnasol.
Awdurdod cenedlaethol sy’n rheoli gweithgareddau saethu:
•  Lloegr – DEFRA
•    Gogledd Iwerddon – NI Environment Agency
•  Yr Alban – NatureScot
• Cymru – Cyfoeth Naturiol Cymru
Gallai arweiniad sector gynnwys:
•  Cod Ymarfer Saethu Da
• Canllawiau Arfer Gorau Mentrau Ceirw 
• Canllawiau Arfer Gorau Ceirw Gwyllt yr Alban
Ardal rheoli bywyd gwyllt:
Unrhyw ardal o dir a ddefnyddir ar gyfer darparu gweithgareddau saethu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANGWM6
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr Ystadau, Rheoli Helfiod a Bywyd Gwyllt        
    
Cod SOC
        5119
        
    
Geiriau Allweddol
            helfilod; bywyd gwyllt; cynefin; rheolaeth